Byron enwog fu'n darlunio
Merch a blodau yn ei llaw,
Y peth tlysaf a fedd natur,
Er ei chwilio drwyddi draw;
A! ti fethaist, Byron ddawnus,
Er dy fost, dy glod, a'th fri,
Swyn i'r llygad sydd yn unig
Yn dy arlun clodfawr di.
Mil mwy liudol i fy nghalon
Clywed merch, cartrefle swyn,
Fel yn arllwys ei llais treiddgar
Am ben llais piano mwyn;
Seiniau natur yn ymblethu
Gyda sain offeryn hardd,--
Dawn a dysg yn ymgofleidio
Dodda galon dyner bardd.
Wrth im' weld ei bysedd meinion
Fel yn dawnsio gyda hoen,
Ar allweddau yr offeryn--
Ffoai gofid, ciliai poen;
Teimlwn fysedd cudd tynerwch
Ar holl dannau'm calon wan,
Bron na syrthiais i ber-lewyg
Gan y swyn oedd yn y fan.
Anwyl eneth, wrth im' wrando
Ar eich llais, oedd imi'n wledd--
Gweled delw gwir brydferthwch
Fel yn eistedd ar eich gwedd,
Dychymygais mewn mynydyn
Fod angylion Gwynfa lan,
Rhwng eich dysg, eich moes, a'ch doniau,
Yn eiddigus wrth eich can.