OS YDYM AM FYND TRWY Y BYD.

Os ydym am fynd trwy y byd

Heb gwrdd a phrofedigaeth,

A chael yr haul uwch ben o hyd,

Heb gwmwl siomedigaeth;

A throi gofidiau o bob rhyw,

I gyd yn fel a menyn,

Y ffordd i ni yw dysgu byw

I gyd 'run fath a'r gwenyn.

Awn fel y gwenyn at ein gwaith,

Pan d'wyna haul y borau,

Bydd melus dod yn ol o'r daith

Dan lwyth o'r golud gorau;

Dos, ddyn, i'r maes, ac yno gwel

Ryw gyfoeth ar bob cangen,

Mae Duw yn dangos lle mae'r mel

I'r sawl sydd arno'i angen.

Os gwlawia'r nen drallodion lawr,

Paid bod yn llwfrddyn claear,

A phaid a gwneud rhyw fynydd mawr

O dwmpath pridd twrch daear;

Os gweli rywdro yspryd syn,

Wel, paid a mynd i grynu,

Sylldremia yn ei wyneb gwyn,

Mae'n sicr o ddychrynu.

Os daw ynfydion ar eu taith

I gynnyg dy hyfforddi,

Dos di ymlaen i wneud dy waith

Ynghanol eu baldorddi;

Os daw celwyddau gyda'r gwynt,

'Run fath a'r gwynt darfyddant,

Mae rhaffau celwydd ym mhob hynt

Yn crogi'r rhai a'u nyddant.

Mae'n rhaid i'r storm gael rhuo'n brudd,

A ffyliaid fod yn ffyliaid,

Er hynny, synwyr wel y dydd

I gladdu pennau byliaid;

Gan hynny rhwym dy wregys cryf

Pan fflachia'r mellt yn d'ymyl,

Ac edrych am yr haul yn hyf--

Mae ef tu ol i'r cymyl.

Os wyt am gadw ar ffordd y gwir

A gochel bradus heidiau,

Gwell iti gadw'th draed o dir

Gwleidyddiaeth a'i holl bleidiau;

Mae "A. B. C." gwleidyddwyr tynn

A "V" ar ben y wyddor,

Ond main yw'r lle a geir i'r hyn

A elwir yn egwyddor.

Paid gwisgo'th galon ar dy fraich

Os na fydd eisieu hynny,

A phaid a chrymu dan dy faich,

Ond cwyd dy ben i fyny;

Boed gwres ymroddiad yn dy waed,

A dywed trwy bob tywydd,

Fod daear rhyddid dan dy draed,

A Duw uwch ben yn llywydd.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 108 / 111 题