("Oh! happy be thy dreams").
O! dedwydd, dedwydd, bo dy hun,
Llawn o ddedwyddwch fo'th freuddwydion di;
Y bryniau aur sydd byth dan heulog hin,
A'r awyr las sy'n ddwyfol glir i ti;
Fry, fry, mae ysbryd pur dy fam,
Draw'n gwylio dros dy hun rhag it' gael cam,
Mor bur a'r ser sy'n gwylio dros dy lun,
O! dedwydd, dedwydd, bo dy hun.
O! dedwydd, dedwydd, bo dy fywyd di,
Mae'th fam yn gwylio'th gwsg o'r nef yn awr;
A'r llaw fu'n arwain hon i'r gwynfyd fry
Fo eto i'th arwain di trwy'r cystudd mawr;
Bydd llygaid engyl gyda llygad mam
Byth, byth, i'th gadw rhag cael unrhyw gam,
Cwsg tra mae'r ser yn gwylio uwch dy lun,
O! dedwydd, dedwydd, bo dy hun.
'RWY'N DOD, 'RWY'N DOD.
(Just as I am).
Er mwyn y gwaed, fy Iesu hael,
Mae gobaith i bechadur gwael;
Ac fel yr un aflana'n bod,
At orsedd gras--'rwy'n dod, 'rwy'n dod.
Ni oedaf funud awr yn hwy
Heb guddio f' hun mewn marwol glwy',
Wrth droed dy groes yw'r fan i fod,
Fy Nghrist, fy Nuw,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod.
Er cael fy nhaflu ar bob llaw,
Gan ofn gelynion yma a thraw;
Ac er fod ofnau cas yn bod,
O fewn fy mron,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod.
Er mod i 'n ddall, yn noeth, yn dlawd,
Mae'r Hollgyfoethog imi'n frawd,
A thrysor penna'r nef sy'n bod,
Yng nghroes fy Nuw,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod.
'Rwy'n credu'r hen addewid wiw,
Fod maddeu'n nghalon dyner Duw;
Cael claddu'm meiau yw fy nod,
Yng nghlwyfau'r Oen,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod.
Gwnaeth cariad Crist y ffordd yn rhydd,
O wlad y nos i wlad y dydd;
Mae miloedd yno'n canu 'i glod,
'Rwyf finnau'r gwan, yn dod, yn dod.