GRUFFYDD AP CYNAN.

Ar fore teg flynyddau'n ol,

Ffarweliodd Gruffydd gyda fi,

Wrth ysgwyd llaw dros gamfa'r ddol,

Ein dagrau redent fel y lli;

Ysgydwai'i gledd yn nhrofa'r ffordd

I ddwedyd wrthyf ffarwel mud,

Tra'm calon innau megis gordd

Yn curo'n gynt, yn gynt o hyd.

Cychwynnai ef i'r rhyfel trwm,

I ganol erch elynol lu,

A chyda chalon fel y plwm,

Cychwynnais innau'n ol i'r ty;

Ond gyrrodd Gruffydd weddi fyw

Gynhwysai f'enw i i'r nef,

A chlywodd clust agored Duw

Fy ngweddi innau drosto ef.

Ar ddydd y frwydr trwy'r prynhawn,

Tra'r o'wn yn synfyfyrio'n ffol,

Breuddwydiais freuddwyd rhyfedd iawn,--

Fod Gruffydd wedi dod yn ol;

Y bore ddaeth, a daeth y post,

Gan gludo newydd prudd dros ben,

Fod Gruffydd wedi'i glwyfo'n dost,

Ag eisieu gweld ei eneth wen.

Cychwynais ato yn y fan,--

Ce's edrych ar ei welw rudd,--

Cyn hedeg o'i anfarwol ran

I weld ei Dduw mewn gwlad o ddydd;

"Ffarwel, fy ngeneth," ebai ef,

"Mae telyn yn fy nisgwyl i,

A honno, meddai engyl nef,

Y nesaf un i'th delyn di."

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 98 / 111 题