YSGYDWAD Y LLAW.

(Can. Y gerddoriaeth gan Mr. Jos. Parry Mus. Doc.).

Bum yn ysgwyd fy llaw a llawer,

A'u gafael yn oer ddi-fraw;

Nid ydoedd y galon gynnes

I'w theimlo yn dod i'r llaw;

Mae ereill ymron ag ofni

I'w llaw gael llychwino'i gwawr,

Ond caraf gael llaw i'w hysgwyd

A galedwyd gan lafur mawr.

Bum yn ysgwyd y llaw wen, dyner,

Pe buasai y rhos di-ail

Rhwng bysedd y llaw wen honno

Ni buasai yn siglo'i ddail;

Ond teimlais guriadau'r galon

Yn rhedeg i ben pob bys,

A theimlais onestrwydd yno

Fel yn gwefrio y fron ar frys.

Fe ddywedir fod iaith y galon

I'w darllen ar ruddiau dyn,

Ac y saetha o'r llygaid gariad,

Sydd yn gryfach na nerth ei hun;

Ond gwelais fod twyll mewn gwenau,

Edrychant yn deg o draw,

Ond ni cha'dd fy mron ei thwyllo

Erioed pan yn ysgwyd llaw.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 97 / 111 题