Y BLODYN GWYWEDIG.

Tra'n eistedd fy hunan un hwyr dinam,

Yn ymyl y ffenestr at fachlud haul,

Yn fy llaw yr oedd llyfr ges gan fy mam,

Ac yno dechreuais a throi ei ddail;

Cyn hir, syrthiai blodyn gwywedig i lawr;

Rhwng y dail y bu am flynyddau maith,

A gweled y blodyn gwywedig yn awr

Dynnai'r dagrau yn lli o'm llygaid llaith;

A chofio a wnawn am y dyddiau gynt

Pan wyliai fy mam dros ei phlentyn bach,

A phan redwn i yn rhydd fel y gwynt,

Heb ofal am ddim, a fy nghalon yn iach.

Edrychais i weled y ddalen gu

Lle dodwyd y blodyn gwywedig, gwan,

Gwelais yno eiriau a'm toddai i,

Geiriau gweddi f'anwylaf fam ar fy rhan;

Meddyliais fod mam wedi dianc draw

I ardal lle nad yw y blodau yn wyw,

Os syrthiodd ei chorff lawr i'r bedd gerllaw,

Anfarwoldeb flodeua yng ngardd fy Nuw;

Mi godais y blodyn oedd wrth flaen fy nhroed,

Ac ar weddi fy mam y dodais ef,

A gollyngais fry un ochenaid fawr

Am gael mynd cyn hir at fy mam i'r nef.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 99 / 111 题