DYFODIAD YR HAF.

Mi glywais fronfraith yn y llwyn

Yn canu bore heddyw,

A dwedai yn ei hanthem fwyn,--

"Mae'r gaeaf wedi marw."

Tra cana'r fronfraith beraidd glod,

Mae'r haul yn gwenu'n llon uwchben,

A'r briaill man wrth fon y pren

Yn edrych fyny tua'r nen,

I weld yr haf yn dod.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 70 / 111 题