DALEN CYFAILL.

Nis gallaf alw'r ddalen hon

Yn ddalen i athrylith,

Ni hoffwn fritho'i gwyneb llon

A gweigion eiriau rhagrith;

Addurno'u dail ag ysgrif hardd

Adawaf i rai ereill,

Os caf fi alw dalen bardd

Yn ddalen cywir gyfaill.

Paid byth a meddwl, gyfaill mwyn,

Am gyfeillgarwch trylen,

Y gall yr awen byth ei ddwyn

I bennill ar un ddalen;

Na, na, mae cyfeillgarwch byw

Yn uwch, yn is ei syniad,

Mae'n hirach, lletach, dyfnach yw

Na holl ddalennau'r cread.

Ond un peth yn y ddalen hon

Sy'n hynod debyg iddo,

Mae'n berffaith wyn a phur ei bron

Cyn i fy llaw ei britho;

Peth arall yn y ddalen wen

A ddeii gymhariaeth eto,

Mae cyfeillgarwch pur fel llen

Yn hawdd i weled trwyddo.

Gall llaw ddiystyr ddod ryw dro

I rwygo hyn o ddalen,

Pan fyddwn ni ein dau'n y gro

Heb fywyd, gwres, nac awen;

Gall dwylaw malais ddod ryw bryd

I aflonyddu'n heddwch,

Ond gofyn gwaetha dwylaw'r byd

I rwygo'n cyfeillgarwch.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 71 / 111 题