HEN GYMRY OEDD FY NHADAU.

Hen Gymry oedd fy nhadau gynt,

A Chymro glan wyf fi,

A charu'r wyf yr awel wynt

A hed dros Gymru gu;

'Rwy'n caru'r wlad a'm magodd,

Ei rhyddid pur a'i chlod,

Ac yn y wlad bu farw nhad

'Rwyf finnau fyth am fod;

Mi glywais am ryw wledydd

Sydd yn uwch mewn parch a bri,

Ond Cymru,--anwyl Gymru,

Sydd yn ddigon hardd gen i.

A'r sawl sy'n dewis gadael hon,

'Rwy'n dwedyd i ti, ffrynd,

Os cei di'n rhywle wlad sydd well,

Mae croesaw i ti fynd.

Feallai nad yw'n Gwyddfa ni

Mor uchel yn y nen,

A gallai nad oes cymaint trwch

O eira ar ei phen;

Feallai fod mynyddau mwy

I'w cael mewn gwledydd pell,

A gallai fod eu dolydd hwy

Yn frasach ac yn well;

Ond gennym ni mae'r cymoedd,

Gyda'u nentydd gloewon, glan,

Lle cenir tonau heddwch pur

Ar fil o dannau man;

Mae yno ryddid ar bob bryn

Yn chwareu yn y gwynt,

A hen adgofion ym mhob glyn

Am ddewrder Cymry gynt.

Mae llynges Prydain ar y mor

Yn ben llynghesau'r byd,

Gall Prydain gau ac agor dor

Yr eigion ar ei hyd;

Mae llawer Cymro ar ei bwrdd

A chalon fel y llew,

Yn barod ar bob pryd i gwrdd

A'r gelyn mwyaf glew;

Ni gadwn undeb calon,

Gyda modrwy aur y gwir,

Tra fyddo modrwy loew'r mor

Yn amgylchynu'n tir;

Os rhaid, ni godwn gleddyf dur,

Ac unwn yn y gad

Dros ryddid hoff a chrefydd bur,

A gorsedd aur ein gwlad.

Mawrth, 1877.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 69 / 111 题