Ust! ust! dyna gnoc! pwy sy'n curo mor hy?
O diolch--a William yn dyfod i'r ty!
Pwy draetha'u teimladau pan syrthiodd y ddau
Ar yddfau eu gilydd i gyd lawenhau?
Dechreuai William ddweyd yn awr
Ei hanes prudd, pan syrthiodd lawr,
Ac fel 'r achubwyd ef mor hyf
Gan law ddieithr morwr cryf;
"O na chawn ei weled," atebai y fam,
"Y morwr achubodd fy mhlentyn rhag cam,
Cai ddiolch fy nghalon am achub o'r lli.
Yr hwn sy'n anwylach na mywyd i mi."
"Myfi yw y gwr," ebe llais yn y ddor,
"Achubodd y bachgen rhag marw'n y mor,"--
"Fy Nuw!"--ebe Mari, pan welodd y dyn,
A syrthiodd i freichiau ei phriod ei hun.
Dechreuwyd a holi ac adrodd mor hy,
A'r tri yn cydwylo wrth ddweyd sut y fu,
Y tad yn rhoi darlun o droion y daith,
A'r fam yn rhoi darlun o'i phryder tra maith.
'Mhen awr, fe ddaeth cenad i'r bwthyn dinam
At Mari yn dweyd fel bu farw ei mam;
Y clefyd ddadglodd gloion rhydlyd ei serch,
A phwnc ei myfyrdod oedd Mari ei merch,
"Rwy'n maddeu i Mari fy merch," ebe hi,
A deigr edifeirwch yn treiglo yn lli;
A neidiodd o'i gwely, ac allan yr aeth,
A chodi ei dwylaw i'r nefoedd a wnaeth,
Ar drothwy y drws lle cilgwthiodd ei merch,
Am roi ei deheulaw lle rhoddodd ei serch;
Gweddiodd yn daer am faddeuant yr Ior,
Ac yno bu farw ar drothwy y ddor.
Bu'r morwr a Mari am flwyddau hir, hir,
Yn byw mewn dedwyddwch dan awyr serch clir,
A William a dyfodd yn addurn i'w wlad,
Yn eilun ei fam, ac yn bopeth ei dad.
* * * * *
Y sexton ar hynny eisteddodd i lawr,
A'r tan oedd yn llosgi yn isel yn awr;
Aeth pawb tuag adref 'rol cael y fath wledd,
Aeth yntau i'r fynwent i dorri y bedd.
[Y Gof. "Gewynnau ei fraich sydd mor galed a'r dur,
Ei galon, er hynny, sydd dyner a phur.": myn64.jpg]