Ryw fore, rhoi'r postman ddau guriad i ddor
Y bwthyn bach hwnnw yn ymyl y mor,
A Mari a glybu, ond teimlai ryw fraw
Yn mynd at ei chalon, a chrynnai ei llaw,
A methai gan ofnau a myned ymlaen,
'Roedd blwyddau er pan gadd hi lythyr o'r blaen.
Hi gafodd y llythyr ar drothwy y ddor,
A gwelai ei fod wedi dod dros y mor;
Llawysgrif pwy ydoedd? O ba wlad y daeth?
Ai William sy'n glaf, neu a oes newydd gwaeth?
Agorodd y sel, a darllennodd--ond och!
'Roedd gwaed y cynhyrfiad yn rhewi ar ei boch;
Y capten a'i gyrrodd i ddweyd fel y bu--
Fod storm wedi codi, fod corwynt a'i ru
Bron wedi achosi llongddrylliad tra erch,
Ac hefyd fod William, canolbwynt ei serch,
Yng nghanol y ddrycin, a'r storm, wedi cwrdd
A damwain, a syrthio i'r mor dros y bwrdd.
Fe dorrodd y newydd ar deimlad y fam
Fel taranfollt erchyll, a'i chalon rodd lam;
Mor hynod ddisymwth bu'r ergyd i hon,
Nes clodd y fath newydd ei dagrau'n ei bron;
Ni wyddai p'le i droi, na pha beth i'w wneud,
Ond teimlai lais distaw'n ei mynwes yn dweyd,--
"Feallai fod gobaith, feallai i'th Dduw
Ofalu am William, a'i fod ef yn fyw."
Hi syrthiodd ar ei gliniau
A chodai fyny ei llef,
Trwy'r storm o orthrymderau,
At un sydd yn y nef;
Ond ofnai fod ei gweddi
Yn gofyn gan yr Ior
Am achub un oedd wedi
Ei gladdu yn y mor.
Daeth eilwaith adlais distaw
O fewn i'w mynwes wyw,
I ddweyd er hyn y gallai
Fod William eto'n fyw;
A'r adlais hwnnw roddodd
Ail nerth i'w gweddi gref,
Nes gyrrodd mewn ochenaid
Ei chalon tua'r nef.