SYR WATCYN WILLIAMS WYNN.

Ym mhlith yr holl foneddwyr

A geir yng Nghymru lan,

Mae rhai boneddwyr mawrion,

A'r lleill yn od o fan;

Ond gwnewch un bwndel anferth

O fonedd Cymru 'nghyd,

Syr Watcyn, brenin Cymru,

Sy'n fwy na'r lot i gyd.

Lle bynnag tyfa glaswellt,

Lle bynnag t'wynna haul,

Fel tirfeddiannwr hynaws

Ni welwyd un o'i ail;

Mae'n frenin gwlad y bryniau,

A chyda hyn o ran,

Mae'n frenin yng nghalonnau

Ei ddeiliaid ym mhob man.

Ewch at y weddw unig,

Ewch at amddifad tlawd,

Syr Watcyn yw eu noddwr,

Syr Watcyn yw eu brawd;

Trwy ddagrau diolchgarwch

Ar ruddiau llawer un

Argraffwyd yr ymadrodd,--

"Syr Watcyn ydyw'r dyn."

Mae ef yn wir foneddwr,

'Does neb all ameu hyn,

Mae'i glod fel llanw'n llifo

Dros lawer bro a bryn;

Ac nid yn unig hynny,--

Mae'n Gymro pur o waed,

A Chymro glan bob modfedd

O'i goryn hyd ei draed.

Hir oes i'r mwyn bendefig,

Medd calon myrdd pryd hyn,

A byw ddwy oes a hanner

A wnelo Lady Wynn;

Hir oes i'r holl hiliogaeth,

A chyfoeth heb ddim trai,

A bendith nef fo'n aros

Ar deulu hen Wynnstay.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 61 / 111 题