"Roedd annedd fy Mari a minnau a'r ddor
A'i gwyneb i waered at lan y mor,
Ac ni fu dedwyddach dau yn y byd
Na Mari a minnau tra buom yn nghyd.
Ryw noson anhapus--mi cofiaf hi byth--
Daeth ysbryd anghydfod dros drothwy ein nyth,
A Mari a minnau a gawsom air croes,--
Y cyntaf a gawsom erioed yn ein hoes.
"Eis allan yn sydyn, a chauais y ddor,
A chrwydro y bum ar hyd erchwyn y mor,
Yn gwylio y tonnau yn chwareu'n y fan
Ym mynwes eu gilydd hyd ymyl y lan;
Dan chwerthin a neidio o amgylch fy nhroed,
Yn orlawn o fywyd fel plant deuddeg oed.
Meddyliais mor ffol y bum i gyda'r fun
A garwn yn fwy na fy enaid fy hun;
Ac eistedd a wnaethum mewn myfyr tra syn,
A chenais gan fechan yn debyg i hyn,--
"'Mari anwyl, wnei di faddeu
Fy ymadrodd creulon, ffol,
Gaf fi yfed gwin dy wenau
Pan y deuaf yna'n ol?
Pam y rhaid i gariad cywir
Fod yn llanw ac yn drai?
Arnaf fi, fy Mari anwyl,
Arnaf fi yr oedd y bai.
"'Mynnaf brynnu gown o sidan
Goreu fedd yr hollfyd crwn,
I'w roi i Mari a'm llaw fy hunan,
I wneud fyny'r cweryl hwn;
Gwn y medr Mari faddeu
Holl ffaeleddau cariad gwir,
A thrawsffurfio gyda'i gwenau
Gwmwl du yn awyr glir.'
"Pan oeddwn yn dychwel a'r gown i fy mun,
Gan deimlo yn ddig wrth fy ffoledd fy hun,
A theimlo y mynnwn i wneuthur fy rhan
I garu y cweryl o'r ty yn y fan;
Ar hynny! mi deimlwn ryw law nerthol, fawr,
O'm hol yn fy nhynnu yn llegach i'r llawr,
A phedwar o forwyr a'm rhwyment mewn brad,
Ac ymaith y'm cipiwyd i lawr at y bad!
Un cilgwth!--un floedd a drywanai fy mron,
A dyna ni'n nofio ar wyneb y donn.
"Llong ryfel angorai draw, draw ar y donn,
A rhwyfai y morwyr yn union at hon,
A mi, fel mewn breuddwyd, a gefais fy hun
(Yn lle bod yn gofyn maddeuant fy mun)
Yn nghanol y milwyr, a'r morwyr llawn brad
Yn hwylio i ryfel yn syth o fy ngwlad."