III.

Y storm a aeth heibio, a'r dwylaw wnaent gwrdd

I gyfarch eu gilydd yn llon ar y bwrdd;

"Mae'r cyfan yn fyw," ebe'r Capten yn llon,

A diolch a gweddi yn llanw ei fron:

"Na!--arhoswch; pa le y mae William ddinam,

Y llencyn oedd newydd roi ffarwel i'w fam?"

Ond dwedai rhyw un ag ochenaid ddofn, ddofn,

"Nid ydwyf yn sicr, ond y mae arnaf ofn

Fod drwg wedi digwydd, pan ruai y gwynt,

Gan luchio a thaflu y llong ar ei hynt,"

'Roedd William yn mrigyn yr hwylbren, hir, praff,

Yn ceisio ategu yr hwyl gyda rhaff;

Fe ruthrai y gwynt, ac mewn eiliad neu ddwy

'Roedd y llanc wedi myned na welwyd ef mwy.

Y tu ol i'r llestr, draw, draw ar y donn,

Yn ymladd am fywyd, 'roedd llanc a fu'n llon,

A'i obaith a'i nerth ar ddiffygio yn llwyr,

A'r t'w'llwch yn dechreu cau amrant yr hwyr;

Ar hyn, dacw gwch yn nesau ato ef,

A'i hwyliau fel edyn rhyw angel o'r nef;

A phan yr oedd William yn suddo i lawr,

Wele forwr yn estyn ei ddeheu law fawr

I safn y dyfnderau, glafoerllyd, di rol,

Gan godi y bachgen i fywyd yn ol.

Am oriau bu'n hollol ddideimlad fan hon,

Ond rhith weledigaeth oedd fel ger ei fron;

Fe welai ei fam yn sylldremio o'r lan,

A chlywai'i hochenaid yn esgyn yn wan;

A gwelai ofidiau gordrymion a phrudd

Yn tynnu eu herydr ar hyd ei dwy rudd;

A gwelai ei gartref yn ymyl y nant,

A'r pentref, a'r felin, a'r ysgol, a'r plant,

Ac yntau ei hunan yn chwareu'n ddinam--

A deigryn yn treiglo o lygad ei fam.

Gofynnai'n ei freuddwyd,--"Mam, pam yr ydych chwi

Yn wylo eich dagrau cariadus yn lli?"

A hithau yn ateb fel hyn yn y fan,--

"'Rwy'n cofio fy machgen yn faban bach gwan,

Ac wedyn yn tyfu mewn nerth ac mewn oed

I neidio a chwareu o amgylch fy nhroed."

Ar hyn daeth rhyw niwl dros ei feddwl yn chwim,

A'i fam a ddiflannodd fel cysgod yn ddim;

A gwelai len arall yn lledu o'i flaen,

A breuddwyd mewn breuddwyd yn agor o'i flaen.

Ymhellach yn ol, fe welai ei fam

Yn suo a hwian ei baban dinam,

Ar hyn, dyna rywun yn cnocio yn hy,

A morwr cryf, barfog, yn dyfod i'r ty,

A safai cyn dechreu llefaru;

Nid hir y bu yno cyn gweled ei wraig,

A deigryn a safai ar rudd oedd fel craig,

Ymgrymai i roddi ei gusan i hon,

A'r cwbl a ddwedodd a'i ben ar ei bron,--

"Fy Mari, O fy Mari!"

Ond William ddeffroai yn raddol ar hyn,

A bywyd ail wridai ei wyneb gwyn, gwyn,

A gwybu yn fuan mai morwr cryf, llon,

A'i cipiodd mor wyrthiol o afael y donn;

'Roedd hwnnw ac ereill yn dianc o Ffrainc,

Pan oedd yr hen Boni yn llywydd y fainc.

A phan y daeth William i fywyd yn ol,

'Roedd y wawr yn ymgodi a'r haul yn ei chol,

Gan chwalu y t'w'llwch a'r caddug ar daen,

A bryniau hen Gymru 'n ymgodi o'i flaen.

Edrychai'n fyfyriol ymlaen tua'r tir,

A'i freuddwyd yn gwibio trwy'i feddwl mor glir,

A syllai bob 'nail ar y morwr hardd, cryf,

Yr hwn a achubodd ei fywyd mor hyf;

A chofiai ei freuddwyd, ei gartref, a'r dyn

Yn curo y drws, ac yn agor ei hun,

Ac nis gall anghofio y dyn yn ei fyw,

Wrth weled y morwr yn gweithio y llyw.

"Paham yr edrychwch i'm gwyneb o hyd?"

Gofynnai y morwr, tra gwrol ei bryd;

"Myfyrio yr oeddwn ar freuddwyd tra ffol,"

Medd William, gan syllu i'r glannau yn ol,

"Lle gwelais fy hunan yn blentyn di-nam,

Yn chwareu o amgylch i liniau ei fam;--

Lle clywais i rywun yn curo yn hy',

A morwr o rywle yn dyfod i'r ty,

A synnu yr oeddwn, mor debyg i chwi

Oedd hwnnw a welais yn dod i'n ty ni."

"Dywedwch i mi," ebe'r morwr yn awr,

Gan syllu drwy bellder goleuni y wawr,

"A oes gan eich mam lygad glas yn ei phen

Sy'n ganmil disgleiriach na glesni y nen?

Oes ganddi hi ruddiau, dywedwch yn rhwydd,

A wrident yr eira pe bae yn eu gwydd?

Oes ganddi hi wallt fel y nos ar ei phen

Yn disgyn fel cwmwl ar hyd ei grudd wen?

Ond gall, o ran hynny, fod main gennych chwi

Yn ateb i'r darlun a dynnir gen i,

A mi heb ei gweled mewn llan nac mewn llys,

Ond,--welsoch chwi fodrwy ryw dro ar ei bys,

A math o lun calon mewn perlau yn hon,

A gwallt yn ei chanol yn ddolen fach gron?"

"Mae gan fy mam lygaid fel glesni y nen,

A gwallt sydd fel hanner y nos ar ei phen,

Mae harddwch yn byw ar ei gwefus a'i gen,

Ac ysbryd serchawgrwydd yn dawnsio'n ei gwen;

Ac hefyd, wrth feddwl, mae adgof gen i

Am fodrwy 'run fath a'r un hon ddwedsoch chwi,

A math o lun calon mewn perlau yn hon,

A gwallt yn ei chanol yn ddolen fach gron!"

"Ai breuddwyd yw hyn?" ebe'r morwr yn rhydd,

A'i deimlad a'i galon yn neidio i'w rudd,

"Ai'm mab a achubais o afael y donn?

Ai delw fy Mari yw'r llygad byw, llon,

A welaf o'm blaen? 'Rwyf yn diolch i'r Nef,

Mae Mari yn fyw, a fy machgen yw ef!"

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 57 / 111 题