II.

Pan gwrddodd Mari gyda fi,

Ei dagrau redent fel y lli;

Hi deimlai'n ddedwydd ar un llaw,

Ac o'r tu arall, ofn a braw

A lanwai'i bron. Hi ddwedai'r oll

Oedd yn ei theimlad yn ddigoll;

Agorai'i bron, can's roeddwn i

Yn gyfaill mebyd iddi hi.

Datodai glo ei chalon fawr,

A dwedai'i thywydd imi'n awr,

A'r fath onestrwydd yn ei phryd

Nes teimlwn i'm teimladau i gyd

Yn toddi'n llwyr; a gwenau hon

A wnaent i minnau wenu'n llon,

A gweld ei dagrau'n treiglo'n lli

A sugnent ddagrau 'nghalon i.

Ond pan yn tynnu tua phen

Ei chwedl brudd, fy ngeneth wen

A ddwedai, gyda'i llygad du

Yn saethu teimlad ar bob tu,--

"O fel yr ofnwn wg fy mam,

Yr hon a'm gwyliodd ar bob cam:

A balchder gyda thanllyd serch

A'i gwnaeth yn ffol uwch ben ei merch.

"Priodi a wnaethum heb wybod i mam--

'Roedd hynny, 'rwy'n addef, yn bechod a cham;

Ond beth oedd i'w wneud, a pheth ddaethai i'm rhan,

Pan oedd cariad mor gryf, a minnau mor wan?

Ni allwn gyfaddef i mam er y byd,

Ond wedi priodi, ni aethom ynghyd

I ofyn maddeuant ei mynwes dinam,

Ond serch wedi'i gloi erbyn hyn oedd gan mam.

"Hi allodd gau y drws a'i gloi

Ar ol ei merch, a medrodd droi

Clust fyddar at fy ymbil taer,

A dweyd yng ngolen'r lleuad glaer,--

'Gan iti fynnu'th ffordd bob cam,

A chroesi 'wyllys gref dy fam,

Dos gydag ef, yr hoeden ffol,

A phaid a dychwel byth yn ol.'"

Fe wylai Mari'n hidl fan hon,

Agorodd holl argaeau'i bron,

A d'wedai,--"'Nawr, fy nghyfaill pur,

Cyn darfod adrodd chwedl fy nghur,

A wnewch chwi addaw'r funud hon

I gloi y chwedl yn eich bron

O wydd pob dyn trwy'r byd;

Er imi dynnu arnaf gam,

Ac er im' ddigio mynwes mam,

Fy mam oedd hi o hyd.

"Aeth heibio flwyddyn gron, fy ffrynd,

A holl dafodau'r lle yn mynd

Yn gyflym gyda'm hanes prudd,

A mam rhy falch o ddydd i ddydd

I geisio clirio'i geneth wen,

A cheisiai gadw i fyny'i phen

Drwy fynd i'r eglwys yn ei du,

Fel pe buasai'i geneth gu

Yn gorwedd yn ei thawel fedd,

Lle gorffwys pawb mewn hun a hedd."

Un noson oer, mewn gaeaf du,

Eisteddwn ar fy aelwyd gu,

Gan wylio'r marwor mawn a choed

Yn syrthio'n lludw wrth fy nhroed,

Yn ddrych o ddynion llon eu gwedd

Yn goleu i ddiffodd yn y bedd.

Fy meddwl grwydrai'n rhydd a ffol.

Pan yn ddisymwth o'm tu ol

'Roedd swn cerddediad!--pan y trois,

Mi glywn fy enw mewn acen gyffrous,

A phwy oedd yno ger fy mron

Ond Mari a'i baban ar ei bron!

Ei llygaid gloewon, gleision, mawr,

A safent yn ei phen yn awr;--

Edrychai i'r tywyllwch prudd

Fel pe buasai'n gweld ynghudd

Ysbrydion ei mwynderau gynt

Yn gwibio o'i chylch ar gyflym hynt!

Dechreuai ddweyd ei chwyn a'i chais

Mewn math o anaearol lais,

A theimlwn fel pe buasai ddelw o faen

Yn sefyll,--yn edrych,--a siarad o'm blaen.

"Mi eis at ddrws fy mam yr ail waith,

Ac eilwaith trodd fi ffwrdd;

Yr unrhyw galed, oeraidd iaith,

Oedd yno yn fy nghwrdd.

"Mi ddaliais hyn fel arwr glew,

Can's 'roedd fy nghalon fel y rhew,

Ond pan y gwgodd f'anwyl fam

Wrth wel'd fy maban baeh dinam,

Aeth cleddyf trwy fy mron yn syth--

Mae'r archoll hwnnw yno byth.

"Ac am fy ngwr--fy anwyl John,

'Roedd ef ar wyllt bellderau'r donn;

Un dydd wrth fynd am dro o'r dref,

Ni gawsom ffrae, a ffwrdd ag ef.

Nis gallswn weithio yn fy myw,

Na phlygu'm glin o flaen fy Nuw;

'Doedd dim ond troi yr adeg hon

A'm baban tyner ar fy mron

At mam;--ond honno, er fy nghur,

Oedd fel y garreg yn y mur.

Fy Nuw a wyr fel snddais i

O dan ei geiriau cerrig hi;

A'r oll o'm serch yr adeg hon

Oedd yn fy maban ar fy mron."

Fe beidiai Mari lefaru yn awr,

A minnau yn edrych yn syn ar y llawr;

Ac fel mewn eiliad--'roedd fy ffrynd

A'i baban serchus wedi mynd!

Deallais wedyn iddi droi

Ei gwyneb tua Llundain bell,

Pan nad oedd mam na neb i roi

I'w mab a hithau gynnes gell.

O! pwy all ddweyd na meddwl chwaith

Ei theimlad ar y brif-ffordd faith,

Heb ddillad cynnes am ei chefn,

A'i chalon FU'n llawn serch drachefn,

Gan chwerw drallod, honno wnaed

Mor oer a'r brif-ffordd dan ei thraed.

'Roedd pob anadliad roddai hon

Yn sugno ochenaid ddofn o'r bron,

A phob cam roddai 'n tynnu gwaed

O'i thyner flin ddolurus draed.

O gam i gam, o awr i awr

Cyrhaeddyd wnaeth i'r ddinas fawr;

Ac ar y palmant caled, oer,

Llewygu wnaeth yng ngolau'r lloer.

Yr oedd hi'n nos, ac nid oedd neb

A sychai chwys ei dwyrudd wleb

Heblaw y gwynt, ac ni wnai ef

Ond chwiban heibio hyd y dref.

Ond pan oreurai'r wawr y ne'

Daeth rhyw Samaritan i'r lle,

A chodai hi fel delw wen,

A rhoddai bwys ei thyner ben

Ar fron tosturi,--a'r baban bach

A gysgai hun ddiniwaid iach,

Ar hyd y nos flinderus faith

Ar fron mor oer a'r garreg laith.

Aeth ef a'r ddau yn ol i'w dy,

A'i wraig drugarog, serchus, gu,

A'u hymgeleddai gyda serch

A chydymdeimlad calon merch,

Gwreichionen olaf bywyd brau

Gyneuai'n ol dan law y ddau.

Deffroai Mari gyda hyn

I gael ei hun mewn gwely gwyn,

A gwen trugaredd uwch ei phen

Yn edrych ar ei dwyrudd wen.

Nid oedd gan wr a gwraig y ty

(Lle dodwyd Mari),--blentyn cu,

A gall mai dyna'r rheswm pam

Y carai'r rheiny gael y fam,

Er mwyn cael gwylio'i baban bach

Yn tyfu'n llencyn gwridog, iach.

Dechreuai'r bychan chwareu'n rhydd,

A rhosyn iechyd ar ei rudd,

A gweithiai'r fam a chalon rwydd

Wrth weld ei gobaith yn ei gwydd

Yn tyfu'n hogyn gwyneb crwn,

A'i serch ymglymai o gylch hwn.

* * * * *

Awn heibio i flynyddau maith,--

Fe dyfai'r llanc,--gwnai'r fam y gwaith,

Ac ni fu'r blwyddau meithion hyn

Heb ambell smotyn hafaidd, gwyn.

Edrycha'i llanc yn hoew a chryf,

A'i natur fywiog, hoenus, hyf,

A godai awydd yn ei fron

I fynd yn forwr nwyfus, llon;

Dychmygai nad oedd unrhyw ddor

Yn agor iddo ond y mor.

Fe deimlai'i fam, a theimlai'n flin,

Ond ni ddaeth gair dros drothwy'i min,

A'r bore ddaeth i'r llanc dinam

I rwygo'i hun oddiwrth ei fam.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 56 / 111 题