I.

Ar nos Nadolig oer a llaith,

Ers deugain o flynyddau maith,

Bu farw Harri Huws;--'roedd ef

Yn cael ei garu gan bawb trwy'r dref.

Bu ef i mi yn gyfaill pur.

A chalon gywir fel y dur,

A diwrnod tywyll, prudd ei wedd,

Oedd y dydd rhoed Harri yn ei fedd.

Gadawodd eneth ysgafn droed

O'i ol,--yn un ar bymtheg oed;

'Roedd iechyd ar ei gruddiau cu,

A chwarddai serch o'i llygad du.

Bum i yn dysgu'r eneth hon

I ddweyd A B yn blentyn llon,

Ac wrth ei dysgu, credais i

Y dysgai'r ferch fy ngharu fi;

Ond ffoledd oedd i'r eneth dirion

I feddwl caru hen wr gwirion.

Daeth morwr llon i siarad a hi,

A dygodd fy Elen oddi arnaf fi,

Ond dd'wedais i air erioed wrth hon

O'r hyn a deimlais dan fy mron;

Na gair yn erbyn y morwr chwaith,

Oblegid hwy fuont am flynyddau maith

Yn chwareu a'u gilydd fel y mae plant

Ar ochr y bryn neu lan y nant;

Ond waeth tewi na siarad, ryw noson ddu

Aeth y morwr ymaith ag Elen gu!

Nis gallaf ddirnad byth er hyn

Pa fodd yr aeth bore'i bywyd gwyn

O dan fath gwmwl, na pha fodd

Y daeth amheuaeth ag y todd

Gymeriad oedd mor bur;

'Doedd neb yn meddwl yn y wlad

Y buasai impyn tyner, mad,

Yn dwyn fath ffrwythau sur.

Agorai'r wawr ei hamrant clau,

Ac ymaith a fi ar ol y ddau,

A digwydd wnaethum fynd 'run ffordd,

Tra curai'm calon megis gordd,

Dan bwys briwedig fron;

Mi cefais hwy. Nis gallaf ddweyd

Pa un ai gofid oedd yn gwneud

I'm dagrau redeg dros fy ngrudd,

Ai ynte ryw lawenydd prudd;

Ond rhedeg wnaethant fel y lli'

Pan ddaeth y newydd gynta 'i mi

Fod Mari'n wraig i John.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 55 / 111 题