DYSGWCH DDWEYD "NA."

Fe ddysgir dweyd llawer o eiriau

Na ddylid dim dysgu eu dweyd,

Ac hefyd anghofir rhai geiriau

Y dylid eu dysgu a'u gwneud;

Beth bynnag a ddysgwch wrth ddysgu yr iaith,

Beth bynnag a gofiwch drwy droion y daith,

Faint bynnag o eiriau a ddysgwch yn dda,

Gofalwch bob amser am ddysgu dweyd "Na;"

Dysgwch ddweyd "Na,"

'Does dim sydd mor ddiogel a dysgu dweyd "Na."

Os gwelwch chwi gwmni afradlon

Yn mynd i oferedd yn ffol,

Gan wawdio rhinweddau'u cymdogion,

A gadael pob moesau ar ol;

Mae trwst y rhai yma wrth gadw eu rhoch

Mor wag a diafael ag adsain y gloch,

'Ran hynny, mae pennau y clychau a rhain

Yn wag fel eu gilydd, 'blaw tafod bach main;

Ac os daw y giwaid hon rywdro i geisio tynnu rhai o honoch i ddinistr,

Dysgwch ddweyd "Na," &c.

Os gwelwch chwi eneth brydweddol

Yn gwisgo yn stylish dros ben,

Cyn son am y pwnc priodasol,

Rhowch brawf ar gynhwysiad ei phen,

Os ffeindiwch chwi allan wrth chwilio'r fath yw,

Ei bod hi fel clomen o ran dull o fyw,

A'i llygaid, a'i gwddw, a'i haden, a'i phlu',

Yn loewach o lawer na dim sy'n ei thy,

Ac os bydd rhywun o honoch am roi cynnyg ar Miss,

Dysgwch ddweyd "Na," &c.

Mae gennyf un gair i'r genethod

Wrth ddechreu eu taith drwy y byd,

Mae llanciau ar brydiau i'w canfod

Heb fod yn lan galon i gyd;

Mae'n bosibl cael gwr fydd a'i galon yn graig,

Mae'n bosibl cael gwr fydd yn gas wrth ei wraig,

Heb gym'ryd yn bwyllus, mae'n bosibl i Gwen

Gael gwr heb na chariad, na phoced, na phen,

A'r cyngor sydd gennyf i'r ladies (hynny yw, os na fyddant, dyweder,

oddiar 35 oed),

Dysgwch ddweyd "Na," &c.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 39 / 111 题