DYCHWELIAD Y MORWR.

Trwy'r tonnau y llong ddaw yn nes i'r lan--

Dacw y foel a dacw y fan;

'Rwy'n gweld y pant a'r gornant gu,

'Rwy'n gweld y coed, 'rwy'n gweld y ty;

Mae adlais anwyliaid yn dod i'r llong,

A swn hen gloch y llan, ding dong.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 38 / 111 题