GEIRIAU CYDGAN GYSEGREDIG.

Doed holl drigolion daear lawr

I ateb llef y nef yn awr,

Nes byddo tan eu moliant hwy

Yn eirias mwy i'r Iesu mawr.

Dyma'r un oddefodd bwysau

Holl bechodau dynol ryw,

Ac o'i fodd oddefodd loesau

Miniog gledd dialedd Duw;

Ac a ddrylliodd deyrnas angau

Pan y daeth o'i fedd yn fyw.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 40 / 111 题