EISTEDD MEWN BERFA.

Tra'r oeddwn yn rhodio un diwrnod,

A'r haul yn tywynnu mor llon,

Mi ddaethum 'nol hir bererindod

I bentref ar ochr y fron;

A gwelwn ryw hogyn segurllyd

Yn eistedd mewn berfa fel dyn,

Gan wneud pob ymdrechion a allai

Ar ferfa i yrru ei hun;

Fel hwnnw yn union mae ambell i ddyn

Yn eistedd mewn berfa i yrru ei hun.

Os gwelwch chwi grefftwr go gywrain

Yn gadael ei fwyall neu'i ordd,

I sefyll tu allan i'w weithdy

I siarad a phawb ar y ffordd;

Neu holi am weithdai'r gymdogaeth

A hanes y gweithwyr bob un,

Heb feddwl am weithio ei hunan

Y gwaith sy'n ei weithdy ei hun;

Mae hwnnw'n lled debyg bob amser i ddyn

Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.

Ceir ambell amaethwr dioglyd

Na welwyd erioed arno frys,

Mae'n well ganddo orwedd pythefnos

Na cholli dyferyn o chwys;

Ni chreda mewn cael ei gynhaeaf

Tra'r haul yn tywynnu ar fryn,

Ond creda mewn gadael ei feusydd

I ofal y gweision a'r chwyn;

Mae ffarmwr fel yna bob amser yn ddyn

Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.

Pan welir masnachydd neu siopwr

Yn gadael eu masnach trwy'r dydd,

I ofal prentisiaid a chlercod,

Nid 'chydig y difrod a fydd;

Ond odid na chlywir yn fuan

Am feili yn dod i roi stop,

A'r writ mae'n ei roi i'r perchennog

Sy'n dweyd, "Aeth yr hwch trwy y siop;"

Mae siopwr fel yna bob amser yn ddyn

Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.

Mawrth 2, '76.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 25 / 111 题