Y FRWYDR.

Clywch, clywch

Y fyddin yn dod i'r gad,

Uwch, uwch

Y cenir i gledd ein gwlad;

Calon a chleddyf i gyd yn ddur,

Rhyddid yn rhoi

Gelynion i ffoi

O flaen ein gwyr.

Clywch y tabwrdd yn awr

Yn adseinio sydd,

Clywch floedd fychan a mawr

Wedi cael y dydd;

Mae gwawr eto'n dod yn y dwyrain dir,

Daw haul ar ein gwlad

Mewn hwyl a mwynhad,

Cawn heddwch cyn hir.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 26 / 111 题