AWN, AWN I'R GAD.

(Canig gan Gwilym Gwent).

Awn, awn i'r gad,

Awn, awn yn awr;

Awn dros ein gwlad,

Awn, awn yn awr;

Calon y dewr

Gura yn gynt,

Baner a chledd

Sy'n chwyfio yn y gwynt;

Blaenor y llu

Sy'n arwain i glod,

A geiriau o dan

O'i enau yn dod.

Seren y goncwest sy'n gwenu fry

Dros ein hanwyl wlad;

Cael tynnu'r cledd sydd wledd i ni.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 24 / 111 题