DDAW HI DDIM.

Yr o'wn i 'n hogyn gwirion gynt,

Yn destyn gwawd y plwy,

Awn gyda phawb yn llon fy hyttt,

Pwy bynnag fyddent hwy;

Ond os ceisia dyn fy nhwyllo'n awr,

'Rwy'n edrych llawn mor llym,

A rhoddaf daw ar fach a mawr

Wrth ateb,--"Ddaw hi ddim."

'Rwy'n adwaen ffrynd, a'i arfer yw

Benthyca pres yn ffol;

Ond dyna'r drwg, 'dyw'r llencyn gwiw

Ddim byth yn talu'n ol;

Ryw dridiau'n ol, mi cwrddais ef

Wrth fyned tua'r ffair,

Gofynnodd im' cyn mynd i'r dref

Am fenthyg tri a thair.

Ond os ceisia dyn, &c.

Fe ddwedodd cyfaill wrthyf fi

Y gwyddai hanes merch,

A wnaethai'r tro i'r dim i mi

I fod yn wrthrych serch;

Gwraig weddw oedd, yn berchen stor

O bopeth, heb ddim plant,

A chanddi arian lond dwy dror,

Ac yn ddim ond hanner cant.

Ond os ceisia dyn, &c.

Bum i ryw dro ers blwydd neu ddwy,

Ar bwynt priodi un;

Cyn mynd at allor llan y plwy,

Fel hyn gofynnai'r fun,--

"Mae gennyf fam a phedair chwaer

Sy'n anwyl iawn gen i,

A gaiff y rhain, wrth fegio'n daer,

I gyd fyw gyda ni?"

Ond os ceisia dyn, &c.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 23 / 111 题