Cartrefi gwledig Cymru yw yr unig gofgolofnau i arwyr ein hanes ni.
Dinod,—anadnabyddus yn aml,—yw eu beddau; nid yw eu gwlad eto wedi codi
llawer o gofgolofnau i’w henw, oherwydd tlodi, nid oherwydd diffyg serch.
Ond y mae’r cartrefi’n aros. Nid adnabyddir lle bedd Llywelyn na John
Penri na Goronwy Owen, ond gwyddom pa le y buont yn chware pan yn blant.
Ni bydd cyfundrefn addysg Cymru’n gyflawn heb amgueddfa genhedlaethol.
Nis gwn pryd y daw, ond y mae y bardd wedi ei gweled trwy ffydd.