II.

Gallu grymus fu gwladgarwch erioed, ac er daioni bob amser. Y mae

hunan-aberth ynddo, collir hunan mewn gwlad; y mae ymsancteiddio

ynddo,—llosga hunanoldeb fel sofl sych a difa’r hen lid teuluol sy’n

chwerwder bywyd barbaraidd, a dug ddyn yn nes at Dduw. Yng ngrym ei

wladgarwch y mae nerth pethau goreu cymeriad dyn; yn erbyn gwladgarwch y

mae’r pethau gwaelaf yn ei gymeriad,—awydd am elw, cas at ei gyd-ddyn,

rhagfarn. Ai arwydd o ddiffyg gallu mewn gwleidyddwr yw gwladgarwch? Os

felly, condemnier Alffred Fawr, y brenin galluocaf fu gan y Saeson

erioed? Ai arwydd o wendid meddyliol ydyw? Os felly condemnier Dante, y

gŵr o feddwl cawraidd wnaeth i syniadau’r Canol Oesoedd fyw byth.

Cartrefi Cymru · 第 38 / 46 题