TY’R FICER.

LLAWN o ddyfroedd oedd Llanymddyfri pan welais i’r lle gyntaf, er fod

hynny yn niwedd mis Mehefin.

Brân a Gwydderig

A Thywi fynheddig

A Bawddwr fach fawlyd

Yn rhedeg drwy’r dre,—

nid yn unig yr oedd y rhain yn llifo dros y dolydd, ond yr oedd y gwlaw

yn tywallt fel diluw. Yr oedd wedi golchi swyddogion y ffordd haiarn yn

lân; a thybiwn innau, wrth edrych o’r tren pan safodd yn Llanymddyfri,

mai mewn dillad gwlybion y byddai raid i mi dreulio gweddill y dydd.

Gwelwn nad oedd y dref yn ymyl, ac ni welwn gerbyd fuasai’n noddfa rhag y

gwlaw. Ond, wedi disgyn, gwelais westy ar fy nghyfer, a medrais ei

gyrraedd ar draws y ffordd cyn gwlychu at fy nghroen.

[Picture: Ty’r Ficer yn 1892]

Daeth gwraig dawel, a swn penderfyniad yn ei llais, i’m croesawu. Yr

oedd golwg gysurus ar bob peth yn y ty, yr oedd tân braf yn cynneu yn y

parlwr cyn pen y chwarter awr, ac yr oedd pryd danteithiol o fwyd wedi ei

arlwyo.

Yr oedd yno lyfrau hefyd, dyna’r gwahaniaeth rhwng gwesty Cymreig a

gwestai ereill. Cefais ymgom â gŵr y ty,—y mae hyn yn rhan o fywyd

fforddolyn,—a dywedodd bopeth wrthyf am grefydd a gwleidyddiaeth

Llanymddyfri. Ond, fel gwestywr call, ni soniodd air am ei grefydd na’i

gredo wleidyddol ei hun; ac yr wyf yn meddwl iddo fethu cael gweledigaeth

eglur ar fy amryw dybiau innau. Gŵr tawel oedd, yn siarad Cymraeg da.

Cyn huno, yn swn y gwlaw, bum yn ceisio dyfeisio fath dref a welwn yfory,

a fath dŷ oedd ty’r Ficer enwog. Yr oeddwn wedi gweld y lle o bell. Pan

oedd fy nhren yn croesi’r nentydd hyd ochr y mynydd, yr oeddwn wedi gweld

dyffryn swynol i lawr odditanom, a gwastadeddau coediog niwliog draw.

Ond cyn dychmygu darlun eglur yr oeddwn yng ngwlad cwsg. A chyn hir

daeth yn ystorm yn fy mreuddwydion, a thybiais weled melldith y Ficer

wedi dod ar Lanymddyfri, a’r dwfr yn ei chludo hi a minnau tua’r môr.

Ond pan ddaeth y bore, yr oedd haul disglaer ar bob peth, a minnau’n

meddwl mor hyfryd oedd fy lle.

Wedi cael cyfarwyddiadau manwl, cychwynnais tua thŷ’r Ficer. Gadewais

ysgol Llanymddyfri ar y dde, a chefais fy hun cyn hir ym mhrif heol y

dref. Wrth grwydro drwyddi, tybiwn mai tref yn prysur adfeilio ydyw

Llanymddyfri. Ni welais ddim gwaith yn cael ei wneyd yn unlle, ac nid

oedd neb prysur yn y golwg. O’r negeseuwr i’r meddyg, yr oedd pawb yn

rhodio’n hamddenol, fel pe mai unig amcan bywyd ydyw treulio’r dydd i

ddisgwyl y nos a threulio’r nos i ddisgwyl y bore. Ni welwn gwsmer yn yr

un o’r siopau; yr oedd pob siop fel pe’n hepian, a’r prentisiaid dan y

cownter yn disgwyl diwrnod ffair. Gwelais siop lyfrau, arwydd sicr o

ddiwylliant, ond ol-rifynnau oedd yn y ffenestr, rhai’n traethu am

faterion gwleidyddol na chymer ond yr hanesydd ddyddordeb ynddynt yn awr.

Gwelais laswellt yn tyfu yn y farchnad, gwelais yriedydd yn golchi ei

gerbyd y drydedd waith er pan gafodd gludo neb, gwelais saer yn cysgu yng

nghanol ei _shavings_, gwelais gapel Wesleaid—pwy mor weithgar—wedi ei

gau. Cyfarfyddais asiedydd deallgar, yr hwn ddywedodd lawer o hanes y

dref i mi. Cyfeiriais fy ffon at laswellt oedd yn ceisio ymwthio i fyny

rhwng cerrig yr heolydd, a gofynnais a oedd Llanymddyfri’n adfeilio

Sicrhaodd fi nad oedd, ond ei bod yn sefyll,—yn cynyddu dim ac yn

adfeilio dim.

Cefais dŷ’r Ficer ymron ym mhen uchaf y dref. Pasiais ef heb ei weled, a

chyrhaeddais y bont, lle y danghoswyd mynwent ar fryn uwch ben i

mi,—Llanfair ar y bryn, man bedd Williams Pant y Celyn. Troais yn ol, ac

ar y llaw chwith gwelwn dŷ oedrannus, ac ychydig o ol gofal arno.

Meddyliwn wrth ei weled am hen foneddwr wedi torri, ac yn goroesi ei

gyfoeth mewn cot ddu lom a het dolciog a throwsus du seimlyd rhy fyr i

guddio ei esgidiau drylliog. Daeth hen wraig, debyg iawn i’r ty, i’r

drws i gynnyg dangos y lle i mi, gan ostwng yn ei garrau wrth gynnyg. Y

mae ambell ddernyn o bren cerfiedig a phlastr yn dangos mor fawr ydyw’r

cyfnewidiad ddaeth dros y ty hwn. Unwaith bu yn orwych, yn awr y mae ei

ystafelloedd cyfaneddol yn gartrefi llwm i dlodion Llanymddyfri.

Daeth rhyw brudd-der drosof wrth adael yr ystafelloedd tywyllion gwag lle

y goleuwyd “Canwyll y Cymry.” Meddyliais am y noson y safodd ceffyl heb

ei farchog wrth ddrws y Ficer, tra yr oedd corff llofruddiedig ei unig

fab yn y Tywi. Meddyliais am lawer bore y bu’r Ficer yn cychwyn allan i

rybuddio mewn amseroedd enbyd, ac i rybuddio’n ofer,—

MENE TECEL, tre Llanddyfri,

Pwysodd Duw hi yn dy frynti;

Ni chadd ynnot ond y sorod,

Gochel weithian rhag ei ddyrnod.

Bore codais gyda’r ceiliog,

Hir ddilynais yn dy annog

Droi at Dduw oddiwrth dy frynti,

Ond nid oedd ond ofer imi.

Cenais iti’r udgorn aethlyd

O farn Duw a’i lid anhyfryd,

I’th ddihuno o drwmgwsg pechod,

Hwrnu er hyn ’rwyt ti yn wastod.

Cenais bibau, ond ni ddawnsiaist,

Tost gwynfannais, nid alaraist;

Ceisiais trwy deg a thrwy hagar,

Ni chawn gennyt ond y gwatwar.

Esau werthai ei ’tifeddiaeth

Am y ffiolaid gawl ysywaeth;

Tithau wethaist deyrnas nefoedd

Am gawl brag, do, do, o’m hanfodd.

Ond, pa beth bynnag fu ei hanes, y mae Llanymddyfri’n anwyl i bob Cymro,

ac yn anwyl yng ngolwg y nefoedd, oherwydd o honi hi y daeth y Ficer

Pritchard a Pher Ganiedydd Cymru.

Cerddais drachefn drwy’r dref, gadewais y castell ar y chwith, gadewais y

dref o’m hol, a dois i fynwent Llandingad. Yma, meddir, y claddwyd y

Ficer, ond nid edwyn neb le ei fedd. Yn wir dywed traddodiad nad ydyw

yma mwy, ond fod yr afon wedi rhuthro drwy’r fynwent unwaith, ac wedi

cario’r corff i’r môr.

Dychwelais trwy’r dref gysglyd dawel i’r gwesty i gael bwyd; ac yn y

prydnawn cychwynnais tua’r castell. Saif ar dalp o graig yn ymgodi ar

lan yr afon. Yr oedd dannedd y graig i’m gwyneb wrth i mi neshau ato, a

gwelwn yr eiddew yn ymglymu am ei fur toredig. Cerddais rhyngddo a’r

afon, a dringais y bryn. Y mae’n sicr fod llawer o dref Llanymddyfri

wedi ei hadeiladu â’i gerrig. Nid oes ond dau ddarn o’r mur trwchus yn

aros, y darn agosaf at y dref, ond yr anhawddaf cael cerrig o hono. Y

mae’r gornel, gyda thŵr mae’n debyg, wedi syrthio, ac yr oedd coed yn

estyn eu canghennau dros y muriau oddiar ben y bryn y tu allan. Gwelwn

ddrysau y bu’r gwylwyr yn esgyn ar hyd-ddynt i’r muriau unwaith. Tawel

iawn ac unig ydyw’r adfail, o’i gydmaru ag ef y mae eglwys a mynwent

Llandingad, welwn dros gornel y bryn, yn lle byw. Bu Gruffydd ab Rhys yn

gwarchae arno, yn adeg amddiffyn Cymru. Cymerodd Rhys ei fab ef yn 1202;

ac wedi hynny bu Gwenwynwyn, Rhys Ieuanc, a Rhys Grug yn ymladd yn ei

wydd. Llawer un fu farw yn y ffos sydd eto i’w gweled yn amgylchu

darnau’r castell,—ond mwynach yw’r olygfa geir o hono heddyw na golwg ar

ei hanes. Y mae gwastadedd bychan gwyrdd rhyngddo a’r afon, y mae’r dref

ar y gwastadedd odditano, ac onid ofer i mi geisio darlunio prydferthwch

dyffryn y Tywi?

Cartrefi Cymru · 第 28 / 46 题