GLAS YNYS.

PAN fum i drwyddi, tybiwn mai priodol iawn fyddai galw bro Elis Wyn yn

Wlad Cwsg. Tybiwn fod rhywbeth yn ddieithr yn ei goleuni, a fod su

esmwyth yn tonni trwy ei hawyr o hyd. Prin y teimlwn y gwahaniaeth rhwng

bod yn effro ac ynghwsg ynddi. Yr oeddwn fel pe’n breuddwydio wrth

gerdded drwyddi; a phan ddoi cwsg, nid oedd breuddwyd yn newid dim ar y

wlad. Y mae delw’r wlad ar y gweledigaethau sydd wedi synnu ac wedi

dychrynnu cymaint. Nis gallasai’r bardd ddychmygu fel y gwnaeth am y byd

ac angeu ac uffern, ond mewn gwlad fel hon.

Un peth tarawiadol ynddi ydyw ei distawrwydd. Nid yn unig y mae’n

ddistawach na gwlad boblog, lawn o bentrefydd; y mae’n ddistawach na

mynydd-dir eang unig y Berwyn neu Blunhumon. Ni fum mewn lle distawach

erioed. Y mae’r don i’w gweled yn symud draw ymhell yn ewyn i fyny’r

traeth, ond mewn distawrwydd perffiaith. Y mae’r wylan yn ehedeg uwch

ben; ond, o ran pob swn, gallai fod yn ddarlun o wylan ar ddarlun o awyr.

Ac y mae’r mynyddoedd mawr yn gorwedd yn berffaith ddistaw yng ngwres y

canol ddydd haf; tybiwn fod y defaid a’r aberoedd yn cysgu arnynt.

Peth tarawiadol arall yng ngwlad Bardd Cwsg ydyw cyfoeth ei lliwiau, ac

amrywiaeth ei chymylau a’i lleni teneuol o niwl. Pan fo’r haul yn

tywynnu y mae melyn a gwyn y traeth y tu hwnt i ddesgrifiad; pan

fachludo’r haul, cyll y môr ei ddisgleirdeb ar unwaith, ac y mae golwg

ddu frawychus ar y llu mynyddoedd mawr sydd o gwmpas Gwlad Cwsg. Ac nis

gall neb ddarllen y tair Gweledigaeth heb adnabod niwl a tharth Harlech,

ac heb weled mor hoff yw Elis Wyn o gyferbynnu goleuni disglaer a

thywyllwch dudew. Fel Spenser a Milton yn llenyddiaeth Lloegr, y mae’n

hoff o ddesgrifio goleum tanbaid neu’r fagddu ddilewyrch. Efe yw

Rembrandt llenyddiaeth Cymru. Dacw belydryn yn gloewi o’r tu hwnt i

gwmwl melynwyn, fel hwnnw welodd y Bardd Cwsg pan weddiodd yng ngafael y

Tylwyth Teg,—“Gwelwn ryw oleuni o hirbell yn torri allan, O mor

brydferth!”

Gwaith caled ar ddiwrnod gwresog yw dringo i fyny dan gysgod castell

Harlech. Rhaid fod Bardd Cwsg wedi treulio llawer o amser yn yr hen

gastell hwn; a hwyrach fod edrych i lawr dros ddibyn ei graig wedi ei

helpu i ddychmygu am y ceulannau a’r dibynnau y gwelodd daflu’r

colledigion drostynt yn ei Uffern. A’r ffrwd acw, tybiaf i mi weled

darlun o honi fel un o raiadrau y Fall. Ond dyma ben y bryn o’r diwedd,

a hen ŵr llygad-lon wedi bod yn fy ngwylio’n dringo.

“Mi gewch ddiwrnod braf i weld y wlad heddyw,” ebe’r hen ŵr a’m cyfeiriai

o Harlech tua Glasynys, “mi fydd y dydd i gyd fel y pelydryn yna gyda

hyn.” A gwir a ddywedodd, cefais ddiwrnod poetha’r haf hwnnw. Y mae

Harlech ar godiad tir serth, a rhaid cael un chwim iawn i ddod i fyny

iddi o’r traeth heb golli ei wynt. Un ystryd hir y tybiwn ei bod, o

bobtu i’r ffordd sy’n rhedeg hyd y bryniau, yn gyfochrog a glan y môr. Y

mae’n lân, er nad oes adeiladau mawrion yn ei rhan hynaf. Hawdd gweled

ei bod yn hen dref oddiwrth ei chastell ac amlder ei thafarnau. Trois ar

y chwith, hyd ffordd Talsarnau, a chefais gwmni bardd am ran o’r ffordd.

Toc gadewais y ffordd gysgodol sy’n rhedeg hyd fron y mynydd, a throais

hyd lwybr i lawr i’r gwastadedd glas odditanaf. Ar ganol y gwastadedd

gwelwn fryncyn yn codi, ac o bob tu iddo,—ar ochr y mynydd ac ar ochr y

môr,—y mae amaethdy o’r enw Glasynys. Oddiar ben y bryn y mae golygfa

ardderchog ar fôr a mynydd. Ynys, mae’n ddiameu, oedd y bryn unwaith, ac

yr oedd y gwastadedd yn fôr. Ar ein cyfer codai’r mynydd yn serth, gyda

choed yn aml ar ei lethrau. Aml waith y bu Elis Wyn yn dringo i ael y

mynydd acw; a dacw’r llecyn, hwyrach, oedd o flaen ei lygad pan yn

darlunio ei weledigaeth gyntaf,—

“Arryw brydnawn-gwaith teg o haf hir-felyn tesog, cymerais hynt i ben

un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi yspienddrych, i helpu’m golwg

egwan, i weled pell yn agos, a phethau bychain yn fawr; trwy yr awyr

denau eglur, a’r tes ysblennydd tawel canfyddwn ymhell bell, tros fôr

y Werddon, lawer golygiad hyfryd. O hir drafeilio â’m llygaid, ac

wedyn a’m meddwl, daeth blinder, ac yng nghysgod blinder, daeth fy

Meistr Cwsg yn lledradaidd i’m rhwymo; ac â’i agoriadau plwm fe gloes

ffenestri fy llygaid, a’m holl synwyrau ereill, yn ddiogel.”

Cerddais dros y bryn bychan gan ddod i lawr at gefn Glasynys y

bardd,—amaethdy a’i wyneb tua’r mynyddoedd. Gwelais ar unwaith ei fod

wedi ei adeiladu fel y dylid adeiladu ty ar lethr craig; gyda drws i fynd

oddiallan i’w ystafelloedd uchaf, a mor naturiol ei safiad a phe buasai

wedi codi, fel blodeuyn, yng nghwrs natur ar ochr y bryn. Curais wrth y

drws, a daeth merch ieuanc i’w agor. Dywedodd fod croesaw imi weled

cartref y Bardd Cwsg, a danghosodd i mi brif ystafelloedd y ty. Yr wyf

yn cofio fod rhyw hanner arswyd arnaf wrth grwydro trwy’r ystafelloedd

lle crewyd golygfeydd ofnadwy Bardd Cwsg; a thybiwn mai hyfryd i’r bardd,

pan fyddai ei ddychymyg wedi ei arwain trwy erchyllderau uffern a’r fall,

oedd sylweddoli ei fod ef mewn lle mor hyfryd.

* * * * *

Yr oedd llwybr Elis Wyn rhwng ei gartref a’i eglwys, rhwng Glasynys a

Llanfair. Y mae Glasynys rhyw ddwy filldir o Harlach i’r gogledd, ac y

mae eglwys Llanfair rhyw ddwy filldir o Harlech i’r de. Bum yn Llanfair

hefyd, lle y gorwedd Elis Wyn mewn bedd dinod, bron anadnabyddus. Y

mae’r daith o Harlech i Lanfair yn fwy digysgod na’r daith i Lasynys, ar

wres neu ar gurwlaw, ond nid yw’n llai hyfryd. Wedi tynnu i fyny’r rhiw

oddiwrth y môr, a gadael yr hen gastell gwgus ar ein hol, trown ar y dde.

Y mae mwy o Harlech i’w weled wrth fynd i Lanfair nag wrth fynd i

Lasynys. Wedi cerdded drwy ystryd gweddol hir, deuir i lecyn dymunol

iawn dan goed, ar gyfer prif westy’r lle. Y mae golwg brydferth iawn

oddiyma drwy’r coed ar y môr sy’n mhell odditanodd, ac y mae pob trofa

newydd ar y ffordd yn hyfrydwch. Creigiau, coed, mynydd, a’r môr,—nid

oes braidd dŷ yn y cilfachau hyn heb olygfeydd o’i ffenestri y buasai

cynllunydd palas brenin yn falch o honynt. Ond yn fuan iawn yr ydym yn

gadael yr hen dref ar ein holau, ac yn teithio hyd ffordd deg ar y dibyn

uwch ben y môr, a’r hen gastell du gwgus yn ein gwylied o’n hol. Dyma

ffordd y bu Bardd Cwsg yn ei cherdded filoedd o weithiau, ac y mae

golygfeydd ei weledigaethau o’n hamgylch heddyw, er fod syniadau gwlad

wedi newid llawer er yr adeg y bu yn ei cherdded ddiweddaf, tua chant a

thrigain o flynyddoedd yn ol.

Aml dro, y mae’n ddiameu, bu Elis Wyn yn edrych ar ddyffrynnoedd fel

dyffryn Nancol; ac i’w feddwl ef, fel i feddwl pawb yn yr oes honno, yr

oedd yr aruthredd rhamantus yn erchylldra di-drefn. Yn ei freuddwydion y

mae’r cwm mynyddig yn ymddangos yn uffern, lle gwelai’r colledigion, a’r

ysbrydion aflan

“â phigffyrch yn eu taflu i ddisgyn ar eu pennau ar heislanod

gwenwynig o bicellau geirwon gwrthfachog, i wingo gerfydd eu

hymenyddiau; ymhen ennyd, lluchient hwy ar eu gilydd yn haenfeydd, i

ben un o’r creigiau llosg, i rostio fel poethfel. Oddi yno cipid hwy

ymhell i ben un o fylchau y rhew a’r eira tragwyddol; yna yn ol i

anferth lifeiriant o frwmstan berwedig, i’w trochi mewn llosgfeydd, a

mygfeydd, a thagfeydd o ddrewi anaele.”

Weithiau tybiwn ein bod yn adnabod rhai o gymoedd Meirion, hyd nes y

dadlennir y darlun erchyll i gyd,—

“Tu isaf i’r gell yma gwelwn rhyw gwm mawr, ag ynddo megis myrdd o

domenydd anferth yn gwyrddlosgi; ac erbyn neshau gwybum wrth eu hudfa

mai dynion oeddynt oll, yn fryniau ar eu gilydd, a’r fflamau cethin

yn clecian trwyddynt.”

Nid un yn gwenu ar bechod oedd Elis Wyn. Y mae’n amhosibl cael darluniad

mor ddychrynllyd o feddwdod ac aflendid ac anghrefydd, hyd yn oed ym

mhregethau’r Diwygiad, ag yn ei weledigaethau ef. Ac nid arbed y

boneddigion na’u cynffonwyr. Ychydig o lafurwyr welodd yn uffern; ac o’r

rhai welodd, os oedd rhai wedi dod yno am gau talu’r degwm, yr oedd

ereill wedi dod oherwydd gadael eu gwaith i ddilyn boneddigion. Oes y

boneddigion oedd y ddeunawfed ganrif; hwy oedd yn rheoli mewn llan a

llys. Hwy oedd yn y fyddin, hwy oedd yn ustusiaid, hwy oedd yn rheoli

ymhob man. A dysgeidiaeth pulpudau’r oes oedd fod yn rhaid ymostwng

iddynt. Ond trinir yr ustusiaid a’r cyfreithwyr a’r physygwyr yn

ddiarbed yng ngweledigaethau Bardd Cwsg. Ie, unwaith clywodd chwerthin

yn uffern,—

“A mi yn dyfod allan o’r gilfach ryfeddol honno, mi a glywn gryn

siarad; ac am bob gair y fath hyll grechwen a phed fuasai yno bumcant

o’r cythreuliaid ar fwrw eu cyrn gan chwerthin. Ond erbyn i mi gael

neshau i weled yr ameuthyn mawr o wenu yn uffern, beth ydoedd ond dau

o bendefigion newydd ddyfod, yn dadleu am gael parch dyledus i’w

bonedd; ac nid oedd y llawenydd ond digio’r gwŷr boneddigion. Palff

o ysgweier a chanddo drolyn mawr o femrwm, sef ei gart achau, ac yno

yn dadgan o ba sawl un o’r Pymtheg Llwyth Gwynedd y tarddasai ef; pa

sawl Ustus o heddwch, a pha sawl Sirydd a fuasai o’i dy ef. ‘Hai,

Hai,’ ebe un, ‘nid ych chwi ond aer y fagddu, fflamgi brwnt, prin y

teli i ti lety noswaith,’ eb efe, ‘ac eto ti a gai ryw gilfach i aros

dydd:’ a gyda’r gair, dyma’r ellyll ysgethrin â’i bigfforch yn rhoi

iddo, wedi deg tro ar hugain yn yr wybr danbaid, ond oedd ef yn

disgyn i geudwll allan o’r golwg.”

Y mae’n hawdd gweld athrylith Elis Wyn oddiwrth y gosb rydd i bob un yn

uffern. Nis gŵyr y darllenydd yn iawn beth i’w wneyd wrth ddarllen hanes

y gosb, pa un ai dychrynnu ai chwerthin, gan mor anisgwyliadwy ydyw’r

gosb, ac eto mor naturiol. Y meddw, y rhegwr, yr aflan, y rhodreswr, y

chwedleuwr,—y maent i gyd yn y fro erchyll honno wrth eu hen waith. Er

esiampl, cymerer y pedwar ffidler oedd newydd farw, ac oedd yn eu bywyd

wedi bod yn lwcusach am gynulleidfa na’r person,—

“‘Ffwrdd, ffwrdd, â’r rhai hyn i wlad yr anobaith,’ ebe’r brenin

ofnadwy; ‘rhwymwch y pedwar gefn-gefn, a theflwch hwy at eu

cymheiriaid, i ddawnsio yn droednoeth hyd aelwydydd gwynias, ac i

rygnu fyth heb na chlod na chlera.”

Ond dyma Lanfair yn y golwg. Dacw’r eglwys y bu Elis Wyn yn gwasanaethu

ynddi, a’r lle y claddwyd ef. Y mae gwlad agored brydferth Llanfair a

Llanbedr o’n blaenau. Y mae’r môr gryn bellder odditanom, a thraw ar ei

lan wele eglwys fechan Llandanwg. Pentref bychan ydyw Llanfair, rhyw

ychydig o dai o bobtu i’r ffordd.

Gydag i mi gyrraedd y pentref ymgasglodd lliaws o’r plant, rhai yn

awyddus am rywbeth i’w weled neu i’w wneyd, o’m cwmpas. Nid oedd yr un o

honynt wedi clywed gair am Elis Wyn nac am weledigaethau Bardd Cwsg. Yr

oeddynt yn foddlon iawn i’m gwasanaethu, a medrodd un o honynt gael

allwedd y fynwent ac allwedd yr eglwys i mi. Saif yr eglwys hir a’i

thalcen i’r mynydd, o fewn mynwent lawn a threfnus. Yr oedd hanner

arswyd arnaf wrth fynd i’r eglwys, ac yr oedd y plant a’m dilynent mor

ddistaw a phe gwybuasent fod Bardd Cwsg, un ddychmygodd weled pethau mor

ofnadwy, yn huno yno. Y mae’r allor yn llenwi y pen agosaf i’r mynydd

o’r eglwys, o fur i fur. Hysbyswyd fi fod lle’r allor yn fyrrach

unwaith, a fod lle i un set rhwng yr allor a’r mur. Tan y set honno, set

Glas Ynys, a claddwyd y Bardd Cwsg; ond erbyn hyn y mae’r allor dros ei

orweddle. Ac ni wyddai plant ei bentref, oedd mor ddistaw a llygod yn yr

eglwys dawel, ddim am ei waith nac am ei enw.

Troais i unig westy’r pentref i ofyn lluniaeth, oherwydd yr oedd erbyn

hyn yn hen brydnawn. Tra’r oedd y forwyn yn gosod y llian ar y bwrdd

mewn parlwr bach cysurus ddigon, gofynnais iddi,—

“Yn yr eglwys yma y claddwyd Elis Wyn o Lasynys, ynte?”

“Hwyrach wir, syr, ond ’doeddwn i’n nabod mo hono fo.”

Yr oedd gŵr y gwesty gerllaw, ac amryw las hogiau yn y gegin, ond nid

oedd yr un o honynt yn gwybod dim am Elis Wyn. Dywedodd un y gallai’r

ysgolfeistr fod yn gwybod, fod llawer o bethau ynghadw yn ei ben ef, ond

ei fod ar ei wyliau ar hynny o bryd.

Wedi te troais yn ol tua Harlech, a daethum at y ffordd sy’n arwain i

lawr at Landanwg a min y môr. Gwelwn mai rhibin hir iawn o ffordd

ydoedd, ond daeth awydd angerddol drosof am weled gorweddfan Sion Phylip.

Ac i lawr a mi, hyd ffordd ddigon tolciog, nes cyrraedd ty neu ddau heb

fod nepell o lan y môr. Dywedwyd wrthyf na fu claddu ym mynwent

Llandanwg er ys blynyddoedd, ac nad oes un math o wasanaeth ynddi’n awr.

Croesais ffrwd ddwfr, a chefais fy hun mewn cae gwyrdd o flaen yr eglwys.

Yr oedd y llecyn yn un hyfryd ar y nawn haf hwnnw. Chwythai awel dros y

môr, ag iechyd ar ei haden, ac yr oeddwn yn meddwl fod y ffrwd oedd ar

golli yn y môr yn berffaith loew, fod y glaswellt yn berffaith wyrdd, a

fod yr awyr yn berffaith bur. Bechan iawn ydyw’r eglwys, a dieithr yr

olwg arni. Ni welais ond llwybr i fynd ati, a hwnnw’n cithaf anodd ei

gael. Y mae porth i fynd trwyddo i’r fynwent, ar gyfer ffenestr fawr y

dwyrain. Y mae drws yr eglyws i’r stormydd a’r môr. Saif yr eglwys yn

llythrennoll ar fin y môr, ac y mae’r tywod luchiwyd gan ystormydd hyd ei

llawr. “Llan dan wg y môr” ydyw ystyr ei henw, ebe un hen ramadegydd

gyfarfyddais. Mynwent unig a thawel, hyd yn oed ymysg mynwentydd, ydyw.

Y mae’r eglwys yn wag oddigerth fod yno ychydig o hen goed derw. Anaml,

yn sicr, y bydd neb yn torri ar unigedd y fan. Y mae enwau ffermydd yr

ardal ar y cerrig beddau, ond yr wyf yn meddwl mai anaml y cleddir yno’n

awr. Gwelais fedd Sion Phylip, wedi tipyn o chwilio ymysg y twmpathau

gleision a’r cerrig beddau mwsoglyd. Y mae yng nghysgod yr eglwys, yn

union dan ffenestr y dwyrain. Wrth dynnu’r mwsogl oddiar y ddwy lythyren

a’r dyddiad a’r englyn sydd ar y garreg, ceisiwn gofio peth o Gywydd y

Wylan, cywydd goreu Sion Phylip. Ac yn sicr ddigon yr oedd gwylan unig

yn hofran uwch fy mhen, fel pe’n gwylio bedd y bardd a’i darluniodd.

Bu Elis Wyn yn darllen gwasanaeth yr eglwys yma, yn swn y môr. Tybed ei

fod wedi cerdded hyd y traeth, gan synfyfyrio, i aros i’r plwyfolion

ddod? Ai ar y llecyn hwn, wrth syllu ar y feisdon, y dychmygodd yr

ymddiddan rhyngddo a Thaliesin Ben Beirdd, pan y gofynnodd Taliesin iddo

am y prydydd,—“Pa le mae’r pysgodyn sy’r un lwnc ag ef? Ac mae hi yn fôr

arno bob amser, eto ni thyr y môr heli mo’i syched ef.”

Yr oedd y nos yn dod, a’m ffordd innau i’m llety yn hir. Nosodd arnaf

cyn i mi ddod i’r ffordd fawr, ac ni welwn wahaniaeth rhwng daear a môr.

Nid oedd arnaf lai nag ofn yn y gwyll, yr oeddwn wedi meddwl cymaint yn

ystod y dydd am y bodau erchyll ddarlunnir gan Fardd Cwsg. Gan nad oedd

ond amlinellau llymion y wlad i’w gweled, yr oeddwn bron a meddwl

weithiau fy mod yn y dyffryn hwnnw ddarlunnir yng “Ngweledigaeth Angau yn

ei Frenhinllys isaf,—

“Mi’m gwelwn mewn dyffryn pygddu anfeidrol o gwmpas, ac, i’m tyb i,

nid oedd diben arno; ac ymhen ennyd, wrth ambell oleuni glas, fel

canwyll ar ddiffodd, mi welwn aneirif, O! aneirif, o gysgodion

dynion, rhai ar draed, a rhai ar feirch, yn gwau trwy eu gilydd fel y

gwynt, yn ddistaw ac yn ddifrifol aruthr; a gwlad ddiffrwyth, lom,

adwythig, heb na gwellt na gwair, na choed nac anifail; a chwipyn, er

maint oedd y distawrydd o’r blaen, dyma si o’r naill i’r llall, fod

yno ddyn bydol.”

Y mae’n debyg fod Bardd Cwsg wedi llenwi bywydau llawer â dychrynfeydd,

wedi gwneyd pob nos yn llawn o ellyllon, ac wedi dyrysu synhwyrau llawer

un. Pa ryfedd fod y llyfr hwn wedi effeithio cymaint ar fywydau dynion?

Mor dryloew yw ei arddull, mor gain a naturiol ei Gymraeg! Ac mor ryfedd

ydyw ei ddychymyg pan yn crwydro trwy’r eangderoedd dychrynllyd hynny,

pan yn dilyn o’i ledol ar ol milwyr disglaer Lusiffer wrth iddynt deithio

fel mellt hyd y fagddu hyll!

Rhyfedd ac ofnadwy ydyw’r pethau ddarlunnir ganddo, ac nid heb ychydig

ofn y medrir meddwl am danynt ar ffordd unig fel hon wedi nos. Cyn i

oleuadau Harlech ddod i’r golwg, yr oedd fy meddwl wedi troi at emyn y

Bardd Cwsg, emyn sy’n dangos beth fuasai ei weledigaeth ym Mharadwys pe’r

ysgrifenasai hi,—

“Myfi yw’r Adgyfodiad mawr,

Myfi yw gwawr y bywyd;

Caiff pawb a’m cred, medd f’Arglwydd Dduw,

Er trengu, fyw mewn eilfyd.

“A’r sawl sy’n byw mewn ufudd gred

I mi, caiff drwydded nefol

Na allo’r angau, brenin braw,

Ddrwg iddaw yn dragwyddol.

“Yn wir yn wir, medd Gwir ei hun,

Pob cyfryw ddyn sy’n gwrando

Fy ngair gan gredu’r Tad a’m rhoes,

Mae didranc einioes ganddo.”

Cartrefi Cymru · 第 27 / 46 题