CYCHWYNNODD tri o Gricieth ar fore hyfryd ym mis Awst diweddaf i weled
cartref Dafydd y Garreg Wen, ac un o’r tri hynny sy’n ysgrifennu yr hanes
di-addurn ond cywir hwn.
Yr oeddym yn tybied, er i ni weled llawer bau tlws, na welsom ddim
tlysach erioed na Bau Cricieth y diwrnod hwnnw. Yr oedd y môr diderfyn
o’n blaen, ac yr oedd y glesni hwnnw arnom na welsom yn unlle ond ar
draethell Môr y Canoldir, dan gysgod mynyddoedd Liguria. Ar un ochr iddo
yr oedd bryniau Meirion, fel llinell euraidd rhy dyner i ddisgleirio.
O’n blaen ymgodai Moel y Gest fel caer anferth, a gwelem y ffordd hir yn
dirwyn hyd yr ochr tuag ati. O’n hol safai castell Cricieth, yn hyf fel
pan y canai Iolo Goch iddo, ond heb ogoniant ac heb oleuni mwy. Ar ein
chwith yr oedd pigau mynyddoedd gleision yn codi ac yn colli o’n golwg
gyda phob codi a gostwng yn y ffordd. Ar ein llaw dde yr oedd y môr, ac
adlewyrch haul ar grib bob ton, yn gwneyd i ni feddwl am fyddin
Sennacherib,—
“A phigau picellau fel ser ar y lli
Pan dywynno yr haul ar las ddwr Galili.”
Anadlai gwynt braf o’r Wyddfa arnom wrth i ni deithio ymlaen, fel pe
buasai’r gauaf yn dod i ddweyd ei fod wedi tyneru, ac i ofyn cymod. Yn
ol yr oedd hafannau o borfa las rhwng creigiau, a’r môr tawel dwfn islaw.
Ymlaen wele fynyddoedd a chreigiau mawr, ar ffurf muriau, megis wedi eu
codi drwy hud. Ac yr oedd gwenau’r haul yn aros ar flodau gwylltion ochr
y ffordd. Ffordd eithaf unig ydyw, yr oedd yn pasio tŷ bychan
adfeiliedig o hyd. Yr oedd y tai hyn yn sefyll yn y lleoedd mwyaf
dymunol,—dan gysgod craig neu ar lan aber wyllt,—ond y mae eu preswylwyr
wedi mudo, mae’n debyg, i’r tai mwd newyddion sy’n codi megis cabanau
un-nos, o amgylch Cricieth. Gwelsom un fynedfa adfeiliedig hefyd, gyda’r
glaswellt yn prysur orchuddio’r graian, fel pe buasai’n arwain at balas
anghyfannedd.
Wrth Fron y Gader, troisom o’r ffordd i lecyn caregog, ac yna i lawr i
gyfeiriad y môr. Yr oedd yn boeth orlethol, ac araf iawn y teithiem
ymlaen. Cawsom ein hunain mewn morfa hir. Braich o’r môr oedd unwaith,
mae’n ddi-ddadl, ond llenwodd rhyw afonig fach brysur y gilfach â daear.
Y oedd ffosydd wedi eu torri ar hyd y morfa, ac yr oedd gwair yn ei
ystodiau yn sychu’n braf. O ganol y morfa cyfyd bryn bychan, bryn fu’n
ynys unwaith, ac ar ben y bryncyn gwelem eglwys ddi-addurn. Dyna Ynys
Cynhaiarn, ac yn ei mynwent y gorwedd Dafydd y Garreg Wen. Cyfeiriasom
ati’n araf ar hyd y ffordd las gwmpasog, tra’r oedd y caeau a’r môr yn
ymddangos yn gydwastad,—y naill yn wyrdd a’r llall fel arian byw.
Yr oeddym braidd yn lluddedig, ac ni waeth cyfaddef nad oeddym wedi
bwriadu dadluddedu yn Ynys Cynhaiarn uwch ben cwpanaid o de Ond och! Nid
oes yn ymyl yr eglwys, nac yn agos, ond beudy to brwyn adfeiliedig. Y
mae porth yr eglwys ymron mynd a’i ben iddo, ond y mae rhyw fath o drwsio
musgrell wedi bod ar yr eglwys droion. Morwyr ac amaethwyr sy’n gorwedd
yn y fynwent. Y mae rhyw Lywelyn Cymreig yn gorwedd yno, a Charreg o
Gernyw, a Mac Lean o’r Alban. Gwelsom fedd _pilot_ wedi boddi, a gwelsom
lawer enw prydferth heblaw Llwyn y Mafon. O’r diwedd, yn un o’r corneli
agosaf i’r môr, cawsom y bedd yr oeddym yn chwilio am dano. Carreg las
sydd ar y bedd hwnnw, ar ei gorwedd, ychydig yn uwch na’r lleill. Ar ben
y garreg y mae llun telyn mewn cylch, ac yna yr ysgrifen hon,—