IOHN PENRI.”

Yr oedd ar lywodraethwyr Cymru ofn yr iaith Gymraeg, yr oedd y gyfraith

yn gwahardd i’r un swyddog ei siarad, a gwelodd Penri nad oedd obaith i

Gymru oddiwrth y frenhines na’r Senedd,—yr oedd pregethwyr lleyg a

chyfraniadau gwirfoddol yn bethau rhy newydd. Diangodd i’r Alban rhag ei

erlidwyr, ond ni fedrai aros mewn heddwch yno, gan ei gariad angerddol at

Gymru. Daeth yn ol i Lundain, gan ddisgwyl cael caniatad i fynd i Gymru

i bregethu, ac ymunodd a’r ddiadell o Anibynwyr oedd yno. Yr oedd ei

erlidiwr ar ei ol, a gwysiwyd ef o flaen y _Court of High Commission_,

llys eglwysig y frenhines. Cyhuddid ef ar gam o ysgrifennu’r _Martin

Mar-Prelate Tracts_, rhai y mae eu hyspryd chwerw gwawdlyd yn anhebyg i

ysbryd tyner a difrifol ei ysgrifeniadau ef. Ychydig o obaith am

gyfiawnder oedd i un garcherid gan weinidogion y Tuduriaid; ac yn l592 yr

oedd Penri yng ngharchar, wedi rhoddi i fyny bob gobaith am gael byw.

Peth anodd iawn oedd marw mor ieuanc, yn dair ar ddeg a’r hugain oed.

Peth anodd iawn oedd marw a gwaith mor fawr i’w wneyd, rhoddi’r efengyl i

Gymru dywell dlawd. O garchar caeth, ysgrifennodd yn nechreu Ebrill,

1593, at ei wraig a’i bedair geneth fach. Nid oedd ganddo ddim i’w adael

iddynt ond Beibl bob un. Gofyn iddynt, os medrent rywbryd, wneyd

rhywbeth dros ryw blentyn o Gymru, ac yn enwedig i’w fam oedrannus oedd

wedi aberthu drosto pan yn fyfyriwr.

Ac yng Nghefn Brith yr oedd ei fam yn byw, a’i frodyr a’i chwiorydd oedd

i ofalu am ei enethod bach na wyddent eto beth oedd gweddi. Ond gadewch

i ni anghofio’r dienyddiad hwnnw,—gwŷr yr hen oruchwyliaeth yn llofruddio

proffwyd y newydd,—ac edrych pa fath le yw ei gartref, dri chan mlynedd

ar ol iddo ei adael.

Eis i fyny at y ty hyd y ffordd, yr oedd gormod o wlith ar y llwybr. Yr

oedd dyn ar ben das gwair yn ei doi, a dywedodd fod “llawer o

hynafiaethwyr” yn dod i edrych y lle,—yn enwedig o Landrindod a Llanwrtyd

ym misoedd yr haf. Eis heibio’r beudy, ac i’r buarth,—lle wedi ei

amgylchynu bron gan adeiladau. Ar un ochr i’r ysgwar y mae’r ty, a

phorth o’i flaen, a’r coed yn ei gysgodi o’r tu ol. Yr oedd golwg dawel

arno, fel pe buasai wedi ei adael fel y mae er amser Meredydd Penri. Nid

oedd dim arwyddion bywyd ond y cunogau llaeth oedd newydd eu golchi yn y

porth, a’r hen gi defaid gododd ei ben cysglyd i edrych arnaf.

Eis ymlaen heibio’r ty i’r caeau. Rhedai aber risialaidd i lawr o’r

mynydd, ac yr oedd coeden wag wedi ei gwneyd yn gafn i’r pistyll. A

thraw yr oedd y gweirgloddiau hyfryd, a’r mynydd y tu hwnt iddynt. Nid

oedd yno greigiau nac ysgythredd, dim ond mawredd esmwyth a thawelwch.

Yr oedd edrych ar drumau prydferth Mynydd Epynt yn rhoi gorffwys i’r

meddwl, nid y gorffwys sy’n arwain i ddiogi, ond y gorffwys sy’n arwain i

waith. Dyma orffwys fel gorffwys y nefoedd, gorffwys sy’n deffro’r

meddwl ac yn ei gryfhau at waith. Nid rhyfedd mai meddwl effro a

gweithgar oedd meddwl John Penri. Ni fedd y mynyddoedd hyn fawredd

mynyddoedd y gogledd, rhywbeth hanner y ffordd rhwng Bro Morgannwg a’r

Wyddfa ydynt. Ac nid rhyfedd mai eu prydferthwch hwy, o’r holl

fynyddoedd, ddarganfyddwyd gyntaf, gan rai o’r ardaloedd hyn,—John Dyer a

Henry Vaughan. Bum yn syllu’n hir ar y coed unig welwn hyd drumau’r

mynyddoedd, ac yna’n edmygu lliwiau’r rhedyn a’r ysgaw a’r drain. Trois

wedyn i wylio’r gwenoliaid oedd wedi nythu tan y bondo, ac yna mentrais

i’r ty.

Eis trwy’r porth, a gwelwn ddrws cegin fawr yn agored ar y llaw dde.

Cegin eang, isel do, hen ffasiwn oedd, a llawer o gig moch yn crogi

oddiwrth y trawstiau. Yn y pen draw yr oedd lle tân isel, ac ychydig o

dân gwiail ynddo. Wrth y pentan yr oedd gŵr canol oed, a gofynnais hen

gwestiwn iddo,—

“Sut yr ydych chwi heddyw?”

“Gweddol fach, gweddol yn wir, dewch ymlân. Mi ges yr anwyd yn y gaua,”

meddai, dan besychu, “ac mi cesho fe wedin yn y mish bach dewch ymlân.”

Eisteddais tan fantell y simdde, ac agorodd ci oedd yn cysgu ar y pentan

ei lygad i edrych arnaf, fel pe’n drwgdybio fod fy mryd ar gynnwys y

crochan enfawr oedd ar y tân. Tybiai’r gŵr mai prynnu gwlan oedd fy

mwriad, a gofynnodd ai ni wyddwn beth oedd pris y gwlan ’nawr. Llonnodd

pan ddywedais ei fod yn codi ychydig, ond gwelodd ar unwaith mai nid

porthmon oeddwn. Yr oedd ganddo, meddai, bedwar neu bum cant o ddefaid

yn pori ar y mynyddoedd. Tra’r oeddwn yn syllu ar yr hen ddodrefn derw,

daeth cwestiwn wedyn,—yr oedd ar wr y ty awydd gwybod o ba grefydd yr

own. Atebais innau trwy ddweyd peth wyddai eisoes, sef mai Bedyddiwr

oedd ef.

“Pwi wedodd wrthich?”

“Ddywedodd neb; ond gwelaf ddarlun Spurgeon a darlun Christmas Evans, a

dyma Emau Robert Jones, Llanllyfni. A glywsoch chwi hanes Robert Jones

yng nghanol y chwarelwyr meddwon?”

“Naddo i.”

“Wel, codi ei ddwylaw yn eu canol a wnaeth, a diolch fod gan Dduw uffern

i roi’r fath rai ynddi.”

“Gweid difrifol oedd e, cofiwch rhi. O’r North yr ych chi’n dod?”

Wedi gwrando tipyn ar hanes y fro, gofynnais a gawn weld y rhannau hynaf

o’r ty. Dywedodd y gŵr fod croeso i mi ei weld i gyd. Aethom trwy ddrws

y gegin yn ol, a gwelem fynedfa hir yn rhedeg gyda mur y wyneb. Rhwng y

fynedfa hon a mur y cefn yr oedd dwy ystafell, yn edrych i’r gadles,

ystafelloedd oerion lleithion, ac yn llaethdai y defnyddid hwynt. O’r

rhain daethom yn ol i ddrws y ty, ac aethom ymlaen hyd y cyntedd hir hyd

nes y daethom at ddrws ymhen draw y ty, drws parlwr bychan, a’r lleithder

wedi amharu yr ychydig ddodrefn a darluniau oedd ynddo. Danghosai’r

cynllun yn amlwg fod y ty’n hen iawn, ac nid oedd gennyf un amheuaeth nad

ydyw’n awr yr un fath yn union ag oedd pan ddysgodd John Penri gerdded

ynddo. A braidd na thybiwn glywed y llais a ddistewyd gan yr archesgob

wrth glywed y gwynt yn codi,—

“O chwi bobl Cymru, yr ydych on yn esgymun ac yn wrthodedig. O chwi

bobl Cymru, yr ydych yn estroniaid o gymundeb y wir eglwys. O chwi

bobl Cymru, nid ydych hyd yn oed yng nghyfamod yr addewid, yr ydych

heb obaith dedwyddwch y nef. O chwi bobl Cymru, pa wybodaeth bynnag

o Dduw a ddywedwch sydd gennych, yr ydych yn wir yn anffyddwyr; ac

heb Dduw,—pob un o honoch ar nas dygwyd, er yr adeg y daethoch o ogof

eilunaddoliaeth a Phabyddiaeth, i gyfranogi yng ngallu Duw, yr hwn

yw’r efengyl.”

Yna, wrth i’r gwynt yn y coed ostegu, tybiwn fod ei lais yn tyneru mewn

cydymdeimlad,—

“Ond yn wir, fy mrodyr, ni phregethwyd yr efengyl i chwi, llenwir fi

â gofid wrth glywed gwawdio enw Cymru.”

Pe crwydrai ysbryd John Penri heddyw trwy wlad a garai mor fawr, gwelai

fod ei weddi dros Gymru wedi ei hateb, a fod addoldai drwy’r broydd fu

gynt yn ofergoelus ac yn isel eu moes. Os byth y rhydd Cymru gofgolofn

ar odrau Mynydd Epynt i ddweyd wrth ei phlant am dano, rhodder arni y

geiriau hyn anfonodd o’i garchar, yn ei ddyddiau olaf, at Burleigh,—

“Gŵr ieuanc tlawd ydwyf, wedi’m geni a’m magu ym mynyddoedd Cymru.

Myfi yw’r cyntaf, wedi blodeuad diweddaf yr efengyl yn y dyddiau hyn,

lafuriodd i hau ei had bendigedig ar y mynyddoedd anial hynny.

Llawenheais lawer tro o flaen fy Nuw, fel y gŵyr ef, am y ffafr o’m

geni a’m magu dan ei Mawrhydi, er mwyn gwneyd y gwaith. Yn fy

nymuniad cryf i weled yr efengyl yng ngwlad fy nhadau, ac i weled

symud y llygredigaethau a’i rhwystra, hawdd oedd i mi anghofio fy

mherygl fy hun; ond ni anghofiais fy nheyrngarwch i’m Tywysog erioed.

Ac yn awr pan wyf i orffen fy nyddiau, a hynny cyn dod i hanner fy

mlynyddoedd yn ol trefn natur, yr wyf yn gadael llwyddiant fy llafur

i’m cydwladwyr a gyfyd yr Arglwydd ar fy ol i, i orffen y gwaith, yr

hwn, wrth alw fy ngwlad i wybodaeth am efengyl fendigedig Crist, a

ddechreuais i.”

Trwy holl droion hanes Cymru, nid oes dim mor hyawdl i deimlad Cymro ag

ewyllys John Penri,—pedwar Beibl, gofal ei fam, a llwyddiant ei waith.

Cartrefi Cymru · 第 26 / 46 题