[Picture: Cefn Brith]
“Os anghofiaf di, Jerusalem, anghofied fy neheulaw ganu. Glyned fy
nhafod wrth daflod fy ngenau oni chofiaf di, oni chodaf Jerusalem
goruwch fy llawenydd pennaf.”—SALM cxxxvii. 5–6. Ar wynebddalen
“Supplication” John Penri dros Gymru.
YR oedd cyfaill i mi unwaith yn cyd-deithio yn y tren â’r diweddar Barch.
J. Kilsby Jones, o Lanfair Muallt i Lanwrtyd. Ymhen tipyn wedi gadael
Llechryd, dyma Mr. Jones yn tynnu ei het, ac yn dweyd,—“Yr ydym yn awr ar
dir clasurol. A welwch chwi’r llwyn o goed acw? Dacw Gwm Llywelyn. A
welwch chwi’r ty ar ochr y bryn i fyny acw? Dacw’r ty y ganwyd John
Penri ynddo. John Penri a ddywedodd wrth yr Ymneillduwyr am fynd i’r
Amerig. Ie, yn y bwthyn acw y ganwyd y syniad am weriniaeth fawr y
Gorllewin.”
Y mae’n sicr mai’r awydd am ryddid cydwybod,—yr awydd gafodd John Perni’n
ferthyr iddo,—a roddodd fod i’r weriniaeth fawr honno. Ond nid am yr hyn
a wnaeth Penri i’r Weriniaeth nas gwelsai ond trwy ffydd, nid am hynny y
meddyliwn wrth ddisgyn yng ngorsaf Llangamarch ym mis Gorffennaf
diweddaf, eithr am yr hyn a wnaeth dros Gymru, cyn rhoddi ei fywyd ieuanc
i lawr drosti am bump o’r gloch y prydnawn, ar y nawfed dydd ar hugain o
Fai, 1593.
Y mae ardal Llangamarch yn un o’r ardaloedd mwyaf mynyddig yng Nghymru,
er nad yw Mynydd Epynt a mynyddoedd Aber Gwesin mor uchel a’u brodyr sy’n
sefyll rhyngddynt a gwynt ac eira’r gogledd. Wrth fynd tua Llangamarch o
Fuallt yr oeddym yn dringo i fyny o hyd, yng nghyfeiriad y mynyddoedd
sy’n derfyn rhwng dyffrynnoedd yr Wy a dyffrynnoedd y Tywi. Teithiem i
fyny dyffryn yr afon Dulais, un o ganghennau’r Wy; o bobtu i ni yr oedd
rhes o fynyddoedd, a gwlad fryniog rhyngddynt, a thai ar y bryniau.
Dyma’r tren yn aros ar lethr y dyffryn, mewn man cul arno. Ar y llaw dde
y mae eglwys ar ochr y bryn, yr eglwys lle mae claddfa Cefn Brith, a’r
eglwys lle’r huna Theophilus Jones, hanesydd Brycheiniog. I lawr
odditanom, ar y chwith, y mae’r Ddulais dryloew ond yn rhy bell i lawr i
ni glywed ei dwndwr ar ei cherrig a’i graian. Cerddais i lawr o’r orsaf,
a sefais ennyd ar y bont sy’n croesi’r afon brydferth. Tra’r oeddwn yn
edrych i fyny’r afon ar y glennydd coediog, ac ar y mynyddoedd oedd draw
dan eu gorchudd llwyd o wlaw, clywn swn troed trwm, swn rheolaidd fel swn
troed rheng o filwyr. Heddgeidwad oedd yno. “Rhagluniaeth a’i hanfonodd
yma,” meddwn wrthyf fy hun, “daeth i’r dim, caf ei holi am y ffordd.”
“Wr braf,” meddwn wrtho, “a welwch chwi’n dda gyfarwyddo dyn dieithr i
Gefn Brith?”
“I don’t know what you say, you should speak English.”
“Mae hynny’n orthrwm mawr,” meddwn innau, “na chawn siarad Cymraeg â
swyddogion cyflog mewn lle mor Gymreig a Llangamarch.” Ffordd bynnag, er
siarad Saesneg âg ef, a Saesneg llawer gwell na’i Saesneg ef hefyd, ni
chefais ddim gwybodaeth ganddo. Gwelais yn eglur mai nid Rhagluniaeth
wnaeth hwn yn heddgeidwad, ond prif-gwnstabl Seisnig. A rhyfeddwn yn
fawr fy mod wedi camgymeryd gwaith y naill am waith y llall. Ar ororau’r
Deheudir y mae llawer o syniadau hen ddyddiau’r Lords Marchers eto’n
aros, tybir gan yr awdurdodau mai llywodraethu’r Cymry yw eu gwaith, ac
nid eu gwasanaethu. Ac y mae gormod o’u hen waseidd-dra yn y Cymry hyn
eto, mwy o ofn plismon anwybodus o Sais nag o ofn Cymro gonest a
chydwybodol. Ond tybed, er hyn, mai Sais uniaith ddylai ofalu am heddwch
Llangamarch?
O’r bont cerddais i’r pentref, pentref bach ar lan yr afon dan gysgod
bryn. Gofynnais i’r wraig gyntaf gyfarfyddais am y ffordd i Gefn Brith;
atebodd hithau, gen gynted a’r gwynt, drwy ofyn cwstiwn arall, “Ich chi’n
blongo iddi nhw?” Wedi i mi ddweyd digon o fy hanes i’w boddloni,
rhoddodd gyfarwyddiadau manwl i mi, a desgrifiadau maith o ffyrdd,
trofeydd, coed, a thai. Anghofiais y rhan fwyaf wrth gerdded i fyny gyda
glan yr afon; ac erbyn i mi holi yr ail waith yr oeddwn wedi mynd yn rhy
bell o lawer hyd ffordd Llanymddyfri, ac wedi anghofio troi. Troais yn
ol; a gwelwn ffordd drol ar y llaw dde yn arwain o’r gwastad, ac yn
dirwyn i fyny ochr y bryn. Cerddais innau hyd hon, ffordd leidiog is
na’r caeau o’i chwmpas. Erbyn hyn yr oedd yn gwlawio’n drwm, a da oedd
cael cysgod y gwrychoedd uchel trwchus. Bum am gwarter milltir heb weled
fawr ond bedw a gwern; yna, wrth i mi godi uwchlaw’r dyffryn, daeth y
wlad agored i’r golwg, ac ambell lygeidyn o haul arni trwy’r gwlaw. Wedi
cyrraedd pen y bryn, cefais olygfa ogoneddus ar fryniau a dyffrynnoedd yn
ymestyn i’r gorllewin. Bum yn cerdded am beth, amser hyd ffordd wastad,
gyda’r dyffryn ar y llaw dde, a mynyddoedd, at y rhai yr oeddwn yn dod
agosach agosach, ar y llaw chwith. Ar odrau’r mynyddoedd hyn yr oedd
ffriddoedd, llawer glyn cul coediog, a llawer hafan werdd. O’r diwedd
dois i olwg y ty; nid oedd y pellder gerddais ond rhyw ddwy filldir a
hanner, ond tybiwn ei fod yn ychwaneg, oherwydd fod cymaint o dynnu i
fyny a fod y ffordd mor drom gan y gwlaw.
Ond anghofiais bol lludded a dillad gwlybion wrth edrych ar yr olygfa
welir o ymyl Cefn Brith. Gwelwn lwybr yn mynd at wyneb y ty trwy ganol
gweirglodd weiriog wlithog; ac yr oedd y ffordd yn rhoi tipyn o dro, ac
yn mynd heibio’r adeiladau. I ba gyfeiriad bynnag yr edrychwn, gwelwn
fynyddoedd yn edrych arnaf or tu cefn i fynyddoedd. I’r gorllewin, dros
Gefn Gorwydd a phentref a chapel mawr, yr oedd mynyddoedd Llanwrtyd ac
Ystrad Ffin; ac ar yr ochr arall yr oedd hafannau gwyrddion mynyddig,
gydag ambell goeden griafol ac ambell fedwen yn ymddyrchafu mewn tlysni
dan wlith y cawodydd a gwên yr haul. Dyma’r ardaloedd y bu John Penri yn
meddwl am danynt pan yn ffoadur yn Lloegr a’r Alban, yr ardaloedd gafodd
bryder ei fywyd a’i feddyliau olaf.
Adeg ryfedd oedd yr adeg y bu Meredydd Henri yn disgwyl John adre o’r
ysgol i’r lle mynyddig hwn. Yr oedd teimlad angerddol dros undeb Lloegr,
yn wladol ac yn eglwysig. Dyma’r adeg yr oedd Elisabeth yn “Faerie
Queene” i Loegr a Chymru, dyna’r adeg yr aeth Lloegr drwy beryglon
oddiwrth alluoedd pabaidd Ewrob, dyna’r adeg y danghosodd Shakespeare mai
aflwydd ddaw i wlad lle y gwrthwynebir y brenin, eneiniog Duw. Ufuddhau
i’r frenhines, caru’r eglwys genhedlaethol, a diolch i Ragluniaeth am
gael byw yn yr amser hwnnw—dyna dybiai ysbryd yr oes oedd dyledswydd dyn.
Ac i Gymro, beth oedd mor unol â’i natur?
Ond yr oedd yn yr amaethdy mynyddig hwn un welodd hanes oesoedd i ddod,
un ddanghosodd yn glir beth fyddai dyfodol Cymru. Gwelai fod yr eglwys
yn esgeuluso Cymru, ac yn gwrthod rhoi yr efengyl iddi yn ei hiaith ei
hun; teimlodd rym yr efengyl a gwelai Gymru yn ei phechodau. Agorodd
tosturi a phryder ei lygaid, a daeth mab yr amaethwr yn broffwyd ei wlad.
Ganwyd John Penri yng Nghefn Brith, yn y ty sydd o’m blaen, yn 1559.
Aeth i Gaer Grawnt yn bedair ar bymtheg oed, ac yno clywodd y
Piwritaniaid cyntaf,—rhai ddywedai nad oedd y Diwygiad wedi ei orffen. A
feallai iddo gael cipolwg ar wirionedd mawr y dyfodol,—y medrai gwlad fod
yn gadarn ac unol heb grefydd genhedlaethol y gellid goddef i gydwybod
pob dyn ffurfio ei grefydd ei hun. O’r brifysgol, deuai Penri i
fynyddoedd Brycheiniog yn ystod ei wyliau, ac nis gallai lai na theimlo
mor ofergoelus oedd Cymru,—gwlad oedd wedi colli ei Phabyddiaeth, ac heb
gael eto ddim yn ei lle. Yn 1586 daeth i Rydychen, ac yma, y mae’n
debyg, yr ysgrifennodd ei bamffled ar sefyllfa resynus Cymru, y pamffled
anfonodd yn 1587 i’r frenhines a’r senedd. Dychrynnodd y pamffled hwnnw
lawer, a pha ryfedd, oherwydd gofynnid ynddo am hawl i leygwyr Cymru
bregethu’r efengyl. Er i’r hyn ddywedid ynddo gael ei ddweyd yr y Senedd
hefyd, gwysiwyd Penri o flaen yr awdurdodau eglwysig, o flaen yr
Archesgob Whitgift a’r esgobion. Rhaid maddeu llawer i’r rhain pan
gofiwn mai cred eu hoes oedd fod yn rhaid, er diogelwch, lladd pob
gwrthryfel yn erbyn sefydliadau cenhedlaethol. Dywedasant wrth Benri nas
gellid goddef ei syniad nad oedd clerigwr na phregethai yn weinidog
Crist. Cyhoeddodd yntau ryfel yn erbyn yr awdurdodau trwy ddweyd y
collai ei fywyd cyn y rhoddai’r syniad hwnnw i fyny.
Yn 1588, blwyddyn yr oedd Lloegr yn hanner addoli ei brenhines a’i
heglwys wedi’r Armada, blwyddyn Beibl yr Esgob Morgan, yn y flwyddyn
honno cyhoeddodd Penri bamffled arall. Mewn iaith hyawdl, condemnia’r
ymgais ffol i “geisio achubiaeth i ddynion trwy ddarllen iddynt yr hyn na
fedrant ddeall”
“Ychydig salmau, gydag un bennod o’r Testament Newydd yn
Gymraeg,—oherwydd ni siaradodd yr Hen Destament Gymraeg yn ein
dyddiau ni, er ei fod, er llawenydd mawr i mi, yn barod i’w
argraffu,—hyn yn unig yn cael ei ddarllen mewn dull gresynus, heb un
mewn deg yn ei ddeall, ai dyma’r moddion, ysywaeth, a ordeiniodd Duw
i hysbysu i bawb yng Nghymru beth yw cymdeithas y dirgelwch?”