Y MAE’N ddiameu mai Gwerfyl Fychan ac Ann Griffiths ydyw dwy brydyddes
oreu Cymru. Yr oedd Gwerfyl yn byw yn amser adfywiad dysg, a rhoddodd ei
hathrylith ar waith i weu caneuon aflendid,—ac y mae bron a medru gwneyd
yr aflan yn brydferth. Yr oedd Ann Griffiths yn byw yn amser adfywiad
crefydd, a daeth emynnau pur o’i chalon fel dwfr glân o ffynnon y mynydd.
Y mae’r ddwy wedi eu claddu,—ac fel y mynnai pethau fod, yn yr un fan.
Yn Llanfihangel yng Ngwynfa y claddwyd Gwerfyl Fychan hefyd,—y mae’r un
ymddigrifodd mewn meddyliau cnawdol yn huno ochr yn ochr â’r hon
ymhyfrydodd mewn meddyliau sanctaidd.
Saif Caer Gai ar fryn uwch pen gorllewinol Llyn Tegid, a haul y bore’n
tywynnu arno’n gynta man. Y mae traddodiadau boreuaf ein hanes ynglyn âg
ef. Ar y dolydd islaw iddo, meddid, y cafodd Arthur ei addysg. Bu’n
balas Rhufeinig; ac aml iawn y cwyd swch yr aradr briddfaen Rhufeinig,
neu garreg fedd rhyw filwr, neu ddarn arian a delw ymherawdwr arni, neu
ddarn o lestr loew goch.
Mewn amser diweddarach yr oedd yn gartref y Fychaniaid. Y mae darnau o
brydyddiaeth Gwerfyl yn nofio ar gof gwlad eto. Gŵyr pawb am yr hen
frenhinwr pybyr Rowland Fychan, cyfieithydd yr _Ymarfer Duwioldeb_. Ond
gŵyr yr efrydydd am aml Fychan arall hyddysg mewn cywydd ac englyn.
Wrth rodio’r hen fynedfa i fyny at Gaer Gai, er cymaint o feddyliau ddaw
am hanes ein cenedl, rhaid syllu ar fawredd rhyfeddol y fro. Y mae cefn
mawr llwm yr Aran tuag atom, y mae’r Garneddwen yn gorwedd yn isel rhwng
ei chwiorydd cawraidd, a gwga olion hen gastell Carn Dochan oddi ar gopa
craig serth ysgythrog ar ein cyfer. Odditanom cwsg dyfroedd gloew Llyn
Tegid, ac ar ein cyfer, dros y dŵr, y mae bryniau gwyrddion uchel groesid
gynt gan ffordd Rufeinig. Mae’r gerddi’n aros ar y llecyn heulog, ac y
mae pantle’r ffos yn amlwg; ond ni chlywais erioed hanes cloddio i
chwilio am drysorau neu feddau y Rhufeinwyr fu yma gynt.
Y ty adeiladodd Rowland Fychan, ond wedi ei adgyweirio ymron drwyddo,
sydd yno’n awr. Y mae geiriau yr hen frenhinwr selog wrth ben y drws,—
“Rho glod i bawb yn ddibrin,
A châr dy frawd cyffredin;
Ofna Dduw, cans hyn sydd dda,
Ac anrhydedda’r brenin.”