“Cwsg i lawr yn eglwys Talgarth,
Lle nad oes na phoen na gwae;
Mi gai godi i’r lan i fywyd,
Sy’n dragwyddol yn parhau.”
Cawsom fwynhau golygfeydd prydferth ac awel nawnol yn suo dros gae o
feillion peraroglus wrth gerdded y filldir sydd rhwng Talgarth a
Threfeca.
[Picture: Trefeca. Yr ochr agosaf at Dalgarth]
A dacw Drefeca yn y golwg. Ymgyfyd fel llinell hir o gestyll a thai
diwedd y Canol Oesoedd, dros gaeau gweiriog. Oni bai am y capel hyll ar
y chwith, buasai’n adeilad tarawiadol a phrydferth iawn. Yma, mewn
tawelwch, y treuliodd Howel Harris y rhan fwyaf o’i oes. Wedi’r
ymrafael, pan welodd ei fod yn colli gafael ar y dychweledigion drowd
trwy ei weinidogaeth ef ei hun, gadawodd ei bregethu teithiol, ac
ymneillduodd i’w gartref, gan wneyd Trefeca yn gartref i bawb hoffai
adael ei fro a dyfod i gydweithio ac i gyd-addoli. Ffurfiai’r holl gwmni
un teulu, yr oedd eu heiddo’n gyffredin, ac yr oedd cynilun eu bywyd yn
debycach i freuddwyd rhyw athronydd nag i gynllun yn cael ei weithio
allan gyda brwdfrydedd a llwyddiant. Tuag at gadw cymdeithas fel hyn
gyda’i gilydd yr oedd eisiau mwy na chrefydd a hyawdledd, yr oedd eisieu
medr anghyffredin mewn trin dynion. Nid oes odid i ddim yn hanes Cymru
mor ddyddorol ag ymgais Howel Harris i sylweddoli, rhwng bryniau Cymru,
gynllun yr eglwys yn nyddiau yr apostolion. Yng ngwyneb pob
anhawsderau,—diogi, ymrysonau, gwrthgiliad, priodi anghydmarus ymysg
aelodau’r teulu,—yr oedd Trefeca dan Howel Harris yn llwyddo ac yn
blodeuo. Bu’n fwy llwyddiannus, hwyrach, na’r un a geisiodd sefydlu
cymdeithas o’r fath. Yn grefyddwyr, yn filwyr, yn weithwyr,—enillodd
“Teulu Trefeca” barch ac edmygedd rhai wawdiai, ar y cyntaf, y syniad o
godi mynachlog yn Nhrefeca. Ebe Williams Pant y Celyn,—
“Pam y treuliaist dy holl ddyddiau
I wneyd rhyw fynachlog fawr,
Pan y tynnodd Harri frenin
Fwy na mil o’r rhain i lawr?
Diau buasit hwy dy ddyddiau,
A melusach fuasai’n ’nghân.
Pe treuliasit dy holl amser
Yng nghwmpeini’r defaid mân.”
Nid yn aml y cofir mai ychydig o’i oes roddodd Howel Harris i bregethu.
Cwestiwn ei frodyr oedd,—
“Pam y llechaist mewn rhyw ogof,
Castell a ddyfeisiodd dyn.
Ac anghofiaist y ddiadell
Argyhoeddaist ti dy hun?”
Ond ffurfio “teulu,” tebyg, i’r eglwys yn adeg yr apostolion, oedd ei
amcan ef; a gwastraffodd ar Drefeca y llafur yr oedd holl Gymru yn dyheu
am dano,—
“Ai bugeilia cant o ddefaid,
O rai oerion, hesbion, sych,
Ac adeilo iddynt balas
A chorlannau trefnus gwych,—
Etyb seinio pur Efengyl,
Bloeddio’r Iachawdwriaeth rydd,
O Gaerlleon bell i Benfro,
O Gaergybi i Gaer Dydd?”
Dyma ni’n troi o’r ffordd, ar hyd rhodfa trwy gae gwair, at wyneb y
coleg. O’i flaen y mae coed bytholwyrdd lawer; ac y mae golwg henafol ar
yr holl adeilad mawr di drefn, ar ei ffenestri crynion tyrog, gyda’r cloc
a’r lantar yn sefyll uwchben y cwbl. Aethom heibio’r wyneb, a thrwy
ddrws yn yr ochr i ystafelloedd bychain, ond hynod ddiddos a chysurus.
Wedi hwyr-bryd blasus, digwyddais edrych ar nenfwd wyngalchog yr ystafell
yr eisteddem ynddi, a gwelwn enw Jehofah mewn llythrennau Hebraeg uwch
ein pen. Dywedodd yr athraw wrthyf mai yn yr ystafell hon yr arhosai
Countess Huntingdon pan ar ymweliad â Howel Harris, ac y mae’n sicr fod
arddeliad mawr wedi bod ar lawer dyledswydd deuluoidd yn yr ystafell
gysegredig.
[Picture: Trefeca. Rhan o’r wyneb]
Treuliais amryw ddyddiau dedwydd yn Nhrefeca. Crwydrwn, wrth f’ewyllys,
drwy’r ystafelloedd lluosog, fu unwaith yn gartref i “deulu” rhyfedd
Howel Harris. Teimlwn fod Trefeca yn gynllun o goleg,—mewn lle iach
tawel. Hen weithdy’r “Teulu” ydyw un o’r ystafelloedd darlithio, a
danghoswyd i mi dwll trwy yr hwn y gallai Howel Harris weled, yr adeg a
fynnai, pa fodd yr oedd pethau’n mynd ymlaen yn y gweithdy. Y mae’r
llyfrgell yn cynnwys un o’r casgliadau goreu o lyfrau Cymraeg welais
erioed; casglwyd hi, yr wyf yn meddwl, trwy lafurus gariad y Parch.
Edward Matthews. Cynhwysa hefyd ddyddiaduron a llythyrau Howel Harris, a
llawer o lythyrau ereill deifl oleuni dyddorol iawn ar gynlluniau a
gwaith Howel Harris.
* * * * *
Nid oes fawr o ffordd o Drefeca i Lyn Safaddan. Llecyn mwyn ydyw’r llyn
hwn, treuliais ddiwrnod hyfryd ar ei ddyfroedd. Croesasom ef droion a
gadawsom i’r cwch sefyll ymysg yr hesg tal sy’n tyfu o waelod y llyn
tra’r oeddym yn gwylio’r eleirch ac yn mwynhau’r golygfeydd oedd wedi
ymddelwi yn y dyfroedd clir. Dyma le tawel, lle wrth fodd y myfyrgar,
dan gysgod Mynydd Troed, ac o fewn ychydig i gyrchfannau miloedd glowyr y
Deheudir. Tra’n mwynhau’r awelon hafaidd, cofiwn am y traddodiad sydd
ynglŷn a’r llyn,—fod ei ddyfroedd yn cuddio dinas bechadurus suddodd i’r
ddaear dan bwys ei drygioni.
Gadewais Drefeca yn blygeiniol, ac yr oedd awel iach y bore yn gwneyd fy
meddwl yn ddigon effro i gofio darluniad Williams adeg marw Howel
Harris,—
“Mi af heibio i’r palas euraidd
Sydd â’r angel ar ei ben,
’Drychaf ar y castell cadarn
Sy a’i begynau yn y nen;
Ac mi rof ochenaid ddofon,
Gan ryw synnu ynnwyf f’hun,
Fel mae’r nef yn trefnu ei throion
I ddiddymu dyfais dyn.
“Er cadarned yw’r adeilad,
Ac er teced yw ei wedd,
Y mae’r perlyn goreu ynddo
Heddyw’n gorwedd yn ei fedd
Ac nis gwel e mwy mo hono
Fel y gwelodd ef o’r bla’n,
Hyd y dydd bo’n cael ei losgi
Gyda’r byd yn danllwyth dân.”
[Picture: Steps leading to house]