“Dyma’r fan, tr’wy byw mi gofiaf,
Gwelais i di gynta erioed,
O flaen porth yr eglwys eang
Heb un twmpath dan dy droed,
Mewn rhyw ysbryd dwys sylweddol,
Fel yng ngolwg dydd a ddaw,
Yn cynghori dy blwyfolion,
A dweyd fod y farn ger llaw.”
[Picture: Eglwys Talgarth]
A DYMA’R eglwys lle gorwedd Howel Harris, udgorn y Diwygiad! Yn yr
eglwys acw yr argyhoeddwyd ef, a rhoddwyd ef i orwedd lle y clywodd lais
Duw yn cynnyg trugaredd iddo. A dacw’r fan lle pregethai pan basiodd
William Williams, ar ei ffordd adref o’r ysgol i Bant y Celyn. Bore
gofiwyd byth gan William Williams oedd hwnnw,—
“Dyma’r boreu, byth mi gofiaf,
Clywais innau lais y nef;
Daliwyd fi wrth wys oddiuchod,
Gan ei swn dychrynllyd ef.”
Ychydig o lanerchi ar ddaear Cymru sydd mor gysegredig i deimlad Cymro
a’r llannerch hon,—lle gwelwyd apostol cynhyrfus y Diwygiad yn pregethu
argyhoeddiad i emynnwr y Diwygiad.
Llannerch dawel, brydferth ydyw. Y mae ar ychydig o godiad tir, a
dringir iddi o dref fechan Talgarth welwn o bobtu i aber Enig a helyg ac
ysgaw rhyngom a hi. Y mae golwg hyfryd ar y wlad oddiamgylch, saif cylch
o fynyddoedd gwyrddleision fel gwylwyr uwchben y fynwent, a chyfyd tŵr
ysgwar yr eglwys i fyny’n uchel ac yn hyf, i ddangos yspotyn mwyaf
cysegredig y fro ddyddorol a phrydferth hon. Y mae’n bedwar o’r gloch ar
gloc yr eglwys, ac y mae distawrwydd adfywiol nawn haf wedi disgyn, fel
gwlith, ar y wlad ffrwythlawn dyfadwy. Y mae rhyw orffwys breuddwydiol
yn meddiannu f’enaid innau wrth neshau at y fynwent; a su hen
ddigwyddiadau, fel ysbrydion llawer cnul a llawer claddfa, yn llenwi’r
distawrwydd ar nawn haf. Y mae hud dros bopeth, prin y mae digon o natur
beirniadu ynnof i gael poen oddiwrth y cerrig beddau di chwaeth, gyda’u
llythrennau efydd, sydd ym mhlith hen gerrig mwsoglyd y fynwent. Sefais,
ar ddamwain, cyn dod at borth yr eglwys, a disgynnodd fy ngolwg ar enw
Howel Harris. Carreg fedd ei dad oedd. Ar hon y dywedir fod Howel
Harris yn pregethu pan safodd Williams Pant y Celyn wrth fynd heibio, i
glywed ei alwad ef ei hun. Y mae’r llythrennau mor berffaith ag oeddynt
pan safai Howel Harris, os safai hefyd, ar y garreg i gyhoeddi ei
newyddion rhyfedd. Yr oedd gwirioneddau’r byd tragwyddol mor fyw o’i
flaen ef fel mai prin y sylwai, hwyrach, ar yr olygfa o’i gwmpas.
Eneidiau anfarwol, nid mynyddoedd a lamant fel hyrddod a bryniau a
branciant fel ŵyn defaid, a welai ef. Ond maddeuer i mi, o gyneddfau
gwannach a chyda llai o ddychymyg, am syllu ar yr olygfa. Y mae’n araf
godi o’m blaen, fel yr oedd y diwrnod y daliwyd yr emynnwr â gwys oddi
uchod. Dacw Howel Harris ar y garreg fedd, a’i lais yn ddychryn i’r
dyrfa sy’n gwelwi o’i flaen. Dacw wr ieuanc ar ei ffordd adref o’r ysgol
wrth ddrws y fynwent, yn gwasgu’n agosach i gwr y dorf, ac yn colli golwg
arno ei hun wrth wrando, mewn syndod a dychryn, ar y llais taran hwnnw.
O flaen y pregethwr y mae chwech o yw mawreddog,—y maent yno eto yn eu
duwch wylofus,—a thref Talgarth. Uwchben dacw’r Mynydd Du; ac o amgylch
y mae bryniau blodeuog ardal sydd ymysg ardaloedd tlysaf Cymru.
Ni raid myned ymhell i gael hanes olaf y pregethwr gynhyrfodd fwyaf ar
Gymru o’r holl bregethwyr fu yng ngwlad y pregethu erioed. Eis ymlaen
trwy’r fynwent, ac at ddrws yr eglwys. Y mae’r eglwys yn isel a llydan;
ac yn drymaidd iawn y tu mewn. Cerddais yng nghyfeiriad y côr, a gwelwn
ysgrifen hanes Howel Harris ar garreg.
Gwelais lawer carreg fedd mewn llawer gwlad mewn llawer lle
rhyfedd,—gwelais y garreg ar fedd gwag Dante, gwelais fedd Chateaubriand
mewn craig yn nannedd y tonnau, gwelais feddau rhai enwog mewn eglwysi
mawrwych,—ond ni theimlais gymaint yn unlle ag yn eglwys drymaidd dywell
Talgarth. Hyfryd i Howel Harris oedd huno lle y clywodd y bywyd newydd
yn ymweithio yn ei enaid. Teimlwn fod mwy na bedd yn eglwys Talgarth;
teimlwn fy mod ar lecyn genedigaeth Cymru newydd. Beth bynnag arall
fedrir ddweyd am ei hyawdledd ac am ei athrylith, ac am ei gynlluniau
rhyfedd, gellir priodoli deffroad Cymru, o gwsg oedd yn marweiddio ei
nherth cenhedlaethol, iddo ef yn fwy nag i neb arall.
Ond y mae ychwaneg na’i hanes ef ar y garreg, digon i’m hadgofio am y
teimladau daiarol,—teimladau ag arlliw y nef arnynt,—oedd mor gryf yn ei
enaid. Ar ei deithiau pregethu, yn ei weddiau, yn ei freuddwydion, yn ei
ofnau, y mae un nad enwa yn bresennol yn barhaus. Bum yn darllen ei
lythyrau ati, a’r cynnyg priodas. Wedi hanes yr ymserchu a’r ofni,—stori
sydd mor hen, ac mor newydd,—dyma ei hanes olaf hithau, wedi siarad am yr
lesu â’i hanadl olaf.
Mewn awr hamddenol, ryw dro, cesglais lythyrau caru dyddorol. Yn eu mysg
yr oedd un oddiwrth Nathaniel, mab Daniel Rowland, at ferch Howel Harris.
Y mae yma air o’i hanes hithau, unig blentyn eu gofal, ar waelod y
garreg.