Yna ganwyd Ieuan Gwynedd—hynaws.
Ynghanol dinodedd;
A’i wylaidd swyn hawliodd sedd
Orielau anfarwoledd.
—GWAENFAB.
CARTREF Ieuan Gwynedd,—pa Gymro na theimla ei galon yn cynhesu wrth
feddwl am dano? Yn y cartref tlawd ac anghysbell hwnnw y bu mam bryderus
yn ceisio dysgu ei Hieuan bach bregethu, ac yn agor i’w feddwl
plentynaidd gynnwys rhyfedd ei Beibl Coch,—oedd wedi brynnu gan Charles
o’r Bala ei hun, ac wedi talu am dano bob yn ychydig o’i henillion prin.
Pwy aberthodd fwy dros ei wlad na’r bachgen hwnnw, pwy welodd ddyfodol
Cymru â threm gliriach, pwy ddanghosodd brydferthwch bywyd ei gwerin mor
ddiofn? A wnaeth rhywun fwy mewn oes mor fer a than gymylau mor dduon?
Naddo, neb.
Ar fore hyfryd yn yr haf diweddaf, cefais fy hun yng ngorsaf fechan y
Bont Newydd, rhyw dair milltir o Ddolgellau. Aeth y tren ymaith, gan
adael dim ond meistr yr orsaf a minnau. Ar un ochr yr oedd bryn coediog,
yr ochr arall yr oedd yr afon; a phrin yr oedd digon o le i’r ffordd fawr
a’r ffordd haiarn rhwng yr afon a’r bryn. Ond dros yr afon yr oedd
ychydig o gaeau gwastad, a bryn coediog arall y tu hwnt iddynt. Y mae’r
dyffryn ymysg y culaf o ddyffrynnoedd Cymru. Ger yr orsaf, dyma bont i
groesi afon Wnion. Y mae golygfeydd swynol i’w gweled oddiar y bont
hon,—mynyddoedd uchel gleision i’w gweled ymhob cyfeiriad dros lwyni o
goed, a’r afon risialaidd yn murmur yn ddedwydd rhwng y bryniau sydd fel
pe’n ymdyrru ati i edrych ar ei thlysni. Gwlad goediog garegog ydyw hon,
y mae’n amlwg, a glynnoedd llawn o ir-gyll a rhedyn.
Ond rhaid peidio aros ar y bont. Dyma ffordd deg, rhwng gwrychoedd cyll,
a rhosynau gwylltion claerwyn fel pe’n gwylio’r teithwyr anaml. Ar
ochrau’r ffordd y mae blodau gwylltion lawer, y llysiau mel tal aroglus,
a gwawr felen ar eu gwynder; clychau’r gog gwelw-leision, rhyfeddod i
blentyn; a’r ben-galed arw, gyda’i thegwch cartrefol. Ie, ar y ffordd
deg hon, ac ymysg y blodau hyn, y treuliodd y plentyn Ieuan Gwynedd lawer
o ddiwrnodau haf ei blentyndod.
Ond dyma’r Ty Croes yn ymyl. Ydyw, y mae yn union fel y darlunia Ieuan
ef pan yn hiraethu am ei fam a bore oes. Y mae ei dalcen atom, a’i wyneb
gwyngalchog i’r ffordd. Dacw’r dderwen lydanfrig ar ei gyfer, dacw’r cae
porfa o flaen y drws, dacw’r pistyll bach mor glir a phan gyrchai
Catharin Evans ddwfr o hono a phan geisiai Ieuan Gwynedd gydio ynddo pan
yn ddwyflwydd oed. “Cawsant ran y cyffredin o lafurwyr a mân amaethwyr
Cymru,” ebe Ieuan am ei fam a’i dad. “Ni buont heb y fuwch yn y beudy,
yr ychydig ddefaid yn y Cae Porfa, na’r pistyll gloew grisialaidd o flaen
y drws drwy yr amser.” Mewn ychydig funudau croesir y cwm o fryn i
fryn,—ond mor ddyledus ydyw Cymru i’r fangre fach! Yn y bwthyn hwn y
bu’r bachgen yn darllen ychydig lyfrau ei dad,—Grawn Sypiau Canan, Taith
y Pererin, Llyfr y Tri Aderyn, Ffynhonnau yr Iachawdwriaeth, yr Ysgerbwd
Arminaidd, Bardd Cwsg,—a Beibl Coch ei fam. Dyma’r garreg olchi; oddiar
ei phen y bu’r plentyn yn pregethu i’r dderwen fawr a’r pistyll,—blaenor
ac arweinydd y gân. Ac yn rhywle yn ymyl y mae’r llannerch lle syrthiodd
ar ei liniau dan argyhoeddiad i weddio, llannerch yr ymwelai â hi bob tro
y deuai i edrych am ei fam. Yma y dadblygodd ei feddwl, dan arweiniad
cariadus ei fam; oddiyma yr aeth yn fachgen ieuanc i ymgodymu â holl
gyfyngderau myfyriwr tlawd; yma y bu, yn Ionawr, 1849, yn edrych ar wyneb
ei fam cyn y wylnos,—yn awr heb na gair na deigryn fel y bu. Pell y bo’r
dydd yr anghofio Cymru y fam hon a’r mab hwn.
“Faint o ffordd sydd oddi yma i Fryn Tynoriad?” ebe fi wrth wraig oedd yn
sefyll gyda dau blentyn wrth y drws. Dywedai fod siwrne hir i fyny i
gyfeiriad pen y Garneddwen, hyd ffordd y Bala. Bu dadl rhyngof a’r
bachgen bach am oed Ieuan Gwynedd pan symudodd ei rieni o’r Bryn Tynoriad
i’r Ty Croes. O’r diwedd dywedai fod ganddo lyfr setlai’r cwestiwn,
llyfr oedd ei frawd hynaf, sydd yn gwasanaethu yng Nghwm Hafod Oer, wedi
ei yrru iddo. Aeth i’r ty, a daeth a rhifyn o _Gymru’r Plant_ yn
fuddugoliaethus, i roi taw arnaf.
Cychwynnais hyd ffordd dan y coed tua Bryn Tynoriad. O’m blaen yr oedd
Dôl Gamedd, ar fryn, yn debycach o bell i dy Elizabethaidd neu fynachlog
na dim arall. Oddiyno cefais lwybr troed i lawr y cae a thrwy goedwig
fechan i’r ffordd haiarn. Cerddais ennyd hyd hon, gan ryfeddu at
ddistawrwydd ac unigedd gwaelod y cwm, lle nad oedd prin le i’r afon a’r
ffordd. Toc gwelwn feudy megis pe’n edrych arnaf dros ochr rugog y
ffordd. Dringfais i fyny ato, a gwelais gaeau, yn lle coedwig fel o’r
blaen. Dechreuais ddringo i fyny. Yr oedd y distawrwydd yn teyrnasu o
hyd, oddigerth fod swn carnau meirch carlamus yn dod o’r ffordd islaw.
Ond wele wlad fawr boblog yn ymddangos wrth i mi ddringo i fyny, ffermydd
laweroedd a beudai, a chynhaeaf gwair prysur. O gwmpas y cylch o
ffermydd yr oedd cylch pellach ehangach o fynyddoedd ysgythrog, a gwelwn
Gader Idris yn codi’n bigfain i’r niwl tua’r de. Ni fum mewn lle
hyfrytach erioed nag ar ben y banciau hyn. Aberoedd grisialaidd,
ffrwythau addfed, arogl gwair sych cynhauafus, awel y mynydd ac awel y
môr,—dyma le i’r gwan gryfhau. Ar ein cyfer dacw’r Hengwrt Ucha; a thraw
ar fin y mynydd, uwch ei ben, dacw’r Blaenau, cartref Rhys Jones,
cynhullydd “Gorchestion Beirdd Cymru.” Ymhellach fyth y mae’r Rhobell
gawraidd yn edrych i lawr ar y llethrau a’r dyffryn.
Cefais ymgom ddifyr â llawer amaethwr y diwrnod hwnnw. Dywedent fel y
byddai pawb ar ei dir ei hun unwaith,—Pant y Panel, Coed Mwsoglog, Coed y
Rhos Lwyd, Maes y Cambren, Brith Fryniau, a llu ereill,—oll erbyn heddyw
wedi eu gwerthu i dir-feddiannwr mawr. Sylwais gymaint yn dlysach oedd
yr hen dai na’r tai sydd newydd eu codi; ond nid oedd amser i holi beth
oedd y rheswm.
Heibio llawer cartref dedwydd, a phawb ond y plant a’r cwn yn prysur
gario gwair, cyrhaeddais Esgair Gawr. Yr oedd y cerdded hyd ael y
bryniau a thrwy’r coed wedi codi mawr eisieu bwyd arnaf. Cefais lawer
gwahoddiad gan y ffermwyr caredig i droi i mewn “i gael tamaid,” ond yr
oeddwn yn cadw fy hun at y te oedd yn Esgair Gawr. O’r cartref croesawus
hwnnw cefais ffordd hyfryd, dros gaeau a than goed, i Fryn Tynoriad.
Gwelais y llyn lle y bu ond y dim i Ieuan Gwynedd foddi cyn bod yn ddwy
flwydd oed,—ond anfonodd Rhagluniaeth ryw ffermwr yno mewn pryd. Y mae
Bryn Tynoriad yn agos iawn i ben y Garneddwen,—y mynydd sy’n gwahanu
dyffryn y Ddyfrdwy oddiwrth ddyffryn yr Wnion. Y mae’n bur neilltuedig,
mewn cwm main, a gelltydd coediog bob ochr. Yn awr y mae’r ffordd haiarn
yn mynd heibio iddo, a gorsaf Drws y Nant ychydig yn nes i lawr. Ond
unig a thawel ydyw eto. Y mae dwy aden i’r ty, a chanol, y canol yn dy
annedd, a’r adenydd yn ysgubor a beudy. Wrth ei gefn y mae coed a ffridd
serth y Celffant. O’i flaen y mae cae bryniog dymunol. Oddiar y cae
gwelir yr Wnion fechan islaw, a’r Wenallt goediog ar gyfer. Gwelir
agoriad rhwng y mynyddoedd i gyfeiriad y Bala, dros ddraenen y cymerodd
rhywun lawer o ofal gyda’i thyfiant.
Ond gadewch i ni fynd i’r ty. Y mae ynddo wraig garedig, siaradus, a
doniol dros ben,—Anibynwraig bid siwr. Awn i fyny gris neu ddwy, a
dyna’r gegin ar y dde. Llawr tolciog ydyw, wedi ei lorio â cherrig
bychain. Yr oedd yna dân braf o dan y simnai fawr, a’r tegell yn berwi
ar gyfer y cynhauafwyr gwair,—yr oedd y gwlaw wedi gorchuddio’r fro erbyn
hyn, a’r gwair mewn diddosrwydd neu ar y cae.
Ac yma y dysgodd Ieuan Gwynedd gerdded. Nid oedd yn cofio llawer am y
lle; ond yr oedd yn cofio’r diwrnod mudo i’r Ty Croes, er nad oedd yn
ddwyflwydd oed, oherwydd ei fod wedi medru cario “ystôl mam” ar draws yr
aelwyd. Ac ar yr aelwyd hon y suwyd ef gan ei fam, y magwyd ef gan ei
dad, ac y cusanwyd y “bachgen bach” gan ei frawd. Danghoswyd y “siamber”
imi hefyd, yr ochr arall i’r drws, lle ganwyd Ieuan.
* * * * *
Ryw dro bu ef ei hun yn edrych ar fan ei eni. “Amgylchais y ty yn ol ac
ymlaen. Chwiliais am le y ffenestr o flaen pa un y’m ganesid; ac fel yr
oeddwn yn myned ol a blaen o gylch y fan, teimlwn fel na theimlais erioed
o’r blaen. Dyna y llannerch lle y dechreuaswn fyw. Yno ym
brys-fedyddiwyd rhag fy marw’n ddi-fedydd, a chael yr helbul o fy
nghladdu yn y nos ym mynwent Dolgellau, yr hon oedd dros saith milltir o
ffordd o’r lle. Yno y gorweddaswn i a fy mam am oriau, a’r bobl yn
disgwyl i ni farw am y cyntaf; ac yno y cyneuwyd ynnof y ganwyll yr hon
na losga tragwyddoldeb allan. Yno y dechreuaswn fyw, yno y dechreuaswn
farw. Yno y dechreuais fy llwybr i’r wybrennau, ac yno y dechreuais fy
ffordd i’r bedd.”
* * * * *
“Ffordd i’r bedd,” a’r diwedd yn y golwg yn ddigon aml, oedd bywyd byr a
brau Ieuan Gwynedd.
Ymysg y gwladgarwyr newidiodd wedd meddwl Cymru yn y blynyddoedd
diweddaf, nid y lleiaf oedd ef.
Gwnaeth gymaint am fod ei fywyd mor debyg i fywyd ei frodyr, tra yr oedd
amcanion y bywyd hwnnw mor anrhaethol uwch. Plentyn Cymru oedd ym mhob
peth,—ar y Beibl y cafodd ei fagu, sel dros ddirwest ddeffrôdd ei enaid,
awydd angerddol am wybodaeth wnaeth iddo fyrhau ei ddyddiau o fyfyrdod
tlawd a gwaith amhrisiadwy.
Dyhead ei fywyd oedd gweled Cymru’n lân ac yn rhydd; yn lân oddiwrth
bechod, a’i mheddwl yn anibynnol ar bawb ond ar ei Duw. Ond er mor
chwerw oedd yn erbyn ei phechodau, ni fedrai oddef i neb ei chamddarlunio
a’i gwawdio, fel y dengys ei ysgrifau miniog yn erbyn bradwyr y llyfrau
gleision.
Fel ysgrifennydd y gwasanaethodd Gymru oreu. Yr oedd ei sel,—a’i
afiechyd, efallai,—yn ei wneyd yn chwerw weithiau at ei wrthwynebwyr, ond
maddeuir pob gair garw pan gofir am ei lafur llethol gyda’r _Adolygydd_,
a chyda’r _Gymraes_ yn enwedig. Gwelodd mor bwysig oedd merched Cymru;
gwyddai y medrent hwy newid y ffasiwn o ddirmygu iaith eu gwlad. Gwelodd
fod ar feddwl Cymru eisieu sylfaen o wladgarwch oleuedig, a buasai wedi
ysgrifennu llyfr ar hanes Cymru pe tebyg y rhoddasai ei gydwladwyr
groesaw iddo.