“Na’d i’r gwyntoedd cryf dychrynllyd
Gwyntoedd cryf y gogledd draw,
Ddwyn i’m hysbryd gwan trafferthus
Ofnau am ryw ddrygau ddaw;
Tro’r awelon
Oera’u rhyw yn nefol hin.”
Yma y gwelodd y wawr, lawer diwrnod hyfryd, yn torri ar y mynyddoedd
draw, wedi noswaith o golli cysgu wrth ofni am ei ffydd,—
“Draw mi wela’r nos yn darfod,
Draw mi welaf oleu’r dydd,
Yn disgleirio dros y bryniau,
Melus yn y man a fydd;
Ffy gelynion pan ddêl goleu,
Ni all pechod, er ei rym,
A’i holl wreiddiau yn fy natur.
Sefyll haul cyfiawnder ddim.”
O’r llecyn hwn y bu’n gweld y caeau’n tyfu, a’r blodau’n lledu eu
hwynebau i oleuni cynnes yr haul. Dacw’r llygad dydd ar y weirglodd
brydferth, a’r glaswenwyn, a mantell fair, a’r ben-galed, a chynffon y
gath,—ond
“Ofer imi weld y ddaear
Yn egino’i hegin grawn,
Ofer imi weld yr heulwen
Fawr yn estyn ei phrydnawn,
Ofer imi weld y blodau
Yn datguddio’u dirif liw,
Tra fo neb rhyw un creadur
Yn cysgodi gwedd fy Nuw.”
A dacw fynyddoedd yn ymestyn i’r gogledd, i gyffiniau Ystrad Ffin. Yma y
bu’r hen emynnwr, pan na fedrai deithio mwy, yn canu ei emyn bendigedig
ei hun,—
“Rwy’n edrych dros y bryniau pell,
Am danat bob yr awr;
Tyrd, fy anwylyd, mae’n hwyrhau,
A’m haul bron mynd i lawr.”
Teimlwn, wrth adael Pant y Celyn, fy mod yn troi’m cefn ar un o lanerchi
mwyaf cysegredig Cymru. Y mae golygfeydd y fro hon wedi ymddelweddu yn
yr emynnau sydd, yn eu tro, wedi rhoddi eu delw ar feddwl Cymru. Synnwn
fod golygfeydd Pant y Celyn mor gartrefol i mi; yr oeddwn wedi eu gweled
yn yr emynnau, bob un. Trwy’r golygfeydd hyn y cafodd Williams y
darluniadau o’r nefoedd sydd, erbyn hyn, yn rhan o freuddwydion ac o
obeithion pob Cymro. Gwened yr haul arnat byth, ti gartref per ganiedydd
Cymru!
[Picture: Bedd Williams Pant y Celyn. Ger eglwys Llanfair ar y bryn]
Cyn y nos, ail gychwynnais o Lanymddyfri, a dringais i fyny i eglwys
Llanfair ar y bryn. Y mae bedd a chofgolofn Williams wrth ochr Pant y
Celyn i’r eglwys. Y mae golygfa brydferth oddiar ben y bryn hwn,
oddiwrth y bedd, ar y wlad oddiamgylch; ond ofer fuasai dechreu dweyd
hanes y fro hanesiol hon. Y mae’r golofn o wenithfaen Aberdeen, ac y
mae’r argraff sydd arni wedi ei godi oddiar y garreg las oedd ar fedd
Williams o’r blaen.
Cyn i mi adael Llanfair ar y bryn daeth un heulwen hyfryd euraidd ar yr
yw ac ar wlith y beddau; ac yn fuan iawn gwelwn yr eglwys a’i bedd yn
diflannu o’m golwg yn y pellder ac yn y gwlaw.
Darllennais emynnau Pant y Celyn wedi mynd adre gyda mwy o flas nag
erioed. Darllennais hwy droion wedyn, ac yr wyf yn barod i ddweyd gydag
Elfed wrth bob Cymro,—
Dante—dos i’w ddilyn;
Shakespere—tro i’w fyd;
Cofia Bant y Celyn
Yr un pryd.