PANT Y CELYN.

[Picture: Y fynedfa at Bant y Celyn]

“YM mhle _mae_ Pant y Celyn?” ebe athraw yn un o golegau’r Methodistiaid

Calfinaidd wrthyf unwaith. Yr oedd tôn gwerylgar yn ei gwestiwn,

oherwydd ei fod yn gorfod gofyn peth oedd yn dangos cymaint o

anwybodaeth. Nid oeddwn yn ddigon rhagrithiol i ddweyd fy mod yn synnu

at ei anwybodaeth, oherwydd ni wyddwn fy hun, cyn mynd yno, ymha un o

bedair neu bum sir yr oedd Pant y Celyn. Er hynny nid oes odid aelwyd

yng Nghymru nad ydyw Pant y Celyn yn air teuluaidd arni.

Ryw ddiwrnod yn yr haf diweddaf yr oeddwn yn teithio o fynydd-diroedd

Llanwrtyd drosodd i ddyffryn Tywi, ac i lawr ar hyd y dyffryn enwog

hwnnw. Wedi rhediad chwyrn i lawr hyd ochrau’r mynyddoedd, daethum i

Lanymddyfri gyda’r nos. Ni welwn fawr o dref na dim, o’r orsaf; a

throais i’r gwesty cyntaf gefais. Yr oedd yno dân braf,—yr oedd yr hin

yn oer a gwlawog, er mai haf oedd. Yr oedd yno fwyd da ac iachus mewn

ystafell lân hefyd. Fel rheol, pur anghysurus ydyw lletydai Cymru o’u

cydmaru a lletydai gwledydd ereill, yn enwedig tai dirwest. Gadewir y

ffenestri yng nghauad ddydd a nos, nes y bo arogl anhyfryd ar yr

ystafelloedd ac ar y dodrefn; gadewir llwch i hen gartrefu ar bob astell

ac ym mhob cornel; a bydd rhigolau duon, digon i ladd archwaeth y cryfaf,

ar y _cream-jug_ o wydr tawdd. Ond, yn y gwesty hwnnw ger gorsaf

Llanymddyfri, yr oedd popeth gen laned a’r aur; yr oedd ol dwfr

grisialaidd ar bob peth. Yr oedd y llian gwyn fel yr eira, yr oedd y

siwgr fel pe’n disgleirio yn y llestr gwydr mawr, taflai’r tân oleuni

rhuddgoch ar gwpanau glân fel y cwrel. Yr oedd y bara can, yr ymenyn,

a’r caws yn flasus, yr oedd yr hufen yn felyn dew, yn ddigon tew, chwedl

Kilsby, i geiniog nofio ar ei wyneb yn ddi-brofedigaeth. Ac am y te,

wel, te oedd; nid y drwyth roddir o’m blaen yn aml, trwyth nas gwn ar

ddaear wrth ei hyfed beth sydd yn yr tepot gyda’r dŵr,—pa un ai ffa’r

corsydd ai dail carn yr ebol ai sug tybaco.

Wedi dadluddedu o flaen y tân, bum yn darllen gweithiau S. R. oedd yn yr

ystafell. Ymgollais yn y rhai hynny hyd nes y daeth gŵr y gwesty i

ddweyd fod y tân bron a mynd allan. Cefais hanes y wlad ganddo, yn

grefyddol a gwleidyddol yn bennaf, o safle Bedyddiwr Arminaidd. Cefais

bob manylrwydd hefyd am y ffordd oreu i gyrraedd Pant y Celyn. Yr oedd

pobl fonheddig o Saeson yn aros yn yr un ty, a thybiwn unwaith, gan eu

bod hwythau’n mynd i’r un cyfeiriad, y medrem gyd-logi cerbyd. Ond,

erbyn cael ymgom, trwy wr y tŷ, nid oeddynt hwy wedi clywed gair erioed

am Williams Pant y Celyn. Yr oeddynt wedi clywed llawer o son am Dwm

Sion Cati, ac i chwilio am ei ogof ef yr oeddynt yn mynd. Pe buasai Twm

Sion Cati yn ei ogof, os gwir pob stori, ni fuasai’r brodyr hyn mor

awyddus am fynd yn agos ati.

Bore drannoeth, nid cyn i fwyafrif pobl Llanymddyfri godi, yr oedd cerbyd

wrth ddrws y gwesty, a gyrrwr ynddo, yn barod i’m cludo tua Phant y

Celyn. Nid oedd y gyrrwr yn un siaradus; yn wir, pur anodd oedd cael

ystori o hono. Rhoddodd ei ddistawrwydd fwy o hamdden i minnau edrych

o’m cwmpas, a meddwl am emyn ar ol emyn ddoi i’m cof wrth deithio ymlaen

hyd gynefin ffyrdd y per ganiedydd. Rhedodd y merlyn, a’i fwng yn yr

awel, hyd y ffordd o’r orsaf i’r dref, heibio i ysgol Llanymddyfri. Yna

trodd am y gornel tua’r gogledd; gan fynd yn chwyrn trwy’r brif ystryd.

Gadawsom gapel prydferth ar y chwith, capel coffadwriaethol Williams Pant

y Celyn,—capel Saesneg ysywaeth. Ymhen tipyn, wrth fynd o’r dref i’r

wlad agored, yr oeddym yn pasio adeilad arall. Ar y dde yr oedd hwn, ac

yr oedd golwg urddasol arno, er gwaethaf ei henaint a’i dlodi. Gofynnais

i’r gyrrwr a’i hwnnw oedd ty’r Ficer, a dywedodd yntau mai ie.

Dôl werdd lydan a Llanfair ar y bryn i’w weld drosti,—dyna welsom gyntaf

wedi gadael y dref. Gwyddwn mai yn y Llanfair hwnnw y claddwyd Williams.

Collodd Llanfair ar y bryn o’n golwg, a dilynasom ffordd wastad hyfryd

gydag ymyl y ddôl a than gysgod bryn creigiog. Daethom i gwm cul, lle’r

oedd yr afon wedi torri ffordd iddi ei hun i adael y mynyddoedd. Dyma

ddôl wastad eto, a choed o bobtu iddi, lle hyfryd ddigon. Dacw fynydd yn

codi o’n blaenau; daeth awydd canu drosom,—

“Ar ddisgwylfa uchel gribog

Disgwyl ’rwyf er’s hir brydnawn,

Edrych am yr hindda hyfryd

’Nol cawodydd geirwon iawn,

Ac i’m hysbryd,

Trwy’r cymylau, weld y wlad.”

Hyd yn hyn yr oedd wedi bod yn bwrw gwlithlaw, ac yr oedd y wlad dan niwl

llwydlas. Fel yr oeddym yn agoshau at y mynydd hwnnw, daeth awel o’r de,

a dechreuodd y niwl dorri a chilio. Llawer gwaith y gwelodd yr emynnwr

awyr lâs drwy’r cymylau ar y ffordd hon, a llawer gwaith yr hiraethodd am

dani,—

“Pa bryd caf deimlo’r awel gref

Sy’n chwythu i ffwrdd gymylau’r nef,

I mi gael gweled Salem bur?

Gogoniant ddwyfol uwch y rhod

Nas gwelodd llygaid dyn erioed,

Ac nas mwynheir mewn anial dir.”

Dyma’r ffordd yn troi i’r ochr arall i’r dyffryn; dacw’r afon yn troelli,

ol a gwrthol, fel pechadur yn yr yrfa trwy’r anialwch. Ond y mae swn

dedwydd yn ei dwndwr, wrth adael ei gyrfa wyllt yn y bryniau a dechreu

llifo’n esmwyth gydag ymyl y ddôl,—

“Mi deithiais ran o’r anial maith,

’Dwy’n deall pellder pen fy nhaith,

Mewn gwledydd sychion, dŵr nid oedd;

Yn awr rwy’n disgwyl, fore a nawn,

O’r nefoedd ddŵr a sypiau grawn,

Wna’m henaid egwan wrth ei fodd.”

Dacw’r ffordd yn rhedeg yn syth yng nghyfeiriad y mynydd unig hwnnw. Ni

wyddem beth oedd y bryn yn guddio,—dyffrynnoedd, gwlad wastad, ynte

mynyddoedd uwch. Dyma drofa yn y ffordd, o honi gwelem draw, heibio’r

mynydd, fynyddoedd ereill, uwch o lawer, heb rif,—

“Er c’uwch y bryniau uchel fry,

A swn tymhestloedd tywyll, du.

A’r holl freuddwydion ofnau sy,

Anturiaf eto ’mlaen;

Mae nerth y nefoedd fry yn fwy

Na myrdd o’u dychryniadau hwy;

Mae haeddiant dwyfol farwol glwy

Yndrech na dŵr a thân.”

Gydag inni gael golwg ar y wlad y tu hwnt i’r mynydd, cauodd gorchudd o

wlaw am dani. Dechreuodd y gwlaw yrru dros y dyffrynnoedd, ac yr oedd y

gwynt yn dolefain wrth ysgubo dros fryn a phant. Pe buaswn yn hollol

ddieithr i’r wlad, tybiaswn mai dros ryw wastadedd mynyddig, heb ddim ond

pyllau mawn a chrawcwellt ac ambell ddafad esgymun, yr oer anadlai’r

awel. Ond yr oeddwn wedi cael golwg ogoneddus ar y wlad dan haul nawn y

dydd cynt; a gwyddwn, oddiwrth emynnau Williams, fod ei gartref mewn

gwlad brydferth,—

“Dyma’r man dymunwn drigo,

Wrth afonydd gloewon, llawn,

Syddyn llifo o ddŵr y bywyd

O las foreu hyd brydnawn,

Lle cawn yfed

Hyfryd gariad fyth a hedd.”

Oddiwrth olygfeydd yr ardal hon y cafodd Williams ei liwiau i ddarlunio

gwlad yr hedd,—

“Mi welaf draw, o bell,

Baradwys hardd ei gwedd,

A phrennau llawer gwell

Yn perarogli hedd;

O hyfryd wlad, tu draw pob gwae,

Gwyn fyd gawn heddyw dy fwynhau.”

Ond y mae’r gwynt yn dolefain, a’i swn fel swn cornchwiglen, ond ei fod

yn fwy parhaus ac yn fwy lleddf. Daethom at le yr oedd yr afon a’r

ffordd yn ymrannu’n ddwy. Troisom ni ar y chwith i lawr ffordd serth, a

gwelem ffordd union o’n blaenau, a bryn uchel, a chlawdd ar ei draws, fel

cadwen wedi ei thaflu drosto. Ond ychydig ymlaen fedrem weld, gan y niwl

a’r gwlaw. Mynych ddymuniad oedd am i’r niwl godi, ac am gael gweled

gogoniant y wlad,—

“Rwyf yn dechreu teimlo eisoes

Beraroglau’r gwledydd draw

Gyda’r awel bur yn hedeg,

Diau fod y wlad ger llaw,

Tyrd, y tir dymunol hyfryd,

Tyrd, yr ardal sydd heb drai.

Dy bleserau o bob rhywiau,

Gad im bellach eu mwynhau.”

A chyn bo hir daeth awel eilwaith o’r de, ysgafnhaodd yr awyr, a gwelem

rimin glâs o fynyddoedd pell o’n blaen. Yr oedd y ffordd erbyn hyn yn

debycach i ffordd dre ddegwm nag i brif-ffordd, yn dirwyn i fyny hyd ochr

bryn serth. Wrth i ni godi i fyny, yr oedd yr olygfa’n ehangu o hyd, gan

roddi teimladau hyfryd i ninnau, a gwneyd inni feddwl ein bod yn gadael

gwlaw a’r gelltydd serth ar ein hol—

“Rwyf yn teimlo gwynt y deheu,

Yn anadlu awel bur,

Ac yn ysgafn gario f’enaid

Draw i fryniau Canan dir;

Aeth y gauaf garw heibio,

Darfu’r oer dymhestlog wynt;

Na ddoed mwy’r cawodydd duon

I fy mlino i megys cynt.”

O’r diwedd daethom i ben yr allt, a chawsom olwg ogoneddus ar y bryniau

dan orchudd ysgafn tyner o niwl. Llawer gwaith y bu Williams yn syllu

arnynt oddiar y ffordd hon, ac nid rhyfedd fod ei emynnau gore mor llawn

o honynt.

“Rwyf yn gweled bryniau uchel

Gwaredigaeth werthfawr lawn,

O na chawn i eu meddiannu

Cyn machludo haul brydnawn;

Dyma’m llef tua’r nef,

Addfwyn Iesu, gwrando ef.”

Llawer gwaith, wedi taith flinderus, y bu Williams yn edrych tua bryniau

ei gartref oddiar y ffordd uchel hon, ac ar yr eangder o fynyddoedd welem

y tu hwnt iddynt,—

“Rhwng cymylau duon, tywyll,

Gwelaf draw yr hyfryd wlad;

Mae fy ffydd yn llefain allan,—

‘Dacw o’r diwedd dy fy Nhad.

Digon, digon!

Mi anghofia’m gwae a’m poen.”

Ond nid ydym eto ym Mhant y Celyn, er ein bod yng ngolwg y wlad. Rhed y

cerbyd yn chwyrn i lawr y bryn, a dyma ni mewn dyffryn cauad coediog,

gyda chapel bychan uwch ben y nant. Capel Anibynwyr Pentre Tygwyn ydyw,

ac y mae’r dyddiad 1719 arno. Ni chefais fawr o amser i edrych arno, ond

yr wyf yn cofio gweled bedd Daniel Howells o Lanymddyfri, fu’n pregethu

am bymtheng mlynedd a deugain.

Wedi gadael y pentre bychan hwn, yr oedd rhiw serth o’n blaen; ac erbyn i

mi ddod o fynwent y capel, gwelwn y cerbyd tua hanner y ffordd i fyny’r

rhiw, a’r ceffyl yn gorfod ei dynnu o ochr i ochr, er mwyn lladd yr allt

rywsut. Deuai un o emynnau Williams i’m cof innau o hyd,—

“Wel, f’enaid, dos ymlaen,

’Dyw’r bryniau sydd gerllaw

Un gronyn uwch, un gronyn mwy,

Na hwy a gwrddaist draw;

Dy angrhediniaeth gaeth,

A’th ofnau maith eu rhi,

Sy’n peri it’ feddwl rhwystrau ddaw

Yn fwy na rhwystrau fu.”

Ond dyma fi wedi dal y cerbyd, ac ar ben y rhiw. O’n blaen, o bobtu’r

ffordd, yr oedd caeau gweiriog, ac awel esmwyth aroglus yn anadlu

drostynt. Troisom trwy lidiart ar y dde, a dilynasom ffordd oedd yn

croesi’r cae gwair i gyfeiriad yr afon. Toc daeth yr afon i’r golwg, a

gwelsom ei bod yn rhedeg gyda godrau’r cae. Wrth i ni droi gyda’r ffordd

gwelem lwyn o goed o’n blaen, yr oedd coed hefyd yn nyffryn yr afon, a

throstynt oll gwelem y mynydd yn dawel a thlws. Lle hyfryd, pell o dwrf

y byd, ydyw Pant y Celyn,—

“Dyma’r man dymunwn aros

O fewn pabell bur fy Nuw,

Uwch terfysgoedd ysbryd euog,

A themtasiwn o bob rhyw;

Dan awelon

Peraidd hyfryd tir fy ngwlad.”

Cerddais ymlaen tua’r ty, nid ydyw yn y golwg tan ddeuir i’w ymyl. Wedi

mynd i mewn i’r buarth, gwelwn o’m blaeu dŷ newydd, gydag un talcen i’r

llechwedd a’r llall at yr afon. Rhyngddo a’r afon yr oedd glyn bychan

swynol, llawn o goed. Yn union o’i flaen, i dorri grym y gwynt ac i gadw

pethau, yr oedd hen dŷ to brwyn. Teimlwn, er nad oedd dim yn darawiadol

iawn yn y ty, fod y fangre’n un hyfryd a tharawiadol iawn. Eis ymlaen at

y ty, cnociais, a daeth geneth lygat-ddu, rhyw bedair ar bymtheg oed, i’r

drws. Yr oeddwn wedi gweled y darlun o Williams sydd yn llyfrgell

Abertawe, a theimlwn fod yn rhaid fod yr eneth hon yn perthyn iddo.

[Picture: Pant y Celyf]

“Dyn dieithr o’r Gogledd ydwyf,” ebe fi, “wedi dod i weld Pant y Celyn.”

“Chwi gewch ei weld, a chroeso. Dowch mewn. Mae’n resyn eich bod yn

cael diwrnod mor wlawog.”

Arweiniwyd fi i mewn, a gwelais fod lletygarwch Cymreig o’r iawn ryw ym

Mhant y Celyn. Nid oeddynt wedi’m gweled i erioed o’r blaen, ac ni

wyddent a welent fi byth wedyn. Ond mynnent gael gwneyd te i mi; a phan

wrthodais, daethant a glasiad o lefrith oedd yn gwneyd i mi sylweddoli

dymunoldeb “gwlad yn llifeirio o laeth a mel.” Arweiniwyd fi i ystafell

Williams, ystafell isel dan drawstiau mawr. Yr oedd cader Williams yno,

yn yr hon yr ysgrifennodd ei hanes ysbrydol mewn cynifer o ddulliau.

Cynhygiwyd i mi eistedd yn y gader, ond yr oedd rhyw hanner ofn yn

rhwystro i mi wneyd hynny. Yr oedd IHS,—Iesus hominum Salvator, Iesu

Gwaredwr dynion,—ar galchiad y nenfwd yn yr ystafell fechan unwaith.

Trwy’r ffenestr yr oedd llecyn gwyrdd bychan i’w weled, a’r ty to brwyn

dros ei ben. Ar ben y grisiau, gwelais gloc Williams, gyda gwyneb o bres

gloew, a thic trwm marw. Yr oedd yr hen gloc a’r hen gader yn dwyn i’m

meddwl lafur ei oes ryfedd. Hwyrach fod llawer o’r Diwygwyr yn

bregethwyr mwy nerthol na Williams Pant y Celyn. Ond ni weithiodd yr un

o honynt yn galetach, ac ni fydd dylanwad yr un o honynt mor barhaol a’i

ddylanwad ef. Efe, trwy ei emynnau, sydd wedi gwneyd y Diwygiad yn rhan

o fywyd Cymru, ac wedi gwneyd iddo esgor ar ddeffroad cenedl,—deffro i

feddwl ac i fyw. Fel cydoeswyr Shakespeare yn Lloegr, nid edrychai

cydoeswyr Williams Pant y Celyn arno fel y bardd na’r meddyliwr mwyaf yn

eu mysg. Barnent ei emynnau gan gofio am anhawsderau

cynghaneddu,—gwaith, o fawr ofal Rhagluniaeth am ddyfodol Cymru, na

cheisiodd efe ei wneyd. Yr oedd mwy o ramadeg yn emynnau Thomas Jones o

Ddinbych a mwy o gynghanedd yn emynnau’r gŵr rhyfedd athrylithgar o

Ramoth, ond Williams ydyw’r per ganiedydd er hynny. Clywais fod Dr.

Edwards wedi chwilio am un i ysgrifennu erthyglau ar hymnau Pant y Celyn,

a’i fod wedi gofyn i Eben Fardd ymgymeryd â’r gwaith. Safodd Eben Fardd

uwch eu pennau fel gramadegydd. Gwrthododd Dr. Edwards ei feirniadaeth,

a gofynnodd i Wilym Hiraethog sefyll uwch eu pennau fel bardd. Clywais

ddweyd fod Williams wedi ysgrifennu gormod, ac y buasai’n well iddo fod

wedi aros mwy uwchben ei linellau, i’w gloewi gogyfer a’r beirniad

gor-fanwl byr ei lathen ddeuai gyda’r oes wannach oedd yn dod ar ei ol.

Dyna ddywedir hefyd am Wordsworth, dyna ddywedir am Geiriog,—ac y mae’n

dangos mor ddiwylliedig ac mor fas ydyw tir meddwl y rhai a’i dywed.

Ond dyma wr ty Pant y Celyn. Diacon gyda’r Anibynwyr ydyw, ac un diddan

iawn ei ystori. Gwyddai hanes John Penri’n dda, ac yr oedd yn cofio’r

Siartwyr yn y De. Ond, rhag ofn i mi feddwl ei fod yn rhyw eithafol

iawn, dywedodd, gyda gwên chwareus yn ei lygaid, ei fod yn talu’r degwm

fel yr oen.

Yr oedd hen gloc Pant y Celyn, gyda’i dipiadau trymion, yn mynd mynd ar

ben y grisiau, a gorfod i minnau ymadael heb gael holi ond ychydig iawn.

Ond dymunol i mi oedd teimlo fod teulu’r emynnwr ym Mhant y Celyn o hyd.

Wrth sefyll ger Pant y Celyn, teimlwn fy mod yn cael esboniad ar lawer

emyn. Ar y llecyn hwn bu Williams, lawer tro, yn teimlo awel y deheu,

fel y teimlaf finnau hi’n awr, ac yn ei chroesawu,—

“Deuwch yr awelon hyfryd,

Deuwch dros y bryniau pell,

Dan eich aden dawel, rasol,

Dygwch y newyddion gwell;

Dygwch newydd at fy enaid,—

Fy enaid innau yno gaed,

Dedwydd enw’n argraffedig

Yn yr iachawdwriaeth rad.”

Cartrefi Cymru · 第 18 / 46 题