GERDDI BLUOG.

YR oeddwn wedi meddwl llawer am weld cartref Edmwnd Prys, y cartref sydd

yng nghanol y mynyddoedd, y cartref lle cyfieithiwyd Salmau Israel i’r

iaith Gymraeg. Tybiais mai canol haf oedd yr amser goreu i fyned yno ar

draws y bryniau, gan fy mod yn meddwl bob amser mai haf yng Nghymru

ydyw’r tymor ddarlunir yn y Salmau, pan hiraetho’r hydd am yr aberoedd

dyfroedd, a phan fo’r porfeydd gwelltog yn hyfryd ar lan dyfroedd araf.

“Gefn trymaidd yr haf,” chwedl pobl Harlech, y dechreuais ddringo’r

bryniau serth sydd rhwng glan y môr a’r cartref yn y mynyddoedd.

Pan eisteddais i orffwys gyntaf, yr oeddwn ar fryn uwchlaw Castell

Harlech,—y môr odditanaf a’r mynyddoedd uwch fy mhen, y mynyddoedd sydd

rhwng glan y môr a gwastatir uchel Traws Fynydd. Llecyn hyfryd odiaeth

oedd hwnnw. Dros gaeau o datws gwyrddion, gydag ambell flodeuyn piws ar

y cae gwyrdd, gwelwn donnau gwynion afrifed y môr, a’r haul yn goreuro eu

hewyn. Os wyt yn ymhyfrydu mewn lliwiau, buasai yn dda gennyt fod gyda

mi yno,—i weled y gwyrdd yn dy ymyl, a’r gwyn gyda gwawr aur arno draw

drosto. Tybiwn ei fod yn gyfuniad o liwiau prydferthaf nef a daear; ac

yn y cyfuniad yr oedd ei swyn. Heibio’r garreg yr eisteddwn arni rhedai

dyfroedd grisialaidd o ffynnon y Bedyddwyr, dwfr clir wedi codi’n foreu

ym mro y creigiau a’r grug. Hyd ochrau sych hyfryd yr afonig, blodeuai’r

goesgoch a’r rhedyn, gan wasgar eu perarogl hyfryd gwan. Ac ar ael y

bryn o’n blaenau gwelem Gutiau’r Gwyddelod, fel ysbrydion hen amseroedd.

Nid oeddwn fy hun yn y llecyn hwnnw. Yr oeddwn i a gŵr ieuanc, oedd yn

treulio ei wyliau gartref yn Harlech, wedi dod yn ffrindiau mawr. A chan

ei fod yn gwybod am bob troedfedd o’r ardal, yr oeddwn wedi erfyn arno

ddod yn gwmpeini i mi. Ni fuasai’n bosibl cael diwrnod na chwmni gwell.

A rhag fod fy nghydymaith yn meddwl fy mod wedi blino eisoes, troais fy

nghefn ar olygfa oedd mor swynol i mi.

O’n blaenau yr oedd gallt serth, ac yr oedd corn simneu unig i’w weled

drosti, fel pe buasai’n codi o’r ochr draw. Corn simneu Cefn y Filldir

oedd, a chlywais fod yno bregethwr unwaith, pregethwr y Bedyddwyr, yn

meddu dylanwad ar yr ysbrydion drwg. Hawdd gennyf fi gredu hynny, ac ni

rown fawr am bregethwr os na fydd ar yr ysbrydion drwg dipyn o’i ofn

ambell i dro.

Yr oedd yr allt yn drom a’r dydd yn boeth, ac wrth ddringo igam ogam i

ben y bryn safem yn aml, a thaflem aml olwg yn ol ar y castell a’r môr.

Yr oedd swn y môr yn dod yn fwy gwan a suol o hyd, a phrin y clywem ef

pan ddoi swn gwenynen i’n clustiau, wrth iddi grwydro dros flodau mân y

mynydd.

Wedi cyrraedd pen y bryn, wele wastatir hir o’n blaenau,—cae hir eithinog

glas o’r enw y Fonllech Hir. Yr oedd awel adfywiol yn crwydro o’r

mynyddoedd i’n cyfarfod, wedi casglu perarogl mewn cannoedd o gaeau

gwair. Odditanom yr oedd cwm rhamantus Nancol, a morfa’r Dyffryn. Dros

y rhain y gwelem Fochras a’i gregin, a Sarn Badrig yn y môr. Ehedai aml

wylan tua’r tir rhyngom a’r awyr las, arwydd fod storm yn y môr. Yr oedd

gorchudd o niwl dros y Wyddfa a’r Rhinog a’r Moelfre o’n blaenau.

Daethom i ffordd union deg yn rhedeg ar hyd y Fonllech, debyg i ffordd

Rufeinig, o Lanfair i Fedd Gelert a Nanmor. Cerddasom ennyd ar hyd hon,

gan droi ar y chwith o’r llwybr gerddem o’r blaen. Odditanom gwelem

ffermdai Drws yr Ymlid a Chil y Bronthyr. Dilynai aber ni, gan fynd dan

y ffordd weithiau; efallai i ti ei gweled, ddarllennydd hoff, yn disgyn

yn gawod wen dros y graig yn ymyl castell Harlech.

Troisom o’r ffordd hir union wedi ei dilyn am beth amser, gan gyfeirio ar

y dde tua Chwm Bychan. Yr oedd tarw’r Ffridd ar ein llwybr, ond ni

wnaeth fwy na rhuo. Yr oeddwn wedi edrych o’m cwmpas am le i ddianc, ac

wedi methu canfod yr un. Hyfryd i mi oedd gweled y tarw’n rhoi ei ben i

lawr, ac yn ail ddechreu pori mewn heddwch. Bum mewn ffos unwaith, ag

ochrau cerrig iddi, a tharw yn bwrw â’i ben ataf, ond fod yr ochrau

cerrig yn rhy gul i’w dalcen ddisgyn arnaf. Yr wyf yn cofio ei anadl

boeth ar fy ngwyneb o hyd; a pho leiaf o deirw fo’n y byd, goreu oll gen

i.

Caeau bychain caregog oedd yno, gyda darnau o dir amaethedig ymysg

corsydd a brwyn. Yr oedd ffrydiau ardderchog o ddwfr gloew ymhob man. I

lawr odditanom gwelem gaeau gwyrddion dyffryn yr Artro, a’r môr dyfnlas

draw dros y morfa llydan a’r traeth. Yr oedd gwres yr haul wedi codi

cymylau i hulio’r nen. Doi ambell heulwen danbaid trwy’r cymylau, ac yr

oedd lliw pob peth yn troi yn ogoneddus tan ei gwên,—lliw melynwyn

brenhines y weirglodd, coch gwan blodau’r grug, melyn tanbaid yr eithin,

a’r lliwiau afrifed rhwng coch-wyrdd y gwair addfed a glas-wyrdd yr egin

yd. Yr oedd llawer o’r gwair wedi ei gynhauafa oddiar rosydd y Ffridd a

Rhyd yr Eirin, a’r syndod i mi oedd sut yr oeddynt wedi medru lladd y

byrwellt rhwng y twmpathau caregog, os nad â siswrn. Ac yr oedd arogl y

mynydd yn dod i’n cyfarfod dros y caeau cneifiedig, arogl crawcwellt a

grug.

Wedi croesi’r gefnen hon eto, daethom i olwg y Cwm Bychan, ac wele wlad

Edmwnd Prys o’n blaenau. Natur yn ei pherffeithrwydd sydd yno, ni welir

ond ychydig o ol llaw dyn arni, ac y mae’n sicr fod yr olwg a gawn ar y

Cwm Bychan yn union yr un fath a’r olwg gai Edmwnd Prys arni wrth

gyfieithu’r Salmau, dair canrif yn ol.

Gyda’n bod yng ngolwg y cwm, gwelem fynyddoedd yn codi’n sydyn o’n

blaenau, a golwg ddu fygythiol arnynt. Pan welais y cwm gyntaf, nid fel

cyfieithydd y Beibl y daeth Edmwnd Prys i’m meddwl, ond fel y swynwr fu’n

ymryson â Huw Llwyd Cynfel. Ond buan y cynefinodd fy llygaid â’r

mynyddoedd geirwon serth, a gwelais y llyn tawel sy’n gorwedd wrth eu

traed. Yr oedd rhes o goed rhyngom ag ef, a gwelem ei ddyfroedd gleision

tawel rhwng y canghennau. Y tu hwnt i’w gwr uchaf gwelem gaeau

llechweddog a rhai gwastad. Y tu hwnt iddynt yr oedd y mynyddoedd o hyd;

yr oedd niwl ar ben Carreg y Saeth a’r Rhinog Fawr, ac nis gallem weled

pa mor uchel oeddynt.

Ond ymhle mae’r Gerddi Bluog?

Yn union odditanom, yr ochr yma i’r cwm. Byddwn yno mewn ychydig

funudau. Dechreuasom ddisgyn hyd y llwybr serth, drwy gaeau bychain,

llawn o goed gwern ac eithin a grug. Ac hyd ochr y nant gwelem y feidiog

las a lliaws o flodau nad oedd gennym ni enwau arnynt. Yr oedd yno un

math o goed bychain oeddym yn adnabod yn dda, sef coed llus.

O’r diwedd cyrhaeddasom y gwaelod, ac aethom drwy lidiart fechan mewn mur

o gerrig geirwon. Ac wele’r Gerddi Bluog o’n blaen. Wrth ei gefn yr

oedd llond y nant o goed, a ffrwd gref yn rhedeg yn wyllt ar hyd y graig

a’r graian odditanynt. Ar lan y ffrwd hon gwelem yr adeiladau,—yr helm

drol a’r beudai a’r cutiau moch,—ac ymhellach draw na hwynt gwelem y ty.

Y ddau gar mawn wrth gefn yr helm, y cunogau llaeth yn sychu ar y graig,

y buarth glân, y coed cysgodol, yr olwg glyd a threfnus,—y mae’r Gerddi

Bluog yn debyg iawn i lawer hendre Gymreig. Ond yr oedd y pinwydd yn

taflu rhyw wawr henafol a dieithr ar y lle. Wrth i ni ddod i lawr

ochrau’r buarth, yr oedd arogl chwilys yr eithin a chamomeil yn

perarogli’r awel, ac yr oedd cymylau gwynion yr haf yn ymlid eu gilydd

uwch ein pennau dros y cwm.

Croesasom yr afonig, a dechreuasom chwilio am enwau maswniaid ar hen

furiau’r beudai. Ar garreg las fechan wrth ffenestr dalcen un beudy

gwelsom hyn,—

Morgan Prys

HYDREF: 31

1728: W. H.

Pen.: Saur

O’r adeiladau daethom at y ty, a gwelsom yr enw M. P. a’r dyddiad 1667 ar

ran cydmarol newydd o hono. Yr oedd ei gefn atom, a throisom am ei

gornel i gael golwg ar ei wyneb. Cawsom olwg hen a phatriarchaidd iawn

arno. Gwelais ar unwaith mai o’r drws acw ac ar hyd y palmant hwn y doi

arch-ddiacon Meirionnydd pan ar ganol rhoi’r salmau mewn Cymraeg mor

felodaidd. Lle tawel a chlyd ac unig yw. Y mae’r ty a’i dalcen i fryn

caregog serth. Ar ben y banc y mae mur, a’r goesgoch yn tyfu gyda’i

waelod, a choeden onnen yn gwyro uwch ei ben. Pan droisom am y gornel,

yr oedd y mur a’r bryn yn union o’n blaenau. Ar y chwith yr oedd gwyneb

y ty. Yr oedd y drws yn isel,—yn debycach i ddrws y dewin nag i ddrws

arch ddiacon,—ac yn hen iawn; yn amser ymosodiadau ar dai y cynlluniwyd

drysau felly. Yn wyneb hir y ty yr oedd un ffenestr; ac un arall wedi ei

chau yn amser y dreth ar ffenestri. Ar gyfer y ty, ac yn gwynebu ato, yr

oedd hen dy hŷn fyth, wedi ei droi yn dy mawn. Rhwng y ddau yr oedd

llawr o graig neu o balmant, oddigerth lle tyfai blodau cochion mawr o

flaen y ty mawn. Safasom ger drws y ty i weled pa olygfa geir o hono.

Yr oedd pinwydd duon yn ymyl, ac yr oedd awel ysgafn yn gwneyd iddynt

ysgwyd yn araf, fel hen wragedd y seiat dan awelon o Seion, fel pe

buasent yn clywed swn y Salmau byth. Rhwng y pinwydd hyn gwelem

fynyddoedd ardderchog,—fel y mil o fynyddoedd y sonia’r Beibl am danynt.

Ond yr oedd yn bryd troi i’r ty. Yr oedd y gŵr wedi dod allan atom,—gŵr

caredig prysur,—a rhaid i ffarmwr fod yn brysur iawn i fyw yn y dyddiau

hyn, pan y mae prisiau pob peth mor isel. Aethom i mewn dan y garreg

fawr sy’n gapan i’r drws. Yr oedd cyntedd hir o’n blaenau, yn mynd ar

draws y ty i gyd. Ar ein de yr oedd palis pren, a drws tua’i ganol.

Troisom trwy’r drws hwnnw i gegin eang, gyda nenfwd isel hen ffasiwn. Yr

oedd y llawr yn lân, fel yr aur, ac yr oedd golwg clyd ryfeddol ar y

gegin. Draw ar ein cyfer yr oedd y simneu fawr hen ffasiwn, a’r tân

mawn, a’r crochanau.

Yr oedd plismon yn y ty, yn nillad ei swydd. Nid am fod drwg-weithredwyr

yng Ngerddi Bluog yr oedd wedi dod, ond oddiar ysfa lenyddol. Y mae aml

blismon yng Nghymru’n llenor; ac yr oedd hwn yn dod o gyffiniau llenyddol

Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Y tu ol iddo, gan sythed ag yntau, gwelwn

gloc enwog Edmwnd Prys. Cas hir, o onnen, debygwn, yw cas y cloc. Nid

yw’n mynd,—nid oes o hono ond pen a chas. Ni fynnwn daflu angrediniaeth

ar hen draddodiad, yn enwedig pan fo Glasynys wedi ei wneyd yn destyn

cân; ond paham na fuasai’r “Morgan Price of Gerthi Blyog,” dorrodd ei enw

arno yn 1734, yn torri ei enw ar rywbeth heblaw’r hen gloc.

Mam yn Israel oedd gwraig Gerddi Bluog, gallaswn feddwl. Gadawodd i ni

weld yr holl dy, a mynd i’r llofft i weled pren gwely Edmwnd Prys.

Aethom i fyny hyd risiau derw troellog, nes dod i’r llofft lle mae’r

gwely. Beth bynnag am y cloc, nis gall fod amheuaeth am y gwely. Gall

ei dderw du treuliedig fod yn llawer hŷn nag Edmwnd Prys, er feallai fod

y pyst wedi eu torri yn ei amser ef neu wedyn. Uwch ben lle’r gobennydd

y mae’r pren wedi ei rannu’n banelau ac y mae ysgrifen o gwmpas y panel

canol rhywbeth yn debyg i hyn,—E. P., 1592. O’m rhan fy hun, gwell gen i

na dim yw edrych ar y golygfeydd y bu rhai enwog ein gwlad yn edrych

arnynt. Ond, er hynny, yr oedd rhyw foddhad imi deimlo fy mod wedi gweld

y gwely y bu Edmwnd Prys yn cysgu ynddo, a’r cloc allasai fod wedi tipian

llawer cyn i Forgan Price dorri’r ffigyrau 1734 arno. Ond fy awydd oedd

crwydro o gwmpas y Gerddi Bluog.

Yr oedd y diwrnod haf yn ddiwrnod tlws. Penderfynasom dynnu i fynu’r

mynyddoedd yr ochr arall i’r Cwm Bychan, i weled y grisiau wnaeth y

Rhufeiniaid, ac i gael golwg ar gartref a gwlad Edmwnd Prys. Gwrthodasom

fwyd, heblaw llefrith i’w gofio; gan addaw dod yn ol at de.

Cychwynasom i lawr tua gwaelod y cwm hyd lwybr troellog, a chawsom ein

hunain mewn gwlad ramantus iawn. Unwaith daethom i hafan goediog

gysgodol, gyda rhedyn tal yn dechreu melynu hyd ei hochrau, a heulwen wan

ar ei brwyn ac ar y dwfr gloewlas araf oedd yn llithro gyda’i min. Ar

ochrau’r meusydd y mae creigiau toredig, fel meini wedi eu parotoi i

deml; ac yr oedd rhyw ddistawrwydd yn teyrnasu dros yr holl fro gysgodol,

fel pe buasai unwaith wedi bod yn lle prysur a llawn o bobl, ac yn awr

wedi adfeilio.

Cyn hir yr oeddym ar lan yr Artro, ffrwd wyllt o ddwfr grisialaidd yn

rhedeg rhwng dolydd gwyrddion. Yr oedd y ffordd yn mynd yn fwy dyddorol

o hyd. Wele’r Graig Ddrwg a Charreg y Saeth o’n blaenau, a gwelsom

raiadr ac aml lecyn rhamantus. Yr oedd y ffordd yn myned ar hyd min y

llyn, ac yr oedd yr olygfa dros y dyfroedd tawel yn un i’w chofio.

Ymgodai Carreg y Saeth yn fawreddog y tu arall i’r dwr. Ar y de yr oedd

llwyni o goed, a bryn yn codi y tu ol iddynt. Ac ar y chwith yng

nghyfeiriad yr amaethdy sydd ym mlaen y Cwm Bychan, yr oedd hesg rhwng y

llyn a’r caeau gwair. Y mae’r amaethdy hwn mewn lle tarawiadol, a

dywedodd fy nghyfaill ystori eithaf cyffrous am rai o hen deulu’r ty. O

amgylch y ty y mae hanner cylch o greigiau, fel y darlun o greigiau Edom

sydd yn fy meddwl crwydrol i. Y mae y creigiau ar lun muriau anferthol,

gwaith maswniaid oesoedd y cewri. Rhwng y creigiau a’r llyn y mae

tir,—rhyw hanner gweirglodd hanner mawnog; a throsto gwelem y llyn o hyd

fel arian crych, a phinwydd duon yn sefyll fel myfyrdodau y tu hwnt iddo.

A thraw, dros y cwbl, yr oedd y mynyddoedd dan len deneu o niwl.

Gadawsom yr amaethdy o’n holau, a dringasom i fyny gyda chlawdd mynydd.

Buom yn teithio yn hir drwy hafan goediog; ond o’r diwedd daethom i’r

mynydd agored, a daeth awel hyfryd dros y graig i’n cyfarfod. Yr oeddwn

wedi clywed llawer am y grisiau Rhufeinig yn Ardudwy, ac yr oeddwn wedi

meddwl mai rhyw ris neu ddwy oedd yno wedi eu naddu mewn craig. A mawr

oedd fy syndod wrth weled llwybr o gannoedd, os nad miloedd, o risiau yn

arwain i fyny i’r mynydd. Anhawdd iawn, hyd yn ced i’r ieuanc a’r

brwdfrydig, fuasai dringo’r mynydd heb y grisiau; ond yr oeddym yn myned

i fyny ar hyd-ddynt mor hawdd ag ar hyd llwybr gardd. Anaml y bum mor

hapus wrth gerdded unrhyw lwybr ag wrth gerdded y llwybr Rhufeinig yn

Ardudwy. Yr oedd yr awel yn adfywiol a thyner, yr oedd murmur y neint yn

felodaidd, yr oedd y blodau’n orlawn o fywyd, ac yr oedd tawelwch distaw

dwys y mynyddoedd yn adfywiol iawn. Yr oedd y dwfr mor risialaidd, y

lliwiau mor danbaid, a’r hin mor heulog, fel mai prin y medrwn goelio fy

mod yng Nghymru. Wrth weled y llwybr Rhufeinig, tybiwn er fy ngwaethaf

fy mod ar lethrau’r Apeninau Disgynnai’r afonig fechan i’n cyfarfod, o

graig i graig, gan fynd yn llai o hyd. Weithiau gwelem fedwen yn crymu

uwch ben pistyll gwyn; dro arall gwelem y grug blodeuog wedi ymestyn dros

y llwybr. Synnwn paham na threuliwn fy oes ar y mynydd, a daeth i’m

meddwl mor ynfyd oeddwn pan oeddwn yn treulio fy oes ar yr iseldiroedd.

Toc darfyddodd yr arber, a daethom at ffynnon loew ymysg cerrig mawr.

Ond nid oeddym eto ar ben y mynydd. Yr oedd ochrau’r mynydd, erbyn hyn,

wedi cau at ei gilydd, yn furiau o gerrig enfawr.

Yr oeddym wedi edifarhau am wrthod bwyd yn y Gerddi Bluog. Er llawenydd

i ni, yr oedd coed llus bob ochr i’r grisiau, ymron ar ben y mynydd.

Cawsom wledd arnynt, cyn dringo i ben y golwg. Ac o’r diwedd, wele ni ar

ben y fynedfa; a gwelem lwybr hir yn dirwyn i lawr i wastadedd Traws

Fynydd. Clywem yr afon yn murmur yn ddedwydd i lawr yn y gwaelod. Ond

tybiwn i mai ar ben mynydd yn unig y mae dedwyddwch.

Edrychasom yn ol ar y llwybr gerddasem. Gwelsom fod y niwl yn prysur

godi o’n holau. Gwelem greigiau duon ysgythrog, fel tyrau dinasoedd

llosg yn codi o hono; ac yr oedd y niwl yn torri’n ddarnau wrth daro yn

erbyn y creigiau hyn. Ac yr oedd y grisiau Rhufeinig yn arwain i lawr

i’r niwl. Nid peth hawdd oedd colli golwg ar Draws Fynydd, a chychwyn i

lawr hyd y grisiau drachefn. Cofiwn, wrth fyned i lawr ar hyd-ddynt, eu

bod yno cyn i’r efengylydd cyntaf ddod i’r wlad, a pheth hen iawn i

deimlad Cymro yw peth hŷn na’r efengyl.

Ni fedr dyn fyw ar lus yn unig. Mwyn oedd am y gwahoddiad hwnnw i’r

Gerddi Bluog. Yr oeddym yn newynog,—yr oedd awel y mynydd wedi dwyn

awydd am fwyd wrth roi terfyn ar ein lludded,—ond nid oedd y ffordd

brydferth yn rhy hir gennym, hyd yn oed wrth ei cherdded yn ol.

Heibio’r llyn drachefn a thrwy’r hafan unig cyrhaeddasom y Gerddi Bluog

yn ol. Yr oedd y wraig garedig wedi ein gweled yn dod. Arweiniwyd ni ar

unwaith ar hyd y cyntedd hir hwnnw, ac i’r parlwr yn aden y ty. Cawsom

de heb ei fath; nid wyf yn meddwl fod cystal hufen yn unlle, na chystal

caws. Un o’r Bedyddwyr Albanaidd, hen ddiadell y gŵr rhyfedd o Ramoth,

oedd y wraig. Holais lawer arni, oherwydd y mae llawer rhamant am John

Jones o Ramoth. Cynnil iawn oedd ei hatebion, a distawach na llawer

gwraig glywais yn adrodd hanes. Pan ofynnais iddi am wisgoedd pobl ei

chapel, ni chefais yn ateb ond gwirionedd cyffredinol am ddynol ryw,—“Mae

pawb gen grandied ag y medra nhw yrwan,” ac yr oedd y symledd a’r

caredigrwydd sydd yn nodweddu’r seiat fechan yn amlwg yn y ty hwn.

Tawel, dirodres, a mwyn iawn y cawsom ni wraig un o’r Bedyddwyr Albanaidd

yn y Gerddi Bluog. Hyfryd oedd meddwl wrth ymadael, fod hen gartref

Edmwnd Prys yn un o gartrefi croesawgar Cymru hyd heddyw.

Dringasom ochr y mynydd, gan droi’n ol yn aml i edrych ar wlad Edmwnd

Prys, a buan y cyrhaeddasom y ffordd Rufeinig hir sy’n mynd fel saeth hyd

y grimell. Yr oedd nant yn cydddod a ni i lawr, gan ddawnsio a gwenu.

Daethom i olwg y môr, a gwelem gastell Harlech yn ddu rhyngom a’r traeth

melyn, fel angel coll yn crwydo ar ororau’r nefoedd. Codai cymylau melyn

eurog i’r nen, yr oedd lliwiau bendigedig ar y tywod a’r ewyn môr. Nid

oedd y castell ond megys corach du bach ym mhresen-oldeb y mynyddoedd a’r

môr. Yr oedd y prydnawn yn darfod, ac yr oedd niwl a chysgodion yn

dechreu ymdaenu dros yr Eifl a Moel y Gest a’r Wyddfa. A dyna ddiwedd fy

nhaith innau i gartref Edmwnd Prys.

Cartrefi Cymru · 第 17 / 46 题