ANAML y bu neb mor hoff o gartref ag Ap Vychan, ac anaml iawn y bu i neb
gartref tlotach. Ymysg mawrion gwlad, soniai am gymdeithion dinod ei
ieuenctyd; ac o balasau ehedai ei ddychymyg i’r ty to brwyn yn yr hwn y
dioddefodd eisieu bara, ac o’r hwn y gorfod iddo gychwyn i gardota aml
dro.
[Picture: Ty Coch]
Saif y Ty Coch yn agos at aberoedd o ddwfr tryloew, yn ymyl hen ffordd
Rufeinig, dan gysgod castell rhy hen i neb fedru adrodd ei hanes, ar fin
mynydd sy’n ymestyn mewn mawredd unig o Lanuwchllyn i Draws Fynydd. Y
mae’n anodd cael taith ddifyrrach na’r daith o orsaf Llanuwchllyn i
Gastell Carn Dochan, os gwneir hi yn yr haf, a chan un hoff o dawelwch ac
awel iach oddiar eithin a grug y mynydd.
Dyma ni’n gadael yr orsaf, gan syllu ar brydferthwch yr Aran draw. Toc
trown ar y dde, a cherddwn dan goed sy’n taflu eu cysgodion dros y
ffordd. Dyma’r “adwy wynt,” a hen gapel y Methodistiaid wedi ei droi’n
dai. Wrth y tai hyn, yn enwedig wrth y siop draw, digon tebyg y cewch
rywun y gellwch dynnu sgwrs ag ef, os ydych yn hoff o ymgom. Hwyrach y
tarewch ar hen ddiwinydd a’i bwys ar ei ffon. Hwyrach y cyfarfyddwch a
rhywun bydol,—hen wr a gwallt fel nadroedd sonia wrthych am ddyfais
newydd i wneyd cribiniau, neu am ryfeddodau gwledydd pell. Hwyrach y
cewch hen hanesydd ddywed wrthych fel y byddem ni yn Llanuwchllyn yn byw
yn yr hen oesoedd. Os na fydd neb yno, a bydd y lle heb neb yn yr haf
weithiau, cerddwch ymlaen ar hyd y “Gwaliau,” ac wedi croesi’r bont cawn
ein hunain yng nghwr y Llan, rhwng y fynwent a thai fu unwaith yn dy
tafarn. Yn y fynwent honno, y tu hwnt i’r eglwys, gorwedd Ap Vychan hyd
ganiad yr udgorn. Ac yn y ty tafarn hwnnw temtiwyd ef, pan yn laslanc
tlawd, i yfed ei lasied cyntaf o gwrw mewn cyfarfod beirdd.
Wedi gadael y Llan yr ydym yn dod i ffordd y Bala, ac yn cerdded yn ein
blaenau ar hyd-ddi, hyd nes y down at y Bont Liw a phentref bychan Pen y
Bont. Cyn croesi’r bont yr ydym yn troi ar y chwith, ac yn cymeryd
ffordd drol sydd yn ein harwain i gyfeiriad tarddle’r afon Liw. Ar un
ochr i ni y mae gwrych; ac ar yr ochr arall y mae dôl lydan werdd, a’r
afon yn dwndwr gyda’i godreu. Yr ochr arall i’r afon y mae’r Cei, ffordd
gul wedi ei chodi’n uwch na’r tir gwastad o bobtu iddi. Ar hyd y cei
noethlwm hwn, dyfal gyrcha’r pererinion Anibynnol i’r Hen Gapel a welwn
draw. Anodd cael rhodfa fwy dymunol na’r Cei yn yr haf, pan fo’r
brithylliaid i’w gweled yn chwareu yn yr afon, a phan fo awel ysgafn
gynnes yn crwydro dros laswellt a meillion aroglus. Ond yn y gauaf, pan
fo dwfr oer rhewllyd o bobtu, pan chwyth awel lem finiog oddiar fynydd
sydd dan ei lwydrew, y mae golwg triglyd truenus ar lawer hen Gristion
ffyddlon yn tynnu yn erbyn y rhew-wynt tua’r cyfarfod gweddi.
Llawer gwaith y clywais fy nhad yn adrodd hanes gŵr tyn yn cerdded hyd y
Cei yn nyfnder gauaf oer. Er mwyn cynhesrwydd, yr oedd wedi gwthio ei
ddwylaw i bocedi ei lodrau, ie, i’w gwaelod, oherwydd yr oedd yn erchyll
o oer. Pan ar ganol y Cei, llithrodd ei droed ar y rhew, a syrthiodd ar
ei wyneb ar y llwybr. Yno yr oedd mewn enbydrwydd mawr. Yr oedd ei
ddwylaw’n ddyfnion, fel y dywedwyd, ym mhocedau ei lodrau. Os ymegniai i
dynnu y naill law allan, treiglai oddiar y llwybr i’r dwfr ar y naill du,
oherwydd yr oedd y llwybr yn gul iawn. Os tynnai’r llaw arall, ai
drosodd yr ochr aroll, ac yr oedd dwfr yr ochr honno hefyd, yr un mor
oer, a rhewllyd. Nid oedd dim i’w wneyd ond aros yn llonydd hyd nes y
delai rhywun heibio. Ni fedrai neb, fel y Lefiad a’r offeiriad y sonnir
am danynt yn yr Ysgrythyr, fyned “o’r tu arall heibio” a daeth rhyw
Samaritan o’r diwedd i fwrw ei anwyd trwy godi’r gŵr oedd yn methu tynuu
ei ddwylaw o’i bocedi.
Ond haf ydyw’n awr; y mae’r, defaid yn y mynydd, nid ydyw Awst wedi
darfod, y mae’r glaswenwyn a blodau’r taranau hyd y cloddiau, ac y mae’r
corn carw hyd lethrau’r mynydd. Dyma’r llwybr yn dod a ni at yr afon
eto, a dacw’r “Hen Gapel” yr ochr draw,—hen gapel Lewis Rhys ac Abraham
Tibbott, Dr. Lewis a Michael Jones. O’n blaenau y mae craig serth yn
ymgodi i’r nefoedd, ac ar ei hael y mae muriau toredig Castell Carn
Dochan. Dywedir fod telyn aur wedi ei chuddio dan y llawr ar ben y graig
uchel acw; ond daw’n fellt a tharanau ofnadwy os dechreuwch, gloddio ati.
Nis gwn i sicrwydd a oes telyn aur dan lawr yr hen amddiffynfa, ond gwn
fod gwallt y forwyn yn tyfu yn rhigolau’r muriau, a gellir syllu ar ei
brydferthwch heb ofni mellt na tharanau na dim.
Ond dyma ni wrth y Deildref, cartref John Parry, athraw barddonol Ap
Vychan,—“bardd rhagorol, llawn o athrylith a thân awenyddol, fu farw o’r
darfodedigaeth yng nghanol ei ddyddiau.” Ychydig yn uwch i fyny dyma’r
Deildref Ucha, cartref Cadwaladr Jones Dolgellau, hen olygydd y
_Dysgedydd_. Ar y chwith, rhyw ddau hyd cae o’r ffordd, y mae’r Wern
Ddu, cartref yr hen Gadwaladr Williams garedig fu’n ceisio darbwyllo Ap
Vychan pan yn hogyn nad ai plant llygaid gleision i’r nefoedd, ac mai
Deio’r Graig oedd yn achosi’r taranau trwy fynd o ben y castell i lawr y
nefoedd, a gyrru olwyn ar hyd-ddo. Ymhellach ymlaen, wedi mwynhau
golygfeydd rhamantus, dyma ni wrth y Ty Mawr lle y daeth Ap Vychan yn
hogyn cadw pan yn ddeg oed, a’r lle y bu am saith mlynedd, yn mwynhau
llawer o fanteision crefyddol, dan lywodraeth gref gariadlawn y wraig
fwyaf deallus mewn duwinyddiaeth a welodd erioed.
Cyn hir, gyda ein bod wrth droed craig y castell, dyma ffordd yn croesi
ein ffordd ni, ac yn rhedeg ar draws y cwm. Trown ar y chwith ar
hyd-ddi, a dyma ni wrth Hafod y Bibell. Clywodd llawer un Ap Vychan yn
dweyd mai yn Hafod y Bibell y dymunai fyw, Darluniai’r golygfeydd welid
o’r hafod honno,—y mynyddoedd, gwaelod dyffryn Penanlliw a Llanuwchllyn,
a Llyn Tegid hefyd am wn i. Tybiai pobl ddieithr, wrth glywed Ap Vychan
yn darlunio’r lle, mai palas y gellid ei alw’n Ddymunol, yng ngwlad
Beulah, oedd Hafod y Bibell. A dyma’r lle. Y mae’n dechre adfeilio
erbyn hyn,—nid oes yno ond to diferllyd a ffenestri gweig ion, fel tyllau
llygad ysgerbwd. Y mae das o hen wair yn y gadles yn ymyl, a llwybr
glaswelltog i’r caeau, llwybr nad oes erbyn hyn fawr o wahaniaeth
rhyngddo a’r cae. Pe gwelai Ap Vychan ef yn awr, hawdd fuasai iddo
ddweyd geiriau Dafydd ab Gwilym am y murddyn welodd mewn lle y buasai
unwaith “yn glyd uwchben ei fyd mwyn,”—
“Yn ddiau mae i’th gongl ddwy-och,
Gwely im oedd, nid gwâl moch.”
Oddiyma awn i fyny hyd y caeau, gan adael gwaith aur y Castell ar y dde.
Toc croeswn gae, ac y mae’r Ty Coch draw yn ei gwr uchaf. Y mae mawredd
gwaith bysedd Duw ar y creigiau sydd y tu cefn i’r Ty Coch, ond tlodaidd
iawn yw’r olwg ar y ty ei hun.
Gadewch i ni ddynesu ato. Y mae’n eithaf clyd a glân, er mai bechan iawn
yw ei ffenestr a phur anwastad ei lawr. Dyma ddau wr ieuanc yn dod o’r
ty i’n cyfarfod, ac yn cymeryd dyddordeb mawr ynnom pan ddeallant ein bod
ar bererindod i wlad Ap Vychan. Peth digon hawdd i bobl ddieithr fel y
ni, a ninnau wedi darllen papurau newyddion ac yn medru siarad Saesneg,
ydyw ei lordio hi dipyn, fel y dywed pobl y fro hon, yng ngŵydd pobl
wledig. Gwell i chwi beidio mewn cwm fel Penanlliw; y mae’r gŵr ieuanc
gwalltddu yna wedi gweled mwy ond odid, nag a welsoch chwi; ac y mae aml
un trahaus wedi gwingo dan ffrewyll awen chwerw’r llall.
Dan gyfarwyddyd dau nai Ap Vychan awn o amgylch y ty. Yn y pen uchaf
iddo yr oedd tad Ap Vychan yn byw, darn sydd eto dan ei do brwyn. Dyma’r
drws diaddurn o’r hwn y cerddodd Ap Vychan i’r byd gyntaf, i ymdrechu’n
galed am ei damaid bara i ddechreu, ac i gyfrannu bara’r bywyd i lawer
enaid newynog wedyn. Dacw’r ffenestr eto’n aros drwy yr hon y gwelodd
oleuni dydd Duw gynta erioed rywbryd tua diwedd y flwyddyn 1809. Dyma’r
lle y bu ei dad,—dyn duwiol, duwinydd, a llenor da,—yn ymladd yn galed yn
erbyn yr amseroedd enbytaf welodd y llafurwr Cymreig, efallai, yn holl
hanes ei wlad. Dacw’r mynyddoedd, y naill y tu hwnt i’r llall, y
mynyddoedd sy’n ymddelwi yn enaid pob Cymro. Bum yn meddwl lawer gwaith
fod Ap Vychan, wrth ddarlunio ieuenctyd Cadwaladr Jones, yn darlunio,—na,
nid ei ieuenctyd ei hun,—ond y peth ddymunasai’r bachgen tlawd fod. Yr
oedd bywyd Cadwaladr Jones, “mab ffarm,” yn fywyd yr hiraethai’r “hogyn
cadw” am dano.
“Gallwn yn hawdd ddychymygu iddo dreulio llawer dydd teg, yn hafau
dyddiau ei faboed, ar lan y nant sydd yn myned heibio i’r Deildref
Uchaf, a’r afon Liw, sydd yn golchi un ochr i ddôl a berthyn i’r
tyddyn, yn chwareu, ac yn ceisio dal y pysgod gwylltion a heigient
ynddynt. A gallwn farnu, yr un mor naturiol, ei fod yn ddiwyd yn
ymlithro ar hyd ei rhewogydd yn y gauafau, ac yn cael ei geryddu gan
ei fam pan ddigwyddai gael codwm, a tharaw ei wegil yn y blymen, neu
pan wlychai ei draed, oblegid torri o’r rhew o dan ei bwysau, a dyfod
i’r ty, ati hi, i gwyno oblegid y damweiniau. Gallwn feddwl mai
dyddiau pwysig yn ei olwg ef, fel ereill, oedd dyddiau dasu y mawn,
golchi y defaid a’u cneifio, dyddiau cael y gwair a’r yd, ffair Llan
yr haf, a dydd cyfarfod blynyddol yr Hen Gapel. Gallwn feddwl y
chwareuodd lawer tua ‘Chwrt y Person’, wrth ddychwelyd yn y
prydnawniau gydag ereill, o ysgol ddyddiol Rhos y Fedwen; a’i fod yn
aml yn ofni ac yn petruso wrth geisio myned dros y sarn, pan fyddai y
llif ychydig dros y cerrig, ac wedi cyflawni y gamp honno, yn neidio
ac yn llemain o lawenydd am lwyddiant ei wrhydri, yn hynny o beth.
Digon tebyg ei fod ef, fel ei gyffelyb o ran oed, yn brysur tua
Chalanmai yn chwilio am nythod adar, ac ym Medi, yn chwilio am y cnau
yn y byrgyll. A hawdd i ni gredu ei fod ar lawer min nos yn dyfal
wrandaw ar isalaw ddofn Rhaiadr Mwy, ac yn dyfod yn ei ol i’r ty yn
llawer mwy sobr nag yr aethai allan. Bu lawer noswaith, mae yn
debyg, yn cael y fraint o aros ar yr aelwyd, yn lle myned i’w wely,
pan fyddai cymydogion yn dyfod i gyfarfod nosawl i wau hosanau, i dy
ei rieni. Bu yn gwrando eu chwedleuon am amgylchiadau yr ardal, y
rhyfel â Ffrainc, helwriaeth, ymddanghosiad ysbrydion, dewiniaeth,
llofruddiaethau, ymladdfeydd rhwng personau unigol, yng nghyd ag
ychydig o helyntion crefyddol yr Hen Gapel.”
Y mae’r Ty Coch ar fin y mynydd,—“y ty agosaf i’r mynydd.” Rhwng y dwfr
glân a’r mynydd-dir iach sydd yn ymyl, y mae’n lle wrth fodd Cymro
athrylithgar fo’n magu plant. Ond, yr oedd yr adeg honno’n gwasgu’n drwm
ar fwthynwyr, yn enwedig rhai’n deulu o ddeuddeg. Dyma’r hanes fel yr
adroddir ef gan Ap Vychan ei hun,—
“Yn fuan wedi terfyniad rhyfel Ffrainc, aeth ein bwthyn bychan ni, yr
hwn oedd wrth dalcen y Ty Coch, yn rhy gyfyng i’r teulu cynyddol a
gyfaneddent ynddo, a chafodd fy nhad ganiatad gan oruchwyliwr Syr
Watcyn i ail adeiladu hen dy adfeiledig yn yr ardal o’r enw Tan y
Castell. Yr wyf yn cofio mai ty newydd tlawd iawn oedd ein ty newydd
ni. Yr oeddym erbyn hyn yn deulu lluosog; a swllt yn y dydd, ar ei
fwyd ei hun, oedd cyflog fy nhad yn yr hanner gauafol o’r flwyddyn,
ac yr oedd hanner pecaid o flawd ceirch yn costio i ni ddeg swllt a
chwe cheiniog. Felly, prin y gallem gael bara, neb son am enllyn,
gan y drudaniaeth. Buom am un pythefnos heb un tamaid o fara, caws,
ymenyn, cig, na chloron. Digwyddodd i ni gael ychydig o faip, a
berwai ein mam y rhai hynny mewn dwfr, ac a’u rhoddai i ni i’w bwyta
gyda’r dwfr y berwasid hwynt ynddo, ae nid oedd ganddi ddim oedd well
iddi ei hun, er fod un bychan yn sugno ei bron ar y pryd. Yr wyf yn
cofio ei bod yn wylo am ei bod yn gorfod rhoddi i ni ymborth mor
wael.”
[Picture: Tan y Castell]
Nid un ymffrostiai yn ei dlodi oedd Ap Vychan. Y mae ymffrost ambell un
yn ei dlodi mor anerbyniol ag ymffrost un pen ysgafn yn ei gyfoeth. Ond
adroddiad diaddurn, diymffrost o dlodi, adroddiad dyn ddagrau o lygaid y
caletaf, ydyw yr hanes rydd Ap Vychan wrth ddarlunio tlodi ei gartref ef.
Dywed haneswyr am ogoniant a bri buddugoliaeth y blynyddoedd hynny; yr
oedd mawredd yn ymwisgo, fe feddylient, ag anrhydedd tragwyddol. Ond yn
nhlodi’r bwthyn wrth dalcen y Ty Coch yr oedd dyn gonest yn gorfod edrych
ar ei wraig a’i blant heb angenrheidiau bywyd, oherwydd uchelgais
pechadurus y milwr a’r uchelwr.
Ni ddaeth tlodi ei hun, daeth clefyd trwm i Dan y Castell. Daeth mam y
penteulu yno, a bu farw dan y clefyd. Daeth chwaer Dr. Ellis Evans i’w
gwylio y nos tra’n gweithio yn ei lle y dydd. Gorfod troi at y plwy am
gymorth. Dyma ddernyn o hanes yr amser hwnnw,—
“Yr oedd gan fy rhieni y pryd hwnnw wely pluf da; ond gan ein bod ar
y pryd yn cael cymorth plwyfol, daeth _overseer_ y plwyf, a’i fab
gydag ef, i’n ty ni, a thynasant y gwely odditan fy nhad, yr hwn oedd
i olwg ddynol ar y pryd bron a marw, a’i synhwyrau’n dyrysu’n fawr,
gan rym tanllyd y clefyd, a gwerthasant y gwely i ddyn o’r ardal oedd
ar gychwyn i’r America, a gosodwyd fy nhad i orwedd ar wellt.”
Cyn hir daeth iechyd, a dechreuodd y plant ennill tipyn. Ond gadewch i
ni groesi, dan gysgod craig y castell, drwy goed mafon duon a heibio
cerrig enfawr sydd wedi treiglo o’r graig fry, at Dan y Castell. Yr oedd
Ap Vychan a’i frodyr a’i chwiorydd yn adnabod pob un o’r cerrig hyn fel
eu cymydogion. Un ffordd i ennill ambell geiniog oedd hel cen oddiar
gerrig. Defnyddid y cen i lifo dillad, ac nid oes bosibl cael lliw
prydferthach. Crwydrodd Ap Vychan llawer, yn hogyn byrdew, gyda brawd
hŷn nag ef, i hel cen cerrig ac i gardota. Clywais hen frawd yn dweyd yn
ddiweddar ei fod wedi cyfarfod y ddau lawer gwaith. Byddai gan Ap Vychan
got laes,—hen got oedd wedi disgyn iddo oddiwrth rywun hŷn,—a dwy boced
fawr y tu mewn iddi. Yn y naill boced byddai cen cerrig a chardod flawd,
ac yn y llall byddai Beibl mawr. Crwydrodd y ddau frawd unwaith cyn
belled ag Aber Ystwyth. Cardodasant yn Sir Aberteifi, a chawsant lawer o
yd. Ond cymerodd rhywun calongaled digydwybod fantais ar y ddau hogyn
deg ac wyth oed, a mynnodd eu blawd i gyd am y grot oedd raid iddynt dalu
am groesi’r afon Dyfi. Ond yn y cwch dywedodd rhywun tirion,—“Yr wyf
fi’n talu dros y plant bach.” “Ni ellais byth,” ebe Ap Vychan lawer
blwyddyn wedyn, “ar fy nheithiau pregethwrol, fyned heibio’r tai a’m
lletyasent, heb deimlo diolch-garwch i Dduw, ac i ddynion hefyd, am y
tiriondeb a dderbyniais yn nyddiau plentynrwydd a thlodi.”
Er hyn oll,—cafodd Ap Vychan ieuenctyd hapus. Wedi’r clefyd, bu’r tad
a’r fam yn ddedwydd lawer awr. A phwy na fu wrth fagu plant? Dyma
ddarluniad o Dan y Castell,—
“Yn nechreu haf y fwydden 1818 yr oedd gŵr a gwraig, at hyaid o blant
nwyfus a chwareus, yn byw dan gysgod craig fawr ac ysgythrog, ac mewn
ty bychan, a’i do o redyn y mynydd-dir oedd gerllaw iddo, ac nid oedd
haul yn tywynnu arno am rai wythnosau yn nyfnder y gauaf. Yr oedd yn
cael ei gysgogi’n dda rhag gwyntoedd o’r gorllewin ac o’r deheu; ond
yr oedd awelon oerion y gogledd a’r dwyrain yn ymosod arno yn
ddidrugaredd. Mynnai y mŵg hefyd ymgartrefu yn y ty a’r to rhedyn,
gyda’r teulu, ac nid ai allan o’i fodd, os na fyddai’r gwynt yn
chwythu o ryw bwynt a ryngai ei fodd ef. Yr oedd megis un o’r teulu.
“Yr oedd ffynnon o ddwfr iachus yn tarddu o ganol y mynydd mawr, yn
union wrth dalcen y ty. Ceid digon o danwydd o fawnog oedd yn y
mynydd uwchlaw’r ty, yr hyn a barai fod yr aelwyd, ar nosweithiau
hirion y dyddiau byrion, yn hynod o gysurus. Eisteddai’r tad yn un
gornel, a’r fam ar ei gyfer yn y gornel arall, a’r plant yn hanner
cylch o flaen y tân, a phob un oedd yn ddigon o faint yn gwau hosan
mor gyflym ag y gallai, fel y gallai’r fam fynd a hanner dwsin o
barau i’r farchnad ar y Sadwrn, a’u cyfnewid yno am angenrheidiau
teuluaidd.”
Gadewch i ni adael Tan y Castell, a throi ein gwynebau tua’r Ty Cerrig, a
“phulpud y Crynwyr.” Sylwch ar y graig fygythiol ddaneddog, a’i chastell
yn goron doredig ar ei phen. Yng ngwythienau’r graig acw y mae aur. Pan
oedd Ap Vychan yn cardota ei fara ymhell yn Sir Aberteifi, yr oedd
gronynau aur yn nhalcen ei dy.
O’n blaenau dacw Foel Llyfnant a’r Arennig, a dyna isalaw ddofn Rhaiadr
Mwy. Dacw’r mynyddoedd y bu Ap Vychan yn crwydro hyd ddynt i hel cen
cerrig, dacw dai hen breswylwyr Penanlliw,—pobl dal gyhyrog, pobl
ddi-wenwyn a heddychlon, pobl wedi eu trwytho â duwinyddiaeth gadarn ac
iach. Llawer hanes rhyfedd adroddir am grefyddwyr y fro hon. Ond dyma
ni wrth Dy Cerrig. Yn y cyntedd o flaen y ty dywed traddodiad fod y
Crynwyr wedi ymgyfarfod laweroedd o weithiau. Byddai rhyw gyfaill
crwydrol yn sefyll ar garreg agosaf i’r ty, ac yn traethu. Eisteddai’r
cyfeillion mwyaf blaenllaw ar y garreg arall, a safai y dorf. Ni wyddis
fawr o fanylion hanes y Crynwyr, ond y mae’n sicr eu bod wedi gadael rhyw
dynerwch enaid, a rhyw hoffder greddfol o’r efengyl yn y fro hon.
Ffurfiwyd meddwl Ap Vychan dan ddylan-wadau iach. Gadewch i ni droi i
fyny tua, Chraig y Tân, lle y bu’n hogyn cadw’r caeau, ac mi adroddaf i
chwi beth glywais gan hen bobl am dano. Bu am dymor pan y meddylid nad
oedd llawer iawn o ol gras ar ei fuchedd. Pan oedd yn egwyddorwas yn y
Lôn draw, yr oedd wedi ei brentisio i ŵr crefyddol,—Simon Jones y Lôn.
Yr oedd gan Simon Jones fab,—un athrylithgar a direidus,—ac efe oedd hoff
gydymaith y prentis go. Ambell dro canent i ryw elyn,—
“Yr un aeliau, â’r un olwg,
A’r un drem, â’r gwr drwg”
Cedwid Ysgol Sul yng Nghaer Gai; a holai Thomas Ffowc y plant. Un tro
gofynnodd i hogyn bychan sydd erbyn hyn yn wr cyfrifol yn yr America,—
“Oes gen ti adnod, fy mhlentyn i?”
“Oes.”
“Wel, tyrd a hi.”
“Bydded hysbys a gwir yw.
Lle crafa’r iar, y piga’r cyw.”
“Da iawn, fy machgen i, pwy ddysgodd yr adnod ene i ti?”
“Twm Seimon a Robin y Go.”
“Roeddwn i’n meddwl. Paid di a chymryd dy ddysgu gennyn nhw eto.”
Un tro cafodd Mari Jones y Lôn, un o’r gwragedd duwiolaf welodd ei
hardal, gan Robin addaw dod i’r capel y Sul wedyn. Addawodd yntau ar yr
amod ei bod hi’n rhoddi caniatad iddo yn y bore. Nos Sadwrn cymerodd Twm
siswrn a thorrodd un ochr yn unig o wallt hir Robin, ac eilliodd hefyd un
gern iddo. Bore Sul ymddanghosodd Robin ger bron Mari Jones, gyda gwallt
hir ar un ochr i’w ben, a’r gwallt wedi ei dorri yn y gnec ar yr ochr
arall. Ni welwyd Robin ymysg y duwiolion y bore Sul hwnnw.
Dro arall yr oedd Twm a Robin yn cychwyn i’r Bala i arddanghosfa
anifeiliaid gwylltion. Nid oedd gan Simon Jones arian parod i’w roddi
iddynt yn eu pocedau, ond rhoddodd bapur i’w roi i hen wraig y King’s
Head, a ffigiwr dau arno. Deallodd y ddau mai deuswllt oedd hynny’n
feddwl, a rhoisant ffigiwr un o flaen y ffigiwr dau.
Gwahanwyd y ddau gyfaill mynweswol ac athrylithgar hyn yn eu marwolaeth.
Y mae Ap Vychan yn huno ym mynwent Llanuwchllyn, yn ymyl Simon Jones a
Mari Jones. Ac y mae Thomas Jones, mab y rhain, yn huno yr ochr arall
i’r Werydd, yn Utica. Ond y mae ei enw yntau ar feddfaen ei deulu,—bu
farw yn 1847, yn chwech a deugain oed.
Na feddylier oddiwrth hyn fod Ap Vychan wedi byw’n fachgen gwyllt. Ni
chollodd ei dad ei ddylanwad ar ei gymeriad. Ychydig cyn ei farw, yr
oedd yn adrodd breuddwyd wrth Ifan T. Davies. “Yr oeddwn i’n breuddwydio
neithiwr, Ifan,” meddai, “’mod i’n gweld fy nhad, a dene’r tro cynta i mi
i weld o er pan fu o farw. Yr oeddwn i ag ef yn cerdded ar hyd ffordd
deg wastad-lefn. Yr oeddwn i’n blentyn ac yn cydio yn i law o. Hefo’r
ffordd yr oedd aber o ddŵr grisialaidd yn dwndwr. Dros y gwrych yr oedd
dyrysni, o ddrain a rhedyn a mieri, fel y Wenallt, ac yng nghanol y
dyrysni ’roedd dyn. A dyma fo’n gwaeddi ar fy nhad,—‘Ddyn anwyl, fedrwch
chi ddangos y ffordd i’r bywyd tragywyddol i mi?’ ‘Medra,’ medde nhad,
ac yn dangos i fys at y ffordd deg, ‘dyma hi, mae Rhobet a minne wedi bod
yn i cherdded hi ers blynyddoedd.’”
Y ffordd a’r aber wrth ei hochr oedd y ffordd y buom yn ei cherdded at y
Ty Coch. A dacw’r t Wenallt. Ymlaen y mae golygfeydd mynyddig rydd
orffwys i’r meddwl lluddedig, os crwydrir yn eu mysg. Byddaf fi’n hoff
iawn o dreulio dyddiau yn y cymoedd hyn, a byddaf yn meddwl yn aml, wrth
bensynnu ar lannau’r aberoedd, am y bachgen fu’n ennill ei damaid prin
wrth wylio’r defaid a diosg eu gwisg oddiam gerrig y mynyddoedd.
[Picture: Decorative graphic of house by mill]