YR wyf yn eistedd mewn ystafell hirgul, gyda nenfwd isel, a ffenestri yn
edrych allan i dri chyfeiriad, yn unig westy Llanfihangel yng Ngwynfa.
Dyma brif ystafell y pentre,—yn hon yr ymgyferfydd pob pwyllgor gwledig,
yn hon y bydd cinio rhent Syr Watcyn, yn hon yr ymgyferfydd y clwb, yn
hon y traethwyd doethineb cenhedlaethau o ffermwyr ar adeg priodas a
chynhebrwng. Ond heddyw y mae’n ddigon gwag, nid oes ynddi ond y ddwy
res hir o gadeiriau, y ddau hen fwrdd derw, a minne deithiwr blin yn
ceisio dadluddedu ac ymlonni trwy yfed trwyth rhinweddol dail yr Ind.
Trwy’r drws agored gwelaf goesau meinion yr hen glochydd sy’n hepian wrth
bentan y gegin, a thrwy’r tair ffenestr gwelaf y gwlaw yn ymdywallt i
lawr trwy’r coedydd tewfrig deiliog, trwy’r onnen a’r fasarnen, ac hyd
gadwyni aur banadlen Ffrainc. Y mae cerbyd gwlad yn fy nisgwyl, ond ni
wiw cychwyn trwy wlaw taranau mor drwm,—er byfryted ydyw ar ol poethder
llethol un o ddyddiau olaf Mehefin. A thra bo’r gwlaw taranau’n peidio,
a’r coed yn gorffen dyferu, mi ysgrifennaf hanes digyffro taith y dydd.
Yn weddol fore cychwynnais o Lanfyllin i weled gwlad Ann Griffiths,—ei
bedd, a’i chartref, os medrwn. Nid oedd y ffordd yn rhwydd i’w cherdded
ar ol y gwlaw, a phan ofynnais i hen fforddolyn tal ai honno oedd ffordd
Llanwddyn, atebodd yn awgrymiadol mai dyna ei dechre hi. Ond yr oedd
perarogl y gwrychoedd a’r caeau, a’r lliwiau tyner, yn gwneyd iawn am
drymder y ffordd. Wedi cerdded tua thair milldir dywedodd bachgennyn
arafaidd wrthyf fy mod yn Llawr y Cwm, lle gwelwn gapel Methodist bychan
yn ymnythu rhwng torlan ac afonig. Cyn i mi fyned nepell ymlaen,
cyfarwyddodd torrwr cerrig fi i ffordd gul oedd yn gadael y ffordd fawr,
ac yn dirwyn i fyny hyd ochr y bryn. Toc cyrhaeddais ben y tir, a gwelwn
droliau gwaith dŵr Llanwddyn yn ymlusgo i fyny’r dyffryn hyd ffordd y
gwaelod. Wedi gadael cysgod coed, dois i gaeau agored, ar ben y gefnen,
a gwelwn hen ŵr rhyngof a’r goleu, yn sefyll, ac fel pe’n disgwyl. Yr
oedd yn disgwyl ei fab adre o Loegr, ond buan y trechwyd ei siomedigaeth
gan gywreinrwydd. Nid rhyw lawer o son sydd am Ann Griffiths ar orarau
Maldwyn yn awr, ebe’r hen ffarmwr, ac nid rhyw lawer o ganu sydd ar ei
hemynnau, dim hanner cymaint a chynt. Wrth i ni ymgomio yr oedd llwyni o
goed ar fryncyn o’n blaenau, a gwelwn oddiwrth eu duwch fod ywen ymysg y
coed. “Dacw Lanfihangel,” ebe’r hen ŵr, “a dacw fur y fynwent lle mae’r
hen Ann wedi ei chladdu.” Cerddais o amgylch y fynwent i ganol y
pentref. Y mae ar fryn gweddol serth, a’r eglwys a’r fynwent yn uchaf
man. O ddrws y fynwent rhed y ffordd i lawr rhwng ychydig o dai, siop
pob peth, tŷ tafarn, ysgol waddolwyd gan un o Fychaniaid Llwydiarth, a
choed ddigon. Eis i mewn i’r fynwent, sychodd pladurwr oedd yn torri
gwair y beddau ei chwys, a dywedodd,—“Ie, dacw gof-golofn yr hen Ann.
Peth digon rhyfedd fod y bobl yn ei galw’n hen Ann, a hithe wedi marw’n
saith ar hugain oed.” Cyn i mi gael hamdden i sylwi ar y fynwent, gwelwn
lu o blant yr ysgol, plant iach a llawn bywyd, yn prysuro i edrych ar y
dyn dieithr. Byddaf yn hoff iawn o blant gwlad,—nid ydynt yn hyfion ac
yn dafotrwg fel plant tref,—a bum yn holi plant Llanfihangel yng Ngwynfa
am hoff ddaearyddiaeth Cymru. Yr oeddynt yn ddeallus, a gwelwn yn eglur
fod eu hathraw yn medru Cymraeg ac yn meithrin eu meddyliau. Pan oedd
arnaf eisieu cael y fynwent drachefn heb neb ynddi ond myfi a’r meirw,
gofynnais faint oedd pris plant yn y pentref,—plant tewion graenus fel
hwy,—a chyda fod y cwestiwn dros fy ngwefusau, yr oedd eu cefnau oll tuag
ataf, a llu o draed bychain yn cyflymu i lawr y llwybr hir sydd rhwng
porth yr eglwys a drws y fynwent. A gadawyd fi’n unig ymysg y beddau.
Safle caer yw safle mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa,—saif ar fryncyn,
nid yr uchaf yn y gymydogaeth, ond un o’r rhai uchaf. O’r porth sy’n
wynebu ar y pentref rhed llwybr hir rhwng mangoed at ddrws yr
eglwys,—adeilad newydd. Wedi cyrraedd hanner y llwybr, os edrych y
teithiwr ar ei aswy, gwel gofgolofn o wenithfaen,—nid un fwy na cholofnau
ar filoedd o feddau dinod ym mynwentydd Cymru, ac arni’r geiriau,—
ER COF
AM
ANN GRIFFITHS,
DOLWAR FECHAN,
GANWYD 1776.
BU FARW 1806.
Nid oes Gymro fedr sefyll ger bedd Ann Griffiths heb deimlo ei fod ar
ddaear sancteiddiaf ei fynyddoedd. Ac mor dawel ydyw’r fynwent! Ni
chlywir swn ond su’r bladur wrth nofio trwy’r glaswellt draw,—y mae pob
aderyn yn ddistaw ar y bore hafaidd heulog, ni chlywir swn y plant sydd
yn yr ysgol lwyd gerllaw, prin y medrir clustfeinio digon i glywed dwndwr
yr aber sydd yn isel odditanodd yn y dyffryn. Gorwedd y wlad fel
breuddwyd angel oddiamgylch,—yn dawel, dan ei blodau, ac yng ngoleuni
disglaer haul. Rhwng y coed sydd gydag ymyl y fynwent, gwelwn
ddyffrynnoedd a choedydd, a’r mynyddoedd sy’n gwahanu Maldwyn a
Meirionnydd. Ac arnynt i gyd gorweddai tangnefedd canol haf. Ac i rai
sy’n huno ym mynwent ael y bryn y mae tangnefedd mwy. Wedi ieuenctid
nwyfus, wedi pryder priodi a dechreu byw a geni, wedi tymhestloedd ac
ofnau, wedi cyfarfod Angau ymhell cyn i hwyrnos bywyd guddio hagrwydd ei
wedd, wedi hyn oll,—
O ddedwydd ddydd, tragwyddol orffwys
Oddi wrth fy llafur, yn fy rhan,
Yng nghanol môr o ryfeddodau,
Heb waelod, terfyn byth, na glan:
Mynediad helaeth mwy i bara
O fewn trigfannau Tri yn Un.
Dwfr i nofio heb fynd trwyddo,
Dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn.
Byw heb wres, na haul yn taro,
Byw heb ofni marw mwy;
Pob rhyw alar wedi darfod,
Dim ond canu am farwol glwy’;
Nofio yn afon bur y bywyd,
Bythol heddwch sanctaidd Dri,
Dan dywyniadau digymylau
Gwerthfawr angau Calfari.
Yn yr unig lythyr o’i heiddo sydd ar gael, llythyr ysgrifennodd wedi
priodi, a phan oedd ei bywyd byr ymron ar ben, dywed,—
“ANWYL CHWAER,—’Rwif yn gweled mwy o angen nac erioed am gael treilio
y rhan su yn ol dan rhoi fy hyn yn feunyddiol ac yn barhaus, gorph ac
enaid, i ofal yr hwn su yn abal i gadw yr hyn roddir ato erbyn y dydd
hwnnw. Nid rhoi fy hun unwaith, ond byw dan roi fy hun, hyd nes ac
wrth roi yr tabarnacle hwn heibio. Anwyl chwaer, mae meddwl am i roi
o heibio yn felus neillduol weithiau,—nid marw ynddo ei hun, ond yr
elw mawr sudd yw gael trwyddo.”
Syrthiodd cysgodion tragwyddoldeb ar ei henaid pan nad oedd eto ond
ieuanc iawn; daeth y mynyddoedd tywyll i’r golwg pan oedd yn teithio rhan
rosynaidd heulog ei llwybr, a’i hysbryd yn ysgafn a’i ffurfafen heb
gwmwl; y mae nwyf a melusder ieuenctid yn ei chân, a mawredd
tragwyddoldeb hefyd. Am bob un o’i hemynnau gellir dweyd y geiriau sydd
ar ddiwedd ei llythyr,—
“Hyn oddiwrth eich chwaer yn cyflum deithio trwy fyd o amser i’r byd
mawr a bery byth.”
Ac wedi ofni grym pechod, wedi “cario corff o lygredd,” wedi “wynebu’r
afon donnog,” aeth heibio i’r byd mawr a bery byth.
O’r fynwent trois tua chartref Ann Griffiths. I’m cwestiwn parthed hyd y
ffordd cawn amrywiol atebion,—pedair milldir a hanner ebai un, tair
milldir ebai un arall, a sicrhai y trydydd fi mai dwy filldir a hanner
union oedd i Ddolwar Fach. Cerddais i lawr y bryn, croesais afonig red
dan goed cysgodfawr, a dringais ochr bryn sydd ar gyfer y pentref.
Cefais fy hun ar ffordd fryniog, weithiau’n dringo bryn ac yn disgyn yn
ebrwydd wedyn, gan syllu ar addfedrwydd cyfoethog y wlad, a’r haul yn
gwenu drwy gymylau ar y gwlith,—
“Gwlad dda, heb wae, gwlad wedi ei rhol dan sêl,
Llifeirio mae ei ffrwyth o laeth a mêl;
Grawn sypiau gwiw i’r anial dir sy’n dod,
Gwlad nefol yw, uwch law mynegi ei chlod.”
Toc dois at groesffordd ar waelod cwm; trois ar y dde hyd ffordd a’m
denai i’w chysgodion. Ar y naill law yr oedd craig, weithiau’n noeth,
weithiau’n dwyn baich o goed a blodau; ar yr ochr arall yr oedd caeau
gwyrddion serth. Rhedai afonig yn dryloew, dan furmur yn ddedwydd. Uwch
ei phen ymblygai bedw a chyll; estynnai y goesgoch ei phen dros y lan, i
weld ei llun mewn llyn tawel; aml lecyn gwyrdd welais ar fin y dŵr, llawn
o lysiau’r neidr a llafrwyn a’r olcheuraid, gyda chwys Mair a’r feidiog
las dipyn ymhellach oddi wrth y dŵr, a rhedyn tal yn edrych ar eu
prydferthwch oddiar ochr y bryn. Canai miloedd o adar,—ni wiw i mi
ddechre enwi’r côr,—oddigerth pan ddistawent tra canai’r gog, yr hon oedd
heb weld gwair wedi ei dorri yn unlle. Sylwn yn fanwl ar bopeth,
oherwydd gwyddwn fod Ann Griffiths wedi cerdded y llwybr hwn filoedd o
weithiau; gwyddwn mai wrth syllu ar ryw afonig neu fynydd y byddai’n
dechreu canu, ac yna ehedai ei meddwl ymhellach bellach oddiwrthynt at
bethau byd a bery byth. Pwy a ŵyr nad yn swn yr afon hon y canwyd
gyntaf,—
“Ffrydiau tawel, byw rhedegog,
O dan riniog tŷ fy Nuw,
Sydd yn llanw, ac yn llifo
O fendithion o bob rhyw;
Dyfroedd gloew fel y grisial,
I olchi’r euog, nerthu’r gwan,
Ac a ganna’r Ethiop duaf
Fel yr eira yn y man.”
Ac ym miwsig yr afon, gyda’i nodau llon a lleddf, dychmygwn glywed geneth
yn canu o lawenydd ei chalon,—
“Byw i weld yr Anweledig,
Fu farw ac sydd eto’n fyw;
Bythol, anwahanol undeb,
A chymdeithas â fy Nuw.”
Yn nes ymlaen y mae’r afon, fel merch ieuanc yn wynebu treialon byd, yn
disgyn i lawr glynnoedd dyfnach,—weithiau yn y dyrysleoedd, fel pe mewn
anobaith; weithiau’n llithro’n wyllt dros greigiau, fel pechadur afradlon
ar ei yrfa; weithiau’n gorffwys mewn llyn tawel, dan wenu ar yr haul neu
lechu’n wgus dan goed. Ychydig y mae Ann Griffiths wedi ganu am droion
yr yrfa,—Williams Pant y Celyn a’u darlunia hwy o’u canol, a David
Charles Caerfyrddin o fryniau Caersalem,—yr oedd ei hiraeth cryf am Dduw
yn gwneyd iddi hi anghofio blinder ac ofnau’r daith. Ni sonia hi am
demtasiynau, ond er mwyn cael canu am goncwest; ni chân am flinder, ond
er mwyn cael canu am yr Hwn a’i cysurai,—
“Digon mewn llifeiriant dyfroedd,
Digon yn y fflamau tân.”
Toc gadawodd yr afonig a minne gwmni ein gilydd; aeth hi trwy gwm dwfn
tua’r Fyrnwy, dechreuais inne ddringo bryn lled serth, a gwelwn Ddolwar
Fawr ar y llaw dde i mi, dipyn o’r ffordd. Yr oedd y cymylau erbyn hyn
wedi clirio, yr oedd yr hin yn boeth orlethol, ac yr oedd tarw mewn cae
cyfagos yn beichio dros y wlad ac yn dilyn ar fy ol. Daeth i’m meddwl
bennill welais, wedi ei ysgrifennu gan Ann Griffiths â’i llaw ei hun,—
“Er mai cwbl croes i natur
Yw fy llwybur yn y byd,
Ei deithio wnaf, a hynny’n dawel,
Yng ngwerthfawr wedd dy wyneb pryd;
Wrth godi’r groes, ei chyfri’n goron,
Mewn gorthrymderau llawen fyw,
Ffordd yn uniawn, er mor ddyrus,
I ddinas gyfaneddol yw.”
Ni welwn o’m blaen ddim, cyfannedd nag anghyfannedd, ond y llwybr syth yn
mynd i fynu’r bryn, a’r gwrychoedd o bobtu’n gwywo yng ngwres llethol yr
haul poeth. Ond yn y man, wrth edrych ar hyd y llwybr, fel yr oeddwn yn
dynesu at ben y rhiw, gwelwn fynyddoedd pell, fel breuddwyd gŵr ieuanc,
yn ymgodi’n brydferth a gwyrdd. Cerddais hyd ffordd weddol wastad hyd
nes y dois at lidiart y mynydd. Ar yr aswy yr oedd y mynydd rhydd braf,
gydag eithin a danadl poethion a brigau’r twynau’n tyfu ar hyd-ddo, a
bryniau Maldwyn yn hanner cylch y tu hwnt iddo. Ar y dde gwelais
lidiart, a banadlen Ffrainc, yn holl gyfoeth ei chadwyni aur o flodau, yn
crogi uwch ei phen. Eis trwy’r llidiart hon, ac wedi cerdded ychydig
funudau gwelwn Ddolwar Fechan o’m blaen. Nid oes dim yn hynafol nac yn
rhyfedd yn y lle, gwelir ugeiniau o ffermdai tebyg rhwng bryniau hyfryd
Maldwyn. Y mae’r ty’n newydd, a golwg lân a chysurus arno yng nghanol ei
erddi blodau ar lethr y bryn. Ychydig yn nes i lawr, ar waelod y dyffryn
bychan, y mae’r adeiladau,—yr ysguboriau, y beudâi, yr helm drol,—rhai
ohonynt fel yr oeddynt pan oedd Ann Griffiths yn dysgu cerdded gyda’u
muriau. Yn nes i lawr y mae’r cadlesoedd, dan gysgod pinwydd, ac yna
gweirgloddiau dan eu gwair.
Prysurais i lawr at yr adeiladau, gan groesi’r ffrwd sy’n rhedeg o’r
ffynnon,—dyfroedd gloew fel y grisial welodd Ann Griffiths lawer blwyddyn
cyn darllen hanes y dwfr yn tarddu dan yr allor yn seithfed bennod a
deugain Eseciel. Oddiwrth yr adeiladau hyn, dringais i fyny at y tŷ, gan
geisio dyfalu pa fath bobl oedd yno. Eis trwy lidiart yr ardd, a phan
oeddwn yn edmygu’r blodau, daeth hen wraig hardd, a’i gwyneb yn wenau i
gyd, i’m croesawu.
“Dyma Ddolwar Fach, ynte?”
“Ie, dowch i fewn o wres yr haul. Ydech chwi’n dwad o bell, gen mod i
mor hyf a gofyn?”
“Mi gerddais o Lanfyllin; sawl milldir gerddais i?”
“Wyth. Y mae arnoch chwi eisio bwyd; dowch at y bwrdd i gymeryd tamed o
ginio.”
Ni fynnwn ginio, ond gofynnais a roddai hi i mi gwpanaid o ddŵr oer.
Daeth a gwydriad o lefrith i mi, a’r hufen melyn yn felus arno. Lawer
gwaith wedyn, pan yn yfed llefrith a’i hanner yn ddwfr a’i hufen wedi ei
hel yn ofalus oddiarno, bum y’n hiraethu am y glasiad llefrith a gefais
yn Nolwar Fechan. Tra’r oeddym ni’n ysgwrsio, clywem droediad ysgafn ar
y llofft uwchben. Gwelodd y wraig fy mod yn dyfalu pwy oedd yno, a
chododd ei llais i alw,—
“Ann!”
“Ann,” ebe finne, “a ydyw teulu Ann Griffiths yn yr hen gartref o hyd?”
“O nag ydyw, ar ol ei theulu hi y daethom ni”
“A oes rhai o ddodrefn yr hen deulu wedi aros?”
“Nag oes ddim, ac nid wn i a oes rhai o’r hen deulu yn aros ychwaith.”
Wedi i mi gael ysgwrs â’r wraig am amaethyddiaeth, ac â’r ferch am
flodau’r ardd, daeth yr ysgolfeistr, yr hwn a letyai yno, i’r tŷ. Y
mae’n ŵr deallus, yn sylwedydd craff. Dywedai am ei anhawsder i ddysgu
plant Cymreig, oherwydd Sais uniaith yw, a mawr ganmolai gyflymder meddwl
plant y bryniau rhagor plant Saeson y gwastadeddau. Ond ni chlywsai air
erioed am Ann Griffiths; ac edrychai’n ddrwgdybus arnaf, fel pe bawn un
heb arfer dweyd y gwir, pan ddywedais wrtho ei fod yn byw yn nhŷ
emynyddes oreu’r byd.
Ni welais erioed liwiau mwy gogoneddus na lliwiau’r blodau y prydnawn
hwnnw; yr oedd y rhosynau gwylltion, welwn rhyngof ag awyr Mehefin ar
bennau’r gwrychoedd, yn orlawn o oleuni; yr oedd goleuni’r haul yn
brydferthach pan adlewyrchid ef o’u gwynder hwy na phan yr edrychid ar yr
haul ei hun, fel pan yn
“Disgleirio mae gogoniant Trindod
Yn achubiaeth marwol ddyn.”
Wedi’r ffordd hir hyfryd oedd cyrraedd mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa,
a gadael y gwres anioddefol, a myned i mewn i’r eglwys dywell oer. Nid
oes dim neillduol yn yr eglwys; ond tra yr oeddwn ynddi daeth cyfnewidiad
dros y diwrnod,—yn sydyn duodd yr awyr, ymrwygai taranau dychrynllyd
trwyddi, fflachiai mellt nes y byddai’r eglwys dywell yn oleu a
beddergryff teulu Llwydiarth yn ymddangos, fel ysgrif gwledd Belsasar, yn
amlwg ar ei mur. Doi rhyw ddarn emyn o waith Ann Griffiths i’m cof o
hyd,—
“Pan fo Sinai i gyd yn mygu,
Sain yr udgorn uchaf radd,
Caf fynd i wledda dros y terfyn
Yng ngrym yr aberth, heb fy lladd.”
Rhedais drwy’r gwlaw bras trysfawr i’r hen westy hwn, a dyma fi. Y mae
amryw fforddolion fel y finne wedi troi i mewn am nodded ar fy ol, ac
mewn hwyl ysgwrsio â mi. Treiais dynnu ysgwrs am ysbrydion a rheibio,
ond cynnil iawn oedd eu hatebion,—yr oeddwn yn rhy debyg i bregethwr. Yr
oedd yno un dyn deallus a llais dwfn mwyn, ffarmwr o ardal Pontrobert;
nid oedd gan y clochydd air ond ambell i amen yng nghanol ysgwrs y
lleill; yr oedd yno was ffarm, wedi gorfod ymadael o’i le oherwydd yr
“wimwimsa,” fel y galwai yr _influenza_. Efe oedd y prif siaradwr yn ein
mysg. Cwynai nad oedd ganddo unlle ar y ddaear lâs i droi iddo, ie, ei
bod “wedi mynd yn draed moch ac yn botes llo” arno. Wrth weled côt ddu
am danaf, dechreuodd siarad ar bwnc dybiai oedd yn gydweddol â’m chwaeth,
sef Sian Hughes, Pontrobert, glywais unwaith ar stryt y Bala, amser
Sasiwn, yn pregethu yn erbyn y diafol a sol-ffa. “Mi fydde’n son am
iffern, a pheth whithig o bethe, wrth fechgin ifinc,” ebai’r gwas ffarm,
yr hwn a ddychrynasid lawer o weithiau, mae’n debyg, gan bregethau’r hen
wraig. Yr oedd y Sian Hughes honno, os nad wyf yn camgymeryd, yn ferch i
Ruth, morwyn Dolwar Fechan, ar gof yr hon y cadwyd emynnau Ann Griffiths.
Ond y mae’r cerbyd wrth y drws yn disgwyl, rhyw fath o drol ysgafn gwlad,
ac ystyllen ar ei thraws. Y mae’r awyr yn goleuo, y mae’r gwlaw wedi
troi’n wlithwlaw tyner, y mae’r aberoedd yn llawn at yr ymylon, y mae’r
coed yn tyfu i’w gweled wedi’r gwlaw maethlon. Cyn hir bydd dau ar yr
ystyllen groes, mewn trol glonciog, ar ffordd Llanfyllin; a bydd un o
honynt, o leiaf, yn meddwl am emyn, os nad yn ei ganu,—
“Gwna fi fel pren planedig o fy Nuw!
Yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw;
Yn gwreiddio ar led, a’i ddail heb wywo mwy,
Yn ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy.”
[Picture: Dolwar Fechan?]