Y FENYW WENIEITHUS.

Ar wyll y nos, dan dywyll lenni'r hwyr,

Pan guddid gwen yr haul dan orchudd llwyr,

Yn nrws ei thy, yn denawl wenu'n llon,

Mewn esmwyth wisg, a dichell dan ei bron,

Y fenyw deg wenieithus welaf draw,

Yn gwamal droi ei llygaid ar bob llaw,

Nes canfod llanc mwyn hardd-deg, ond heb bwyll

Na deall da i ochel hudawl dwyll.

Gan ddal ei law, hi a'i cusanodd ef,

Ac mewn iaith ystwyth, gyda dengar lef,

Dywedai'n hyf,--"Roedd im' aberthau hedd,

Ond cedwais wyl, a gwnaethum heddyw wledd:

Yr hen adduned ddwys, cywirais hi,

A brysiais heno'n llon i'th gyfarch di:

Fy ngwely drwsiais a cherfiadau gwych,

Ac a sidanaidd lenni teg eu drych;

Mwg-derthais ef ag enaint peraidd iawn,

O aloes, myrr, a sinamon, mae'n llawn.

Tyrd gyda mi,--ni chawn byth gyfle gwell

I garu'n gu,--mae'r gwr yn awr ymhell:

O arian cymerth godaid yn ei law,

Ac ar y dydd amodol adref daw.

Mae dyfroedd cel fel gwin i'r galon brudd,

Cawn hyfryd wledd o beraidd fara cudd."

A'i geiriau teg, ei droi a'i ddenu wnaeth,

Nes cael i'w rhwyd ei galon ffol yn gaeth;

Fel ych yn fud i'r lladdfa aeth yn glau,

Neu fel yr ynfyd cyn i'r cyffion gau:

Heb gofio gwg na llygad craff yr Ior,

Canlynodd hi, gan ddistaw gau y ddor.

Ymysg ei fwyn hoff gu gyfoedion llon,

Lle rhodiai gynt heb ofid dan ei fron,

Nac yn ei dy, ni welwyd mono mwy;

Ei geraint oll, mewn galar gwelid hwy.

Ei dad, mewn dagrau, ro'i ei ben dan gudd,

A'i fam, wrth riddfan, rwygai 'i mynwes brudd.

Wrth wrando llais y fenyw ddengar ddrwg,

Cynhyrfir Ior y nef i wisgo gwg;

Porth uffern yw ei haddurnedig dy,

A'i ffordd i gell oer angau'n arwain sy;

Gweu maglau mae i ddal eneidiau'n gaeth

Yn nyfnder gwae, i oddef bythol aeth;

Os yno'r a, nid oes i'r adyn ffol

Ond gobaith gwan y dychwel byth yn ol.

Gwaith Samuel Roberts · 第 22 / 27 题