Y TWYLLWR HUDAWL.

Mewn hyfryd le o gyrraedd swn y byd,

Y trigai'n llon forwynig deg ei phryd;

Hoff unig ferch ei dedwydd fam a'i thad,

Heb dan ei bron na briw na thwyll na brad.

Pan, gyda'r wawr, y pigai'n llon o blith

Pei-lysiau'r maes a dagrau'r bore wlith,

Y rhosyn coch a'r lili, teg eu drych,

I fritho'n hardd ei swp o flodau gwych,

A phan adseiniai lais yr eos fwyn,

Gan heinif ddawnsio'r gan o dwyn i dwyn,--

O'r braidd, er craffu, gall'sid dweyd ar g'oedd,

Pa un ai dynes ai angyles oedd.

Ond gwywo wnaeth y gwrid oedd ar ei grudd,

A buan ffodd y gan o'i mynwes brudd.

Un hwyr, gan wisgo gwen, rhyw dwyllwr ddaeth

I geisio 'i dal mewn hudawl serch yn gaeth.

Wrth weld ei wen, ei chalon dyner wan,

Heb feddwl drwg, orchfygwyd yn y fan:

A'r gelyn cas, 'nol ei handwyo hi,

Arllwysai wawd, heb wrando ar ei chri.

Ei thad, wrth weld ei gwarth, creuloni wnaeth,

A'i galon falch fel darn o garreg aeth;

Dan erchyll reg--gan droi ei wyneb draw--

Ei gwthio wnaeth o'i dy i'r gwynt a'r gwlaw;

A chloi ei ddrws, gan greulawn dyngu'n ffol,

Na chai hi byth ddychwelyd yno'n ol.

Ar gopa craig, wrth oleu gwan y lloer,

Ei baban gaed yn farw ac yn oer;

A'i ddagrau'n ia tryloew ar ei rudd,

A'i ddwylaw bychain rewent wrth y pridd.

Y fam, yn awr o'i phwyll, yn llwyd a gwan,

A grwydrai'r dydd yn brudd o fan i fan;

A'r nos, mewn lludded dost, eisteddai'n syn

Dan gysgod llwyn, neu fry ar ael y bryn:

Ing ar ol ing drywanai 'i mynwes brudd,

Ond byth ni welid deigryn ar ei grudd.

Yn glaf neu iach, ai allan ar bob hin,

Ac yn ei llaw y cariai gorsen grin,

Gan ddistaw ddweyd o hyd, yn syn ei gwedd,--

"Fy chwaer yw hon, a daw i wylio'm bedd."

Ni soniai byth am gar, na mam, na thad,

Na'i hudwr cas, nac am ei baban mad;

Ymddiddan wnai, bob dydd, a'r gorsen grin,

Heb deimlo dwys effeithiau 'i chystudd blin.

Nes marw dan oer wlith y niwlogf nen,

Heb frawd na chwaer i gynnal pwys ei phen.

O'i llygredd oll ei chyflawn buro wnaed,

Gan Ysbryd Duw, drwy rin y dwyfol waed;

A'i henaid ffodd o'r maglau oll yn rhydd,

Gan hedeg fry i wlad o fythol ddydd.

Ond wrth gyfleu ei chorff i'w wely pridd,

Ei thad, dan guro'i fron, felldig ai'r dydd

Y gwelodd hi o'i dy yn gorfod ffoi,

Mewn cyflwr gwan, heb wybod p'le i droi:

A'i hudwr tlawd a welai, er ei fraw,

Ddialydd llym a'i gleddyf yn ei law;

A'i Farnwr dig ar ddisglaer orsedd lan,

A'i wae'n seliedig mewn llyth'renau tan.

Gwaith Samuel Roberts · 第 23 / 27 题