Y CREULONDEB O FFLANGELLU BENYWOD.

A ysgrifenwyd wrth ddarllen penderfyniad barbaraidd blaenoriaid dideimlad

planfeydd Jamaica, i ddinoethi a fflangellu gwyryfon a gwragedd.

Pe bae gennyt deimlad, pe byddi tyn Gristion,

Fe wridai dy wyneb, fe waedai dy galon,

Weld menyw brydweddol wrth gadwyn yn crynnu,

Dan fflangell anifail yn griddfan a gwaedu;

O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;

Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.

Dwys glwyfir, bob ergyd, ei chorff teg tyneraidd,

Ond dyfnach y clwyfir ei gwylder benywaidd;

Heblaw ei harcholli o'r ddaear i'r ddwyfron,

Mae'r fflangell mewn ail fodd yn cyrraedd ei chalon;

O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;

Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.

Pan oeddit yn faban hi'th wasgai i'w mynwes,

A breichiau o'th amgylch, hi'th gadwai yn gynnes;

Rho'i gusan, dan wenu, i'th gadw'n ddiddanus,

Ac ar ei bron dyner hi'th siai i orffwys:

O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;

Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.

Trywenid ei mynwes gan ingawl ddwys alaeth,

A gwewyr dirboenus, cyn dyfod yn famaeth:

A chreulawn ei gwasgu mewn cyfyng amgylchiad,

Sy'n gofyn ymgeledd, tynerwch, a chariad;

O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;

Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.

Dyngarwch a rhinwedd ymgiliant i wylo,

A chrefydd, o hirbell, saif draw dan och'neidio,--

Gweld gwaedlyd archollion y fflangell gylymog

Yn gwysau plethedig dan ddwyfron y feichiog;

O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;

Tafl ymaith y fflangell, a diyllia'i chadwynau.

Mae Llywydd y bydoedd yn gweled ei chlwyfau,

Mae'n clywed ei chwynion, mae'n cyfrif ei dagrau,

Mae'n codi i ddial--clyw'r daran yn rhuo--

Mae'n gwisgo ei gleddyf, mae bron mynd i daro:

O cryned dy galon! ymostwng mewn dychryn,

Tafl ymaith y fflangell, a dryllia y gadwyn.

Gwaith Samuel Roberts · 第 21 / 27 题