CWYN A CHYSUR HENAINT.

Ymgiliodd y gaeaf, mae'r gwanwyn yn gwenu,

Mae'r oenig yn neidio, a'r durtur yn canu;

Mae'r coedydd, a'r dolydd, a'r gerddi'n blodeuo;

A minnau gan nychdod a henaint yn gwywo.

Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,

Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.

Mae'r i'enctid o'm hamgylch yn heinyf a chryfion,

Yn wridog eu gruddiau, yn llawen eu calon,

Yn siriol gydrodio'n finteioedd diddanus,

A minnau fy hunan yn llesg a methiannus.

Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,

Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.

Bu amser, 'rwy'n cofio, pan gynt 'roeddwn innau

Mor heinyf, a bywiog, a gwridog a hwythau,

A'm dwyfron yn llawen, a'm can yn soniarus;

Ond ciliodd fel cysgod, fy hafddydd diddanus.

Mae f'einoes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,

Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.

Diangodd holl dirion gymdeithion fy mebyd,

O gyrraedd marwoldeb, i dawel fro gwynfyd;

A minnau, heb gymar, adawyd fy hunan.

Mae'm calon, gan hiraeth, yn rhy lesg i gwynfan.

Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,

Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.

Mae ceidwad y babell gan wendid yn crynnu,

A'r heinyf wyr cryfion yn awr yn cydgrymu;

Swn isel, wrth falu, wna'r felin fethedig,

Ychydig yw'r meini, ac oll yn sigledig.

Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,

Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.

Y gloewon ffenestri gan lenni dywyllwyd,

A llydain byrth mwyniant gan henaint a gauwyd;

Y cwsg a lwyr gilia wrth lais yr aderyn,

A baich ar yr ysgwydd fydd ceiliog y rhedyn.

Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,

Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.

Holl ferched cerddoriaeth ar unwaith ostyngir,

A phopeth, wrth araf ymlwybro, a ofn;

Mae chwant wedi pallu, 'does dim rydd ddiddanwch,

Diflannodd pob seren dan ddulen tywyllwch.

Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,

Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.

Y cawg aur a'r piser yn fuan a ddryllir,

Y llinyn ariannaidd a'r olwyn a dorrir;

Ychydig sy'n aros o flodau'r pren almon;

Dadfeilio mae'r babell, llewygu mae'r galon.

Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,

Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddnod.

Hosanna!--'Rwyn teimlo fy llesg gorff yn datod,

Mae'n addfed o'r diwedd i fyned i'w feddrod;

Caiff gysgu heb ddychryn, dros ronyn, yn dawel,

Nes hyfryd ddihuno wrth floedd yr archangel.

Ac yna, heb lygredd, caiff godi'n dra siriol,

I ddedwydd deyrnasu mewn i'enctid tragwyddol.

Ar edyn angylaidd, heb lesgedd na methiant,

Caf esgyn i dawel ororau gogoniant,

I dderbyn y palmwydd, y delyn, a'r goron,

A chlywed peroriaeth nefolaidd gantorion;

Ac yna caf brofi'r gymdeithas a'r gwleddoedd

Sy'n bythol goroni dedwyddwch y nefoedd.

"MAE NHAD WRTH Y LLYW."

Draw, draw ar y cefnfor, ar noson ddu oer,

'Roedd cwch bach yn hwylio heb seren na lloer;

A rhuad y tonnau, a'r gwyntoedd, a'r gwlaw,

A lanwai fynwesau y morwyr o fraw.

Ond bachgen y cadben, yn llawen a llon,

A dd'wedai dan wenu, heb ddychryn i'w fron,--

"Er gwaethaf y tonnau awn adref yn fyw:

Pa raid ini ofni?--Mae Nhad wrth y Llyw."

O blentyn y nefoedd! Paham mae dy fron

Mor ofnus wrth weled gwyllt ymchwydd y donn?

Mae'r dyfnder du tywyll yn rhuo, gwir yw;

Ond diogel yw'th fywyd--Mae'th Dad wrth y Llyw.

Daw'n fuan orfoledd diddiwedd i'th ran;

Draw'n disgwyl mae'th geraint oddeutu y lan:

Y disglaer lys acw, dy hoff gartref yw;

Mae Canan yn ymyl, a'th Dad wrth y Llyw.

Cwyd bellach dy hwyliau, mae'r awel o'th du,

'Rwyt bron mynd i fynwes dy fwyn Brynwr cu;

Mae'th angor yn ddiogel, a'th Gadben yn fyw,

Mae'th gwch yn y porthladd, a'th Dad wrth y Llyw.

Gwaith Samuel Roberts · 第 15 / 27 题