Y DDAU BLENTYN AMDDIFAD.

[Pont Llanbrynmair: sr25.jpg]

Fy ngherbyd safai, ar fy nhaith,

Unwaith wrth westy bychan,

Pan oedd gwen oleu'r heulwen glaer

Yn euro caer y dreflan.

Wrth weled pawb o'm cylch a'u bryd

Ar dawel gydnoswylio,

Aethum i gladdfa oedd gerllaw

I ddistaw ddwys fyfyrio.

Dan briddell las, y tlawd yn llon

Ro'i hun i'w fron glwyfedig;

Ond meini cerf o farmor trwch

A guddient lwch pendefig.

Wrth fedd, dan gysgod ywen grin,

Dau blentyn oedd yn wylo,

Mewn ing a hiraeth ar y pridd,

Lle'r oedd eu mam yn hunc.

Er fod y ddau mewn newyn mawr,

Ar lawr 'roedd darn o fara;

Edrychent arno weithiau'n syn,

Er hyn ni wnaent ei fwyta.

"Fy anwyl blant! gwnewch ddweyd i mi

Pam 'rych chwi mewn cyfyngder,

Ac yn gwastraffu'r bwyd eich dau,

A chwithau mewn fath brinder?"

Atebai'r bach, mewn gwylaidd don,

A'i heilltion ddagrau'n llifo,--

"Yn wir yr ym mewn eisiau llym,

Heb ddim i'w ofer-dreulio.

"Troi'n eneth ddrwg mae Mair fy chwaer,

'Rwy'n daer am iddi fwyta;

Ni chafodd damaid heddyw'n wir,

A dir, hi bia'r bara."

"Nis bwytaf mwy," atebai hi,

"Nes bwyto Henri dipyn;

Mi gefais i beth bara ddoe,

Ond echdoe cadd ef fymryn."

Ar hyn fe deimlwn dan fy mron

Y galon lesg yn gwaedu;

Eisteddais rhyngddynt ar y bedd

I geisio'u hymgeleddu.

Yn dirion gwesgais ddwylaw'r ddau,

Oedd fel y clai gan oerder;

A'r bachgen llwydaidd ataf drodd,

I adrodd eu cyfyngder.

"Ein ty oedd wrth y dderwen draw,

Gerllaw y dolydd gwyrddion,

Lle'r oeddym gynt yn chwareu o hyd

Yn hyfryd a chariadlon.

"Un tro, pan oeddym oll yn llon,

Daeth dynion creulon heibio,

I fynd a'n tad i'r mor i ffwrdd;

Ni chawn mwy gwrdd mohono.

"Ni wnaeth ein mam, byth ar ol hyn,

Ond wylo'n syn a chwynfan,

Gan ddistaw ddweyd, yn brudd ei gwedd,

Yr a'r i'r bedd yn fuan.

"Un hwyr, pan ar ei gwely'n wan,

A'i hegwan lais crynedig

Galwodd ni'n dau, mewn tyner fodd,

A d'wedodd yn garedig,--

"'Fy anwyl blant! Na wylwch chwi,

Gwnewch dyner garu'ch gilydd:

Dichon daw'ch tad yn ol yn glau,

I'ch gwneyd eich dau yn ddedwydd.

"'Ond os na ddychwel byth eich tad,

Cewch Dduw yn Geidwad tyner;

Mae Ef i bob amddifad tlawd

Yn Dad a Brawd bob amser.'

"Yna, ar ol ymdrechu'n gu

I sychu'n dagrau chwerw,

Cusanodd ni, wrth droi 'i phen draw,

Gan godi 'i llaw a marw.

"Ein hanwyl fam ni chawn byth mwy

I'n harwain trwy ofidiau;

Ac ofni'r ym, mewn dirfawr fraw,

Na ddaw ein tad byth adre',

"Er wylo yma lawer dydd

Mewn hiraeth prudd am dano,

Ac edrych draw a welem neb

Yn dod--yn debyg iddo;

"Er clywed fod y mor yn mhell,

Tybiem mai gwell oedd myned,--

Os gallem gyrraedd yno'n dau,

Y caem yn glau ei weled.

"Dan wylo aethom, law yn llaw,

Trwy wynt a gwlaw a lludded,

Gan droi yn wylaidd i bob ty

I holi'r ffordd wrth fyned.

"Gwnai rhai, dan wenu, ymaith droi,

Heb roi i ni ddim cymorth;

Och'neidiai'r lleill wrth wrando'n cwyn,

Gan roddi'n fwyn in ymborth.

"Ond erbyn gweld y mor mawr draw,

Gwnaeth dirfawr fraw ein llenwi;

Ac ofni'r ydym fod ein tad

Anwylfad wedi boddi.

"Ar fedd ein mam 'r ym 'nawr o hyd,

Mewn ing a gofid chwerw,

A hiraeth dwys am fod ein dau,

Fel hithau, wedi marw.

"A wyddoch chwi ddim p'le mae'n byw

Y Duw sy'n Dad amddifaid?

Pe gallem ni ryw fodd Ei gael,

Mac Ef yn hael wrth weiniaid.

"Dywedodd mam mai yn y nef

Yr ydoedd Ef yn trigo:-

A d'wedodd llawer wrthym ni,

Heb os, ei bod hi yno.

"Ac os yw mam 'nawr yno'n byw,

Hi dd'wed wrth Dduw am danom;

A disgwyl 'r ym y llwydda hi

Cyn hir i'w yrru atom."

Gwnaeth hyn im' hoff gofleidio'r ddau,

A sychu 'u gruddiau llwydion,

A dweyd,--"Fel mam, gofalaf fi

I'ch ymgeleddu'n dirion.

"Na wylwch mwy! Dewch gyda mi,

Rhof ichwi fwyd a dillad,

A dysg, a thy, a modd i fyw,

A chewch Dduw'n Dad a Cheidwad.

"Efe yn fwyn a'm gyrrodd i

I ddweyd i chwi Ei 'wyllys:

A diwedd pawb a'i carant Ef,

Yw mynd i'r nef i orffwys."

Gwaith Samuel Roberts · 第 16 / 27 题