Y CRISTION YN HWYLIO I FOR GWYNFYD.

Fel morwr cyfarwydd wrth ddedwydd fordwyaw,

Yn troi yn dra medrus ei lyw a'i ddeheulaw,

Gan ganu wrth ledu ei hwyliau claerwynion

I farchog y cefnllif o flaen yr awelon,--

Mae'r Cristion yn gadael anialdir marwoldeb,

Gan hwylio yn dawel i for bythol burdeb.

Pan ddel y gorchymyn mae'n lledu ei hwyliau,

Heb ofni'r Iorddonen, nac ymchwydd ei thonnau;

Gan wenu heb ddychryn, wrth gychwyn, mae'n canu,--

"O'm golwg yn gyflym mae'r byd yn diflannu,

Diangaf yn fuan o gyrraedd gofidiau,

Tawelu mae'r gwyntoedd, llonyddu mae'r tonnau,

Mae'r heulwen yn gwenu, a'r wybren yn siriol,

Caf nofio mewn moroedd o wynfyd tragwyddol."

Gwaith Samuel Roberts · 第 14 / 27 题