Y LILI GWYWEDIG.

Galar-gan Mam ar Farwolaeth Maban Mynwesol.

Caed Lili teg, mewn hyfryd fan,

Ar gorsen wan yn tyfu;

Ei hawddgar liw, a'i gywrain lun,

Wnai i bob un ei garu;

Ei berchen o anwyldeb ai,

A siriol syllai arno,

Mewn gobaith hoff o'i gadw'n ir

Am dymor hir heb wywo.

Ond ar ddiwrnod tywyll du,

Y gobaith cu ddiflannodd;

Daeth awel oer 'nol heulwen haf,

A'r Lili braf a wywodd;

Mae'n awr yn gorwedd yn y llwch,

Heb degwch yn wywedig;

A'i berchen deimla dan ei bron

Ei chalon yn glwyfedig.

Ochenaid ddwys o'i mynwes wan,

Ac egwan lef sy'n codi,--

"A raid im' golli'r olwg ar

Fy hawddgar wiwber Lili?

Flodeuyn hardd! dy golli raid,

Er dibaid dywallt dagrau;

Llwyr ddiflanedig 'nawr yw drych

Dy unwaith harddwych liwiau.

"Dy addurnedig wisgoedd braf,

Eu gweled ni chaf mwyach;

Wrth syllu ar dy le, nid wyf

Ond gwneyd y clwyf yn ddyfnach."

Ar hyn, pan ydoedd natur wan

O dan y groes yn suddo,

I arllwys balm i'r galon brudd

Daeth gwiw Ddiddanydd heibio.

Yn dirion (nid i beri braw)

Ei ddeheu-law estynnai;

Cyd-deimlo wnai wrth wrando'i chwyn,

Ac mewn iaith fwyn dywedai,

"Na wyla mwy,--dy Lili hardd

Sy'n awr yng ngardd paradwys,

Mewn tawel gynnes nefol fro

Yn ail-flodeuo'n wiwlwys.

"Ei nodd, ei ddail, ei arogl per,

Ei liwiau ter a hawddgar,

Rhagorach fyrdd o weithiau ynt

Nag oeddynt ar y ddaear.

Ei weled gei ar fyr o dro

Yn gwisgo harddwch nefol:

I'r ddedwydd wlad dy gyrchu wnaf,

Lle t'wyna haf tragwyddol."

Gwaith Samuel Roberts · 第 11 / 27 题