MARWOLAETH Y CRISTION.

Gristion hawddgar! Daeth yr adeg

It' ehedeg at dy Dad;

Gad dy lesgedd, hwylia'th edyn,

Cyfod, cychwyn tua'th wlad;

Sych dy ddagrau, dechreu ganu,

Darfu'th bechu, darfu'th boen;

Ti gei bellach dawel orffwys

Ym mharadwys gyda'r Oen.

Er fod afon angau'n donnog,

A llen niwlog dros y glyn,

Gwel dy Briod cu yn dyfod

I'th gyfarfod y pryd hyn;

Dacw'r gelyn wrth ei gadwyn,

Heb ei golyn, dan ei glwy';

Dacw uffern wedi 'i maeddu:-

Gristion! pam yr ofni mwy?

Yn y dyffryn, er mor dywyll,

Gwelaf ganwyll ddisglaer draw,

Wedi 'i chynneu i'th oleuo,

Rhag it' lithro ar un law;

Mae dy Iesu wedi blaenu,

Wedi torri grym y donn;

Pam yr ofni groesi'r dyffryn?

Pam mae dychryn dan dy fron?

Eilia'th gan, mae'r nos yn cilio,

Gwel, mae gwawl yn hulio'r glyn:

Edrych trwy y niwlen deneu,

Gwel drigfannau Seion fryn:

Gwel, mae hyfryd wen dragwyddol,

Heulwen nefol ar y wlad;

Gwel mor ddisglaer deg danbeidiol

Yw brenhinol lys dy Dad.

Gwel y dirif seirian berlau

Wisgant furiau'r nefol gaer;

Gwel ei huchel byrth disgleirdeg,

A'i llydain deg heolydd aur;

Gwel yr afon bur redegog,

Gwel y deiliog ffrwythlawn bren;

Gwel y llwybrau a'r trigfannau

Sydd i'r seintiau uwch y nen.

Gwel y dedwydd brynedigion

Yn eu gynau gwynion draw,

Wedi gwisgo eu coronau,

A'u telynau yn eu llaw;

Yuo'n gorffwys, gyda'u gilydd,

Mewn llawenydd pur dilyth,

Heb na loes, na chroes, na phechod,

Mwyach i'w cyfarfod byth.

Gwel y gosgordd-lu yn cychwyn

I'th ymofyn idd eu mysg;

Gwel dy Brynwr, mewn gwen siriol,

Yn ei hardd gyfryngol wisg;

Clyw, mae'r clychau oll yn canu,

I'th groesawu tua thref;

Clyw bereiddlawn seingar donau

Aur delynau cor y nef.

Gwel dy gerbyd wrth yr afon,

Gwel dy goron,--gad dy gledd;

Cymer bellach dawel feddiant

O ogoniant gwlad yr hedd,

Ffarwel iti, collaf bellach

Dy gyfeillach a dy wedd,

Hyd nes cawn gyfarfod eto

Yn y fro tu draw i'r bedd.

Gwaith Samuel Roberts · 第 10 / 27 题