CAN Y NEFOEDD.

Fy enaid blinedig! cwyd d'edyn yn awr,

Ehed trwy'r wybrennau uwch gofid y llawr,

I glywed nefolion yn seinio'r trwy'r nen

Fawl ganiad i'r Iesu, dy Briod a'th Ben.

Mor hardd Ei frenhinwisg, mor uchel Ei sedd,

Mor ddisglaer Ei goron, mor siriol Ei wedd;

Aur-seren awdurdod sy'n awr ar y fron

Fu gynt yn llif-waedu o glwy'r waew-ffon.

Angylaidd gantorion gydunant mewn can

A seintiau fil miloedd, a'u gwisgoedd yn lan;

A broydd a bryniau tragwyddol y nef

Trwy'r dedwydd ororau adseiniant eu llef.

Y llu archangylaidd ddechreuant y gainc,

Gan barchus gydblygu o amgylch Ei fainc:

Y saint a'u coronau wnant balmant i'w draed,

Gan felus gydganu am rinwedd ei waed.

Pan daniodd Ei fynwes, pan gododd mewn brys,

Gan adael Ei orsedd, a'i goron, a'i lys,

A hedeg heb oedi o fynwes Ei Dad,

Ar edyn trugaredd, at ddyn yn Ei waed;

Pan welwyd E'n Faban mewn gwael egwan gnawd,

Etifedd y nefoedd o'i wirfodd yn dlawd,

Angylion a seintiau a floeddient yng nghyd,

"Gogoniant trwy'r nefoedd, Tangnefedd trwy'r byd."

Pan rodiai o amgylch, gan wneuthur lleshad

I gloffion, a deillion, a chleifion yn rhad,

Gan alw'r blinderog, yn serchog a llon,

I orffwys yn dawel eu pwys ar Ei fron,--

Pan godai yn erbyn pyrth uffern Ei gledd,

Gan siglo sylfeini hen garchar y bedd,--

Dyrchafu yn hyfryd ber-seiniawl wnai'r gan,

A bywiol orfoledd wnai'r nefoedd yn dan.

Ond sydyn!--pan ydoedd pob telyn mewn hwyl,

A'r udgyrn yn seinio fel ar uchel wyl,--

Wrth daro'r nod uchaf cydsyniai'r dorf hardd

Ei weled E'n chwysu mewn ing yn yr ardd.

Pan welwyd E'n gwaedu dan hoelion ar bren,

Pan wanwyd Ei fynwes, pan glwyfwyd Ei ben,

Pan yfodd E'r cwpan, pan gollodd fwynhad

Diddanol gysuron gwedd wyneb Ei Dad;

Pan gododd Cyfiawnder i'w erbyn Ei gledd,

Pan welwyd E'n gorwedd yng ngharchar y bedd,

Dyrysodd telynau cantorion y nef,

Ymlaesodd pob aden, distawodd pob llef.

Ar unwaith ymdaenodd tywyllwch fel llen

Dros harddwych drigfauau dedwyddawl y nen;

Cydwywodd y blodau, dadhwyliodd pob tant,

Llesgaodd pob seraff--pob angel--pob sant.

Ond bore'r adgodiad, ar doriad y dydd,

Pan neidiodd y Cadarn o'i gadwyn yn rhydd,

Gan ymdaith o Edom yn amlder ei rym,

Mewn harddwisg borfforaidd, a'i gleddyf yn llym;

Pan gododd hardd-faner trugaredd a hedd,

Ac yn Ei law waedlyd agoriad y bedd,

Gan floeddio'n fuddugol, "Enillais y dydd--

"Gorchfygais bob gelyn--daw'r caethion yn rhydd,"--

Mil myrdd o gantorion, yn gydsain eu llef,

Ail-seinient yr Anthem, hwyl lawen trwy'r nef;

Gan floeddio caniadau, mewn tonau mor ber,

Nes siglo y bydoedd gan adsain y ser.

Angylaidd osgorddion ehedent mewn brys

I dywys eu Brenin i orsedd Ei lys;

Ar balmant o berlau olwynai i'r nen,

A'r seirian byrth oesawl ddyrchafent eu pen.

'Nol disgyn o'i gerbyd, ac esgyn Ei sedd,

Ei euraidd deyrnwialen estynnai mewn hedd,

Gan ddwyn agoriadau llywodraeth Ei Dad,

Ac anfon i ddynion Ei roddion yn rhad.

Rho heibio 'nawr, f'awen, cyn gorffen dy gan,

Rhag boddi ar unwaith mewn syndod yn lan;

Nid da cynnyg nofio--'rwyt eto'n rhy wan--

Mewn mor o ryfeddod, heb waelod na glan.

I erfyn maddeuant, plyg 'nawr wrth Ei draed,

Ymorffwys am fywyd ar rinwedd Ei waed;

Cei ddianc ar fyrder o'th garchar o gnawd,

I orffwys ym mynwes dy fwyn hynaf Frawd.

Ei wyneb cu hardd-deg gei weled heb len;

Ac yna, dan ganu, coroni Ei ben;

Pan welir y ddaear yn wenfflam o dan,

Mawr fydd dy orfoledd, a melus dy gan.

Gwaith Samuel Roberts · 第 12 / 27 题