Y TEULU DEDWYDD.

Wrth ddringo bryn ar fore teg,

Wrth hedeg o'm golygon,

Gan syllu ar afonig hardd,

A gardd, a dolydd gwyrddion;

Mewn hyfryd fan ar ael y bryn

Mi welwn fwthyn bychan,

A'i furiau yn galchedig wyn

Bob mymryn, mewn ac allan.

Canghennau tewfrig gwinwydd ir

Addurnant fur y talcen,

A than y to yn ddof a gwar

Y trydar y golomen;

O flaen y drws, o fewn yr ardd,

Tardd lili a briallu;

Ac O mor hyfryd ar y ffridd

Mae blodau'r dydd yn tyfu.

Wrth glawdd yr ardd, yn ngwyneb haul,

Ac hyd y dail, mae'r gwenyn

Yn diwyd gasglu mel bob awr

I'w diliau cyn daw'r dryc-hin;

Ar bwys y ty, mewn diogel bant,

Mae lle i'r plant i chwareu;

Ac yno'n fwyn, ar fin y nant,

Y trefnant eu teganau.

O fewn y ty mae'r dodrefn oll,

Heb goll, yn lan a threfnus;

A lle i eistedd wrth y tan

Ar aelwyd lan gysurus;

Y Teulu Dedwydd yno sy

Yn byw yn gu ac anwyl;

A phob un hefyd sydd o hyd

Yn ddiwyd wrth ei orchwyl.

Ychwaith ni chlywir yn eu plith

Neb byth yn trin na grwgnach,

Ond pawb yn gwneyd eu goraf i

Felysu y gyfeillach;

Mae golwg iachus, liwus, lon,

A thirion ar bob wyneb;

A than bob bron y gorffwys hedd,

Tagnefedd, a sirioldeb.

Pan ddel yr hwyr, ac iddynt gwrdd,

Oddeutu'r bwrdd eisteddant;

Ac am y bwyd, o hyd nes daw,

Yn ddistaw y disgwyliant;

Pan ddyd y fam y bwyd gerbron

Gwnant gyson geisio bendith;

Ac wedi 'n, pan eu porthi gant,

Diolchant yn ddiragrith.

Ar air y tad, a siriol wen,

A'r mab i ddarllen pennod;

Ac yna oll, mewn pwysig fodd,

Codant i adrodd adnod;

Yr emyn hwyrol yn y fan

Roir allan gan yr i'angaf,

Ac unant oll i seinio mawl

Cysonawl i'r Goruchaf.

Y tad a dd'wed ddwys air mewn pryd

Am bethau byd tragwyddol;

Y fam rydd ei Hamen, a'r plant

Wrandawant yn ddifrifol;

Wrth orsedd gras, o flaen yr Ior,

Y bychan gor gydblygant;

A'u holl achosion, o bob rhyw,

I ofal Duw gyflwynant.

Am ras a hedd, a nawdd y Nef,

Y codant lef ddiffuant;

A Duw a ystyr yn gu-fwyn

Eu cwyn a'u holl ddymuniant;

Ac O! na fedrwn adrodd fel

Mae'r tawel Deulu Dedwydd,

Mewn gwylaidd barch, ond nid yn brudd,

Yn cadw dydd yr Arglwydd.

Yn fore iawn, mewn nefol hwyl

I gadw'r wyl cyfodant;

Ac wedi ceisio Duw a'i wedd,

I'w dy mewn hedd cydgerddant;

Fe'u gwelir gyda'r fintai gu

Sy'n cyrchu i'r addoliad;

Ac yn eu cor, ym mhabell Ion,

Yn gyson ceir hwy'n wastad.

Ceir clywed mwynber leisiau'r plant

Mewn moliant yn cyfodi,

A'u gweld yn ddifrif-ddwys o hyd,

Ac astud, wrth addoli;

Ni wag ymrodiant i un man

I hepian na gloddesta;

Ond bydd eu calon gyda gwaith

A chyfraith y Gorucha'.

Pob un, a'i Feibl yn ei law,

I'r ysgol ddaw'n amserol;

Ac yn eu cylch fe'u ceir bob pryd

Yn ddiwyd a defnyddiol;

Pan ddeuant adre'r nos yn nghyd

I gyd, a'r drws yn nghauad,

Dechreuant ddweyd yn bwysig rydd

Am waith y dydd, a'u profiad.

Mor fwyn eu can! mor ddwys pob gair,

Ac O mor daer eu gweddi!

A Duw yn siriol wenu ar

Y duwiol hawddgar deulu;

Gwir nad oes ganddynt ddodrefn aur,

Na disglaer lestri arian,

Na llawrlen ddrudfawr yn y ty,

Na gwely-lenni sidan.

Ni feddant seigiau mawr eu rhin,

Na melus win na moethau,

Na thuedd byth i flysio'n ffol

Frenhinol arlwyadau;

Ond mae rhinweddol win a llaeth

Yr iechydwriaeth ganddynt;

A Christ yn Frawd, a Duw yn Dad

A thirion Geidwad iddynt.

Fe'u ceidw'n ddiogel rhag pob braw,

Ac yn Ei law fe'u harwain,

Nes dwyn pob un i ben ei daith

Trwy hirfaith dir wylofain;

Pob un a gyrraedd yn ei dro

Hyfrydawl fro paradwys;

Ac yno'n dawel berffaith rydd

Y cant dragwyddol orffwys.

Gwaith Samuel Roberts · 第 9 / 27 题