BEN DAVIES.

Llyn y Fan.

(GWATWARGERDD).

Mae'r ienctyd yn ffeindio anrhydedd wrth rodio,

'Does dim yn eu blino tra'u dwylo yn rhydd,

Ond dilyn eu trwynau i fyny i'r Banau

I weled y Llynau--dwr llonydd.

Mae yno berllanau o gwmpas y Llynau,

Coed lemon, coed 'falau, yn flodau i'r brig,

Ar dir yn y dwyrain yn ngolwg yr heulwen

Hwy ledan' fel Eden fawledig.

Mae'r carne fel gerddi o ddail y Dwmdili,

Y riw a'r rhosmari yn tyfu o'r don;

Pob brigyn per ogle yn rhedeg o'r hade,

Ac amryw o lysiau gwyrddleision.

Rhyfeddod diddarfod oedd gwel'd y gwylanod

Yn llusgo'r llyswenod, llwyth hynod, o'u lle;

A'r fulfran oedd barod i frathu'r brithyllod,

Wrth neidio at blufod y Blaene.

Nid dyfal ei dafod all rifo'r rhyfeddod,

Na'u cofio 'nol eu canfod yn nghysgod y gwlydd;

Yr hwyaid sydd wylltion, a'r gwyddau ni a'u gwelsom

Yn nofio yn nghrochan y Crychydd.

Os nad y'ch chwi'n credu ini gael y fath rali

Wrth dreulio ein carne drwy'r cernydd o dre,

Wel, codwch eich cilwg i ben y Fan amlwg,

Cewch wel'd yr un olwg a nine.

Cerddi'r Mynydd Du Sef Caneuon Hen a Diweddar · 第 22 / 29 题